IAITH
a) Pa ymadroddion a ddefnyddiwyd yn y stori i gyfleu:
yn llydan agored
calon yn curo'n drwm
roedd yn hawdd iddo
diflannwch, ferch
safodd lle roedd e
cerdded heb sŵn
safodd lle roedd e
rhewodd ei waed
y cythraul!
b) Pa arddodiaid sy'n dilyn y berfenwau / berfau hyn yn y stori?
diolch aeth erfyn dal gwrando
gafael cau
c) Pa eiriau sydd ag ystyr tebyg?
fferu dwrdio
bwtri dihiryn
dudew curo
ceryddu bwlyn
bwrw rhewi
gruddiau pantri
cilagored tywyll
gordd bochau
dwrn hanner agored
gwalch morthwyl pren
TAFODIAITH
Mae Dyfan Roberts yn darllen stori ysgrifenedig. Pa wahaniaethau ydych chi'n eu gweld rhwng iaith y stori ac iaith lafar bob dydd? Gwnewch restr o'r prif bwyntiau.
TRAFOD
i) Mae Dyfan Roberts yn darllen stori ysgrifenedig. Pa wahaniaethau ydych chi'n eu gweld rhwng iaith y stori ac iaith lafar bob dydd? Gwnewch restr o'r prif bwyntiau.
ii) Stori arswyd yw hon. Pa elfennau yn y sgrifennu a'r adrodd sy'n peri ei bod yn gyffrous? Trafodwch.
iii) Adroddwch stori am rywbeth cyffrous rydych chi wedi ei glywed neu sydd wedi digwydd i chi'n bersonol.
iv) Mae darllen ar goedd yn sgil anodd. Dewiswch ddarn o stori / nofel i'w ddarllen yn uchel.
YMADRODDION
diolch i'r drefn! diolch byth! diolch i'r nefoedd! diolch i Dduw! diolch i'r mawredd!
YSGRIFENNU
Ysgrif am unrhyw ddigwyddiad arswydus / cyffrous.
Stori yn gorffen. "a fferodd fy ngwaed".
TRAWSGRIFIAD
Cyn i'r milwr gyfri pump, roedd y ddau wedi
diflannu rownd cornel y stryd. 'O, be wnawn ni?',
llefai Jean wrth i Emile ei thynnu ar ei ôl drwy'r
tywyllwch. Rhedodd nes dod i ardd gefn ei gartref.
Diolchodd i'r drefn nad oedd gwylwyr y fan
honno hefyd ac aeth at ffenest y bwtri. Yr oedd yn
gil-agored, ac wedi ei hagor led y pen, arhosodd
Emile am eiliad i wrando, ei goes dros y silff.
Roedd bron yn sicir iddo glywed sŵn rhywun yn
symud yn y tŷ. "Na, dychymyg," meddai wrtho'i
hun. Yna, â'i galon fel gordd, aeth drwy'r ffenestr yn
ofalus. Nid oedd drafferth yn y byd iddo deimlo'i
ffordd o gwmpas y tŷ mewn tywyllwch dudew.
"O'r golwg, ferch. Wyt ti'n clywed?"
Clywodd leisiau'r milwyr yn ceryddu ei chwaer
oddi allan. Arhosodd yn ei unfan am eiliad i
wrando ar Jean yn erfyn am gael mynd i mewn
drwy'r drws i'w chartre." Da iawn Jean", meddai'n
isel, "dal di atyn nhw. Fydda i ddim yn hir nawr".
Yna, i fyny'r grisiau ag ef ar flaenau ei draed.
Agorodd ddrws ystafell wely ei dad a sefyll yno yn
y tywyllwch yn gwrando ar ei galon yn curo fel
drwm. Yna, teimlodd ei ffordd tua'r drôr.
Gafaelodd yn y dwrn a'i agor ac yna fferu am
eiliad. Roedd y sŵn i'w glywed eto. Sŵn fel petai
rhywun yn anadlu'n drwm yn yr ystafell.
"Pwy sy' 'na?" mentrodd ofyn, ei lais yn ddieithr
hollol iddo. Ond ni ddaeth ateb o unman.
Chwiliodd y drôr yn frysiog, y chwys yn rhedeg yn
oer i lawr ei ruddie. Yna, gwaeddodd yn uchel
wrth deimlo llaw galed yn cau am ei law yntau.
"Dim un gair, y gwalch."
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen