BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Bardd yn trafod ei bywyd (2.33)

Y bardd, Mari George yn trafod ei bywyd a'i hysgrifennu

GEIRFA
cyhoeddi; troi a'i ben i lawr; barddoni; annog; amgylchiadau; adlewyrchu; meddwi; anaeddfed; addas; safbwynt; dinesig; agwedd; dyfnder; cyfleu; magwraeth

GWRANDO A DEALL
i) Ers pryd mae Mari George yn barddoni?
ii) Pam roedd hi'n ystyried ei hun yn lwcus yn y brifysgol?
iii) Beth oedd wedi ei sbarduno i ddal ati i farddoni?
iv) Am beth mae pobl yn tueddu i ysgrifennu?
v) Sut mae hi'n teimlo nawr wrth ddarllen ei cherddi cynnar?
vi) Ble cafodd Mari George ei magu?
vii) Sut roedd hi'n wahanol i'r bobl o'i chwmpas?
viii) Beth sy'n "unigryw" yn ei gwaith?
ix) Ym mha fodd mae ei byd wedi newid yn sydyn?

IAITH
a) Cwblhewch y ddwy golofn isod trwy ychwanegu enw neu ansoddair yn ôl y galw.

Enw Ansoddair
dinas .......................
................. trefol
gwlad ......................
................. plwyfol
byd ......................
................ cyfandirol
rhanbarth .......................

b) Gwir neu Anwir
i) 'Noson Tân Gwyllt' yw teitl cyfrol newydd Mari George.
ii) Dechreuodd hi ysgrifennu yn ei harddegau.
iii) Roedd ennill mewn eisteddfodau yn ei symbylu.
iv) Doedd hi ddim yn yfed pan oedd yn y coleg.
v) Cafodd ei magu mewn stryd Gymraeg ei hiaith.
vi) Mae Mari George yn briod ers dros flwyddyn.
vii) Mae hi wedi ysgrifennu llawer yn ddiweddar.
viii) Mae magu plentyn wedi newid ei hagwedd at fywyd.

c) Defnyddiwch y geiriau a ganlyn i gwblhau'r brawddegau:
bardd; awduron; dramodydd; beirniad; hanesydd; nofelydd; cofiannydd; newyddiadurwr.
i) Edward Gibbon (1737-94) oedd yr .......................... a sgrifennodd 'The Decline and Fall of the Roman Empire'.
ii) Roedd Saunders Lewis ac Islwyn Ffowc Elis yn ................. tra gwahanol.
iii) ...................... oedd Charles Dickens.
iv) Dyma'r gerdd orau yn y gystadleuaeth, yn ôl y .......................
v) James Boswell oedd ......................... Dr Johnson.
vi) .................... a ddeuai o Stratford-upon-Avon oedd William Shakespeare.
vii) Roedd Tom yn ......................... a sgrifennai'n gyson i'r Times a'r Guardian.
viii) Mae Edward Lear yn gallu bod yn ...................... doniol iawn weithiau.

TAFODIAITH
"Iaith niwtral ddeheuol ei naws". Ydy hyn yn ddisgrifiad teg o iaith y siaradwr yn eich barn chi?

TRAFOD
i) Beth rydych chi'n hoffi ei ddarllen?
ii) Tasai raid ichi ddewis un llyfr / awdur, beth / pwy fyddai? Pam?
iii) Pa fath o lyfr hoffech chi ei sgrifennu?

YMADRODDION
erbyn hyn; trwy gyfrwng; lot fawr o; troi â'i ben i lawr; eithriadol o dda; tueddu i.

YSGRIFENNU
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd wedi newid eich byd fwyaf?
Pan oeddwn yn ifanc.....
Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia. Cytuno?

TRAWSGRIFIAD
Rwan 'ta, 'da ni'n troi at 'Meddwl y Byd'. Mi gyhoeddodd Mari George o Ben-y-bont ar Ogwr ei chyfrol 'Y nos yn dal fy ngwallt' yn eitha diweddar ond mae . . mae'r nos yn dod â phrofiadau gwahanol iddi erbyn hyn. Mae ei byd hi bellach wedi'i droi â'i ben i lawr a dyma hi yn esbonio sut y bu hynny.

Wel, dw i'n barddoni ers bo fi'n ysgol. Dechreuis i sgrifennu pan o'n i, siwr o fod, tua pymtheg, un ar bymtheg, a wedyn oedd y diddordeb yn dal yna pan es i i'r Brifysgol a ges i ddarlithwyr eithriadol o dda fel Peredur Lynch a Hywel Teifi. Wnaethon nhw'n annog i i barhau i ysgrifennu a wedyn dechreuais i gystadlu yn yr Urdd a o'dd, wrth gwrs, oedd ennill cwpwl o wobre yn yr Urdd wedyn yn bendant yn neud i fi gario mlaen i ysgrifennu.

W i'n credu bod 'ngwaith i wedi newid dros y blynyddoedd. Mae rywun yn tueddu i sgrifennu am eu hamgylchiade nhw ar y pryd a mae pethe 'di datblygu 'da fi, dibynnu beth o'n i'n neud ar y pryd. Falle oedd lot o gerddi fel myfyriwr yn adlewyrchu profiade o feddwi, o gwrdd â ffrindie, o gael cariadon a phethe, a w i'n edrych nôl ar rheini nawr a maen nhw i weld yn anaeddfed iawn erbyn hyn ond falle bod nhw'n addas ar gyfer y cyfnod. A wedyn, w i'n tueddu i sgwennu falle o safbwynt person sy'n byw mewn tre'. Ges i 'ngeni ym Mhen-y-bont a w i'n timlo, y ffaith, nid gymaint bo fi'n berson dinesig ond y ffaith, fi 'di byw 'mywyd i drwy gyfrwng y Gymraeg erioed a doedd dim gymint â hynny o bobol ym Mhen-ybont yn siarad Cymraeg, felly mae'n agwedd i tuag at yr iaith a tuag at Gymru falle, yn wahanol hefyd. W i 'di bod i ysgol Gymraeg ond roedd y bobol ar yr un stryd â fi ddim yn siarad Cymraeg a mae tipyn o hwnnw yn dod drosodd, falle, yn y cerddi. O'n i'n teimlo mewn ffordd yn wahanol iawn iawn yn tyfu lan.

Wel, ers i'r gyfrol gael ei chyhoeddi mae mywyd i 'di newid dipyn. Mewn rhyw flwyddyn a hanner dw i 'di priodi, 'di symud tŷ, a wedi cael babi. Felly, bach o sioc i'r system. Felly does dim lot fawr o ysgrifennu 'di cael ei neud yn y cyfnod 'na. Mae fe'n agor ryw ddrws sydd, chi'm yn gwbod e 'na, mewn ffordd. Mae 'nheimlade 'di newid yn llwyr. Falle o'n i'n edrych ar bethe mewn ffordd du a gwyn o'r blaen ac erbyn hyn dw i'n gweld lot mwy o ddyfnder ym mhethe. Mae rhywun yn meddwl am ei fagwreth ei hunan hyd yn oed a cwestiynu popeth wrth bo chi'n trio magu'ch plentyn y'ch hunan.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy