Main content

Brigyn - Gadael Bordeaux

Fe gyfansoddwyd a recordiwyd y gân yn arbennig ar gyfer Sesiwn Sbardun.

Brigyn - Gadael Bordeaux

Fe gyfansoddwyd a recordiwyd y gân yn arbennig ar gyfer Sesiwn Sbardun ar raglen Lisa Gwilym yn ddiweddar.

Mae Ynyr wedi derbyn gazouki ar ôl Alun ‘Sbardun’ Huws; offeryn sydd hefo sŵn gwerinol, llawn - offeryn fel gitâr, sydd wedi’i diwnio yn yr un ffordd â mandolin. Mae’n offeryn sy’n llenwi corff y gân, yn cynnal rhythm y gân.

Wrth fynd ati i gyfansoddi’r gân, roedd y ddau yn awyddus i gael rhywbeth oedd yn eu hatgoffa nhw o Sbardun.

Buon nhw’n pendroni lot – ond yn y diwedd penderfynu cyfansoddi am rhywbeth nath wirioneddol gyffwrdd ynddyn nhw dros yr haf – sef y pêl droed!

Roedd Sbardun hefyd yn hoff iawn o gydweithio ac wedi cyfansoddi i eiriau pobl eraill, felly fe wnaeth Ynyr ofyn i Rhys Iorwerth os oedd ganddo eiriau fyddai’n gweddu i’r fath o gân oedd ganddyn nhw.

Roedd ei eiriau yn cyfleu’r union emosiwn naeth gymaint o Gymry rannu dros yr haf. Mae’r geiriau am brofiadau Rhys yn bersonol – dim ond i un gêm oedd Ynyr wedi gallu mynd – ond y teimladau yr un peth!

Oherwydd fod Brigyn wedi rhyddhau albym y llynedd, cael y gazouki ayyb, mae’r ffôn i weld yn canu o hyd!

Maen nhw wedi cael lot o gynigion i wneud gigs flwyddyn nesa yn barod sy’n gret – mae’r ddau ohonyn nhw’n mwynhau gigio.

Y cynlluniau felly yw mynd amdani gyda’r gigio, a chael CD arall yn barod yn nes at ddiwedd blwyddyn nesa.

Maen nhw wedi profi rhyw ail fywyd yn ddiweddar fel band ac mae’n beth braf fod pobl i weld yn diddori ac eisiau dod i’w clywed nhw.

Sain eitha’ gwerinol sydd i’r gazouki, ac mae hynny falle yn cyfrannu at y cam eitha’ naturiol tuag at swn mwy gwerinol i Brigyn hefyd.

Llwybrau

Dyma gân o albwm fer newydd Brigyn – Dulog, sydd allan ers dydd Sadwrn (05/12/2015).

Mae nifer o’r caneuon ar yr albwm yn dathlu 15 mlynedd ers sefydlu’r wladfa ym Mhatagonia, ac mae dau gerddor o Batagonia – Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin – yn ymddangos ar yr albwm.

Mae nifer o gerddorion gwadd o Gymru hefyd wedi cyfrannu at yr albwm, yn cynnwys Osian Williams (Candelas), Mei Gwynedd (Sibrydion) a Casi Wyn. Mae’r gwaith celf gan Ani Saunders.

Mae dwy gan o sesiwn byw i raglen Dylan Jones yn ymddangos fel traciau bonws ar yr albwm – Deffro a Pentre Sydyn

Hanes Brigyn:
Brigyn (albwm) – 2004
Brigyn2 (albwm) – 2005
Brigyn Bach (sengl) – 2006
Ailgylchu (albwm o ail-gymysgiadau) – 2007
Brigyn3 (albwm) – 2008
Haleliwia (sengl) – 2008
Yr Arth A’r Lloer (sengl) – 2009
Brigyn4 (albwm) – 2014
Dulog (albwm fer) - 2015

Gallwch eu dilyn ar Twitter: @brigyn

I glywed mwy o ganeuon Brigyn: www.brigyn.com