|
BBC Homepage Cymru'r Byd | ||
Contact Us | ||
Deunyddiau Sain ![]() Detholiad o raglenni Radio CymruCyfle i ddysgwyr da ymgyfarwyddo ag amrywiadau'r iaith lafar. 01. Arfon yn siarad â Beti George am ddyddiau ysgol (2.35) Y darlledwr, Arfon Haines Davies yn adrodd ei brofiadau yn ddisgybl mewn dwy ysgol wahanol iawn i'w gilydd Wil Morgan yn cyflwyno adroddiad ar gyflwr y ffyrdd 03. Penawdau'r newyddion (1.00) Cyhoeddwr yn rhestru penawdau'r newyddion 04. Eitem newyddion - Codi tai yn Llanelwy (0.40) Eitem yn trafod problemau ehangu tref fach yng ngogledd-ddwyrain Cymru 05. Pobl ifanc Gwent yn sôn am y Gymraeg (1.35) Disgyblion Ysgol Gwynlliw, Gwent yn esbonio eu hagwedd iach at y Gymraeg Dai Jones yn cyflwyno cais gan wrandawr ar y rhaglen 'Ar Eich Cais' Hywel Gwynfryn yn cofio rhai o ddigwyddiadau blwyddyn arbennig Hanes y Gymraeg yn cael ei siarad yn y gofod am y tro cyntaf 09. Adroddiad tywydd a ffyrdd (1.03) Enghraifft o ragolygon y tywydd ac adroddiad ffyrdd Dyma enghraifft o arddull hamddenol pregethwr yn trin ei destun wrth ei bwysau. Mae'r darn yn cynnwys nifer o dermau crefyddol a diwinyddol 11. Twm Elias yn siarad am bryfed cop (2.05) Yma mae'r Dr Twm Elias yn sôn am rai o'r traddodiadau a chwedlau sy'n gysylltiedig â phryfed cop / corynnod Hanes Guto Siôn, cath o Lanberis, sydd wedi tyfu'n rhy dew Meredydd Evans yn canu cân ychen draddodiadol o Forgannwg 14. Hanes Llywelyn ein Llyw Olaf (3.50) Rhan o feirniadaeth y Dr Geraint Bowen ar gystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch, 1982 15. Pontypridd ac Uganda (5.50) Alun Thomas yn cyfweld ag aelodau 'Pont' - y grŵp sydd wrthi'n datblygu partneriaeth rhwng Pontypridd a Mbale, tref yn Uganda 16. Trafod y newid yn yr hinsawdd (5.50) Tri o bobl yn trafod beth sydd gan y papurau i'w ddweud am y newid yn yr hinsawdd Ymateb pobl i'r newyddion bod Saddam Hussein wedi ei ddal 18. Bardd yn trafod ei bywyd (2.33) Y bardd, Mari George yn trafod ei bywyd a'i hysgrifennu Cafodd Wyn a Megan Roberts eu siomi pan aethon nhw ar eu gwyliau i Weymouth. Mae Wyn yn disgrifio beth yn union a ddigwyddodd 20. Sylwebaeth ar gêm rygbi (2.44) Huw Llywelyn Davies yn sylwebu ar y gêm rhwng Cymry a Seland Newydd yn 2006 21. Dysgu plant gartref (4.08) Trafod addysgu plant yn y cartref wrth i grŵp o blant a rhieni ymweld ag Amgueddfa Wlân Tre-fach 22. Trafod y ffilm 'Wizard of Oz' (3.44) Sgwrs am fersiwn newydd digidol o'r ffilm enwog 23. Trafod cynllun stampiau'r Nadolig (5.58) Trafodaeth am gynllun stampiau Nadolig 2006 y Post Brenhinol rhwng llefarydd Swyddfa'r Post, gweinidog ac anffyddiwr 24. Cofio teulu Sylvia Pankhurst (4.45) Elinor Wyn Reynolds yn siarad am Sylvia Pankhurst, aelod o deulu enwog a frwydrodd dros wahanol hawliau dynol 25. Iolo Williams yn sôn am adar (2.06) Gerallt Penant yn sgwrsio â'r naturiaethwr, Iolo Williams am adar 26. Sgwrs â Ray Gravell am actio (4.40) Y cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr, Ray Gravelle yn sôn am ei yrfa fel actor 27. Trafod y defnydd o 'ti' a 'chi' yn Gymraeg (4.07) Trafodaeth am y gwahanol arferion wrth gyfarch pobl yn 'ti' neu'n 'chi' 28. Sgwrs rhwng Tomos Morse a'r actor Ioan Gruffydd (5.36) Tomos Morse yn holi Ioan Gruffydd am ei waith ac yn rhannu rhai o'i brofiadau 29. Beti George yn cyfweld â'r Dr. Gwynfor Evans (4.32) Beti George yn siarad â'r diweddar Dr Gwynfor Evans am y Cynulliad, mewnfudwyr a'r iaith Gymraeg 30. Sylwebaeth pêl-droed (2.55) Disgrifiad o'r gêm rhwng Cymru ac Ynys Cyprus yn 2006 31. Dafydd Iwan yn sôn am ddechrau ei yrfa (3.15) Dafydd Iwan yn sôn am ddechrau canu a'r dylanwadau a fu arno 32. Dyfan Roberts yn darllen stori arswyd (2.11) Yn y darn hwn mae'r actor, Dyfan Roberts, yn darllen rhan o stori gyffrous 33. Guto Roberts yn sôn am gymeriad gwreiddiol (2.44) Guto Roberts yn sôn am Rol, Croesor Bach, un o gymeriadau gwreiddiol pentref Croesor 34. Atgofion Dr Derec Llwyd Morgan am Gefn-Bryn-Brain (1.08) Rhan o sgwrs gan yr Athro Derec Llwyd Morgan am ei ardal enedigol 35. Golygu'r 'Cymro' - Atgofion John Roberts Williams (2.34) Y newyddiadurwr, John Roberts Williams yn sôn am ei gyfnod yn olygydd ar 'Y Cymro' 36. Jonsi'n sgwrsio â Miriam James am ei gwaith mewn siop lyfrau (3.30) Y cyflwynydd radio, Jonsi, yn sgwrsio â Miriam James, Llangeler, am ei gwaith mewn siop lyfrau ac oriel gelf 37. Beth sydd mewn enw? (4.03) Llinos Angharad o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn sôn am enwi'r caffi newydd ar gopa'r Wyddfa ychydig cyn cyhoeddi'r enw swyddogol 38. Hunangofiant Victor Spinetti (3.04) Evan Morgan yn trafod hunangofiant Victor Spinetti ac yn sôn am ei gysylltiad â'r actor |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |