Main content

Trac yr Wythnos: Lily Beau – Dy Wên

Trac yr wythnos yw Dy Wên gan Lily Beau.

Mae Lily Beau yn gantores ifanc (16 oed) o Gaerdydd sydd bellach yn astudio yng Ngholeg Celfyddydau a Cherddoriaeth Dwyrain Llundain. Mae ei dylanwadau yn cynnwys Etta James, Tina Turner, Beyonce, Sam Cooke, Emili Sande a Whitney Houston!

Bydd EP gyntaf Lily allan yn fuan, ond gallwch glywed y trac Dy Wên ar ei thudalen SoundCloud.

Mi fydd hi’n perfformio yn Cafe Jazz Caerdydd ar Hydref 24ain 2015 ac yn Chapter Caerdydd ar Hydref 31ain.