Main content

Bendith - Hiwangerdd Takeda

Dyma fersiwn Plu o gân traddodiadol o Japan.

Bendith - Hiwangerdd Takeda

Dyma fersiwn Plu o gân traddodiadol o Japan.

Fe ddaeth Carwyn Ellis (sydd hefyd yn arwain y grwp Colorama) ar draws y hwiangerdd drwy ei bartner Maki, ac mae’n un o’i hoff hwiangerddi.

Fe wnaeth Carwyn awgrymu a chwarae’r gân i Plu, a phawb yn hapus gyda’r dewis.

Ma’r fersiwn yma gan Bendith yn debyg i fersiwn o’r 70au mae Carwyn yn gyfarwydd a hi. Fe recordiwyd y gân fel sesiwn i raglen Lisa Gwilym, a hynny (yn wahanol i’r albwm) hefo’r cynhyrchydd Llyr Pari, Llanrwst gyda’r band a Llyr yn rhannu dyletswyddau cynhyrchu.

Mi fydd y gân ar gael ar EP newydd Bendith, fydd allan ar Chwefror 10fed .

Bendith - Mehefin

Dyma ail sengl y grwp Bendith, sef Carwyn Ellis o Colorama hefo Gwilym, Marged ac Elan o’r grwp Plu.

Mae’n nhw’n gweithio hefo’i gilydd ers diwedd llynedd, pan aeth Colorama a Plu ar daith hefo’i gilydd.

Mae yr albwm gynta allan mewn siopau Cymraeg ers dydd Gwener, ac ar gael ar y wê drwy Spotify, itunes, Amazon ayyb o Hydref 7fed ymlaen .

Fe recordiwyd yr albwm yn stiwdios Acapela, Drwm a ‘Masonic Lodge’ ac fe gynhyrchwyd y CD gam Mason Neely (Cynhyrchydd Cerys Matthews, Saint Etienne, Sufjan Stevens).

Mae nifer o gerddorion gwadd yn ymddangos ar yr albym – yn cynnwys Georgia Ruth a Patrick Rimes o Calan.

Fe ysbrydolwyd yr albwm gan wreiddiau’r aelodau – gan deimlad am deulu, cartref a pherthyn.

Mwy o wybodaeth am Bendith: http://www.bendith.cymru/

Bendith - Danybanc

Dyma sengl gyntaf grwp newydd Carwyn Ellis o Colorama a Gwilym, Marged ac Elan o Plu.

Fe ysbrydolwyd y gân yma (a nifer eraill o ganeuon y prosiect) gan yr ardal yn Sir Gaerfyrddin lle magwyd ei fam a’i nain.

Mae’r sengl allan yn ddigidol dydd Llun 09/05/16, a bydd albwm llawn yn cael ei ryddhau ddechrau Awst yng Nghymru, hefo lansiad rhyngwladol i ddilyn yn yr Hydref.

Fe gafodd yr albwm ei recordio llynedd gyda chymorth y cynhyrchydd Mason Neely, sydd wedi gweithio hefo artistiaid fel Cerys Matthews a Sufjan Stevens.

Mae rhai caneuon Bendith wedi eu clywed yn fyw fel rhan o daith Colorama / Plu llynedd, ac ar y Stiwdio Gefn, ond bydd taith lawn yn cael ei chyhoeddi yn fuan.


Dilynwch Colorama a Plu ar Twitter: @colorama_sound / @pluband