BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Trafod problem (6.12)

Cafodd Wyn a Megan Roberts eu siomi pan aethon nhw ar eu gwyliau i Weymouth. Mae Wyn yn disgrifio beth yn union a ddigwyddodd

NODYN I'R TIWTOR
Mae'r drafodaeth mewn tair rhan: 1 Natur y broblem 2. Ymateb cyfreithiwr 3. Ymateb y Cwmni. Awgrymir eich bod yn trafod y pwnc fesul rhan gan stopio'r recordiad ar ôl pob cyfraniad.

GEIRFA

Rhan 1: Cyfraniad Wyn Roberts
cysylltu â, dan draed, claear, esgusion, pedwar, diemwnt, cadair fwrdd, cynrychiolydd, cyd-fynd â, cwmni coetys, di-flas, diffyg dŵr, Cyngor Twristiaeth Lloegr, bychan, tridiau, pencadlys,

Rhan 2: Ymateb y cyfreithiwr
cyfanswm, canllawiau, bodoli, camarwain, iawndal, cyd-destun, yn benodol, pennu,

Rhan 3: Ymateb y cwmni
edifar, adborth cadarnhaol, ewyllys da, ysgogi,

GWRANDO A DEALL
i) Ble aeth Mr a Mrs Roberts ar eu gwyliau?
ii) Sut aethon nhw yno?
iii) Nodwch 3 pheth oedd yn bod ar yr ystafell.
iv) Sut roedd y bwyd?
v) Beth aeth o'i le ar y dŵr?
vi) Oedd gan y cwmni gynrychiolydd yn y gwesty?
vii) At bwy aethon nhw i gwyno?
viii) Beth wnaeth Mr Roberts yn union ar ôl mynd adref?

IAITH
a) Cysylltwch y gair ar yr ochr chwith ag un ar yr ochr dde:
diffyg, prif swyddfa
pencadlys, bai
claear, cytuno â
cysylltu â, llugoer cydfynd â, siarad â

b) Cwblhewch y brawddegau hyn trwy ddefnyddio'r geiriau a ganlyn:
cyfanswm; canllawiau; camarwain; pennu; iawndal; cyd-destun.

i) Cyn llenwi'r ffurflen, darllenwch y ................. ar y cefn.
ii) Er y byddwn yn priodi eleni, dyn ni ddim wedi ............. dyddiad.
iii) Gawson nhw ................ ar ôl y ddamwain.
iv) Rych chi'n fy nyfynnu allan o ........................
v) Prynais i chwe eitem. Faint yw'r .....................?
vi) Weithiau mae Tom yn ein................. trwy beidio â datgelu popeth.

c) Dyma rai amrywiadau yn iaith de a gogledd Cymru. Pa rai sy'n cyfateb?
De Gogledd
nawr bwrdd
angladd agoriad
llaeth geneth
allwedd rwan
bord pres
merch budr
arian llefrith
brwnt cynhebrwng

TAFODIAITH
Yn y darn hwn ceir dau berson, un o'r de-ddwyrain a'r llall o'r gogledd-orllewin yn siarad. Dyma rai o'r amrywiadau a glywch: efo / gyda; ogla' / gwynt; dŵr poeth / dŵr twym; ffordd allan / (ffordd ma's).
Sylwch sut mae'r terfyniad -au / -ai yn amrywio > -e / -a.

Sylwch hefyd sut y defnyddir y Saesneg weithiau gan y siaradwyr i gadarnhau ystyr gair neu ymadrodd: cynrychiolydd / rep; cyfanswm / package; go deidi

TRAFOD
i) Trafodwch a oes, yn eich barn chi, achos gan Mr a Mrs Roberts yn erbyn y cwmni teithio. Beth yw'r pwyntiau cryfaf sydd ganddyn nhw?
ii) Gwrandewch yn awr ar farn y cyfreithiwr. Ydych chi'n cytuno'n llwyr â'i farn? Beth, yn eich barn chi, y dylai'r cwmni ei wneud? Trafodwch mewn grwpiau.
iii) Gwrandewch ar ymateb y cwmni. Beth yw eich barn am eu hateb?

YMADRODDION
o dan draed; braidd yn fudr; go deidi; yn benodol; ar ôl cryn drafod; y gorau posib.

YSGRIFENNU
Ysrifennwch ar un o'r pynciau a ganlyn:
a) Gwyliau siomedig
b) Cwyno
c) Fe ges i fy siomi

TRAWSGRIFIAD
Fe gysylltodd Wyn a Megan Roberts o Bwllheli gyda 'Chware Teg' ar ôl gwylie siomedig yn Weymouth ym mis Mai. Yn ôl cwmni ******* oedd yn trefnu'r cyfan, roedd y gwesty o safon pedwar diamwnt ond roedd Wyn a Megan yn anhapus iawn gyda'r gwasanaeth. Dyma Wyn â'r hanes:

Mi fuo ni ar wylia yn Weymouth ddechra mis Mai efo cwmni coaches ******, yn aros yn be oedda nhw'n galw yn Royal Hotel, a siomedig iawn oedd y dyddia gawsom ni yna. Pryder mwya ni oedd bod yr ystafell yn fychan iawn. Oeddan nhw'n eu gwerthu nhw fel 'stafelloedd dwbwl' ond yn amlwg mai stafell sengl oedd hon ac oedd hi mor fychan oedd rhaid ni adael y'n cases a ballu yn yr en suite.

Oedd dim lle yn y stafell o gwbwl i'r cases?

Nagoedd, dim digon o le i adael rheini. Fasan nhw o dan draed yn rywle ynde.

Ie.

Wedyn, fe githon ni siom. Oedd 'na deledu yno ond dwy gadair fwrdd i eistedd arnyn nhw. Doedd 'na ddim cadeirie cyfforddus i ymlacio i ista i fwynhau y teledu a mi oedd y ffenestri braidd yn fudur a hefyd, un o'r pethe gwaetha oedd, ogla mwg mawr drwy'r stafell i gyd a dyda ni, run o ni'n smocio. Oedd y bwyd yn siomedig iawn. Llysia yn oer a pysgod oeddan ni'n gael, a twrci yn ddi-flas iawn ac oedd y pwdina ddim be fasa ni'n galw'n bwdina gwesty pedair seren.

Felly, pan ddewisoch chi'r gwylie yma, y safon 4 seren oedd 'da chi yn y llyfryn, ie?

Wel, i fod, ia.

Felly, oeddach chi'n disgwyl cael rhywbeth o safon go deidi?

Wel, oeddan ni 'di gobeithio, 'de, wedi iddyn nhw ganmol bod nhw ... bod y gwesty mor dda, 'de.

Beth am, chi'n mbod, pethe fel - oedd 'da chi ddŵr twym a pethe felly? Oedd pethe felly'n gweithio'n iawn?

Wel, ar ôl ryw dridia mi ddigwyddodd 'na ddiffyg yn y gwres canolog a fuo ni heb ddŵr poeth am dridia, os dw i'n cofio'n iawn rwan, bo ni 'di goro diodda molchi a shafio a ballu mewn dŵr oer 'de, neu ddŵr claear beth bynnag. Mi nitho nhw ymdrech ond oeddan nhw'n cyfaddef eu hunen bo nhw wedi cael probleme ynde.

Fel arfer, os 'di rhywun yn cael probleme ar wylie mae 'na gynrychiolydd o'r cwmni, rep felly, yno i'ch helpu chi. Oedd 'na rywun fel hyn yn eich gwesty chi?

Nagoedd, doedd 'na neb o'r cwmni yn cynrychioli, nagoedd.

Oedd 'na neb yna o gwbwl?

Nagoedd, dim ond y gyrrwr felly 'de.

Felly, pan aethoch chi i gwyno, cwyno at bwy wnaethoch chi, Wyn?

Wel, at rywun wrth y ddesg yma 'de. Megan a'th i gwyno at y dderbynfa 'de.

A beth oedd eu hymateb nhw?

Wel, mae'n ddrwg gynno ni. 'Da ni'n gneud y'n gora ond 'da ni 'di methu yn yr achos yma yn enwedig efo'r diffyg dŵr, 'de.

Wnaethon nhw gynnig rhoi rywbeth i chi, chi'n mbod, am yr anghyfleustra?

Naddo, ddim o gwbwl, wedyn ddudson ni bo ni'n mynd i godi'r mater i'r pencadlys ar ôl dod adre'n 'de.

A wnaethoch chi hynny?

Do, ar un waith, bron o fewn ryw deugain, bedwar ar ôl dod adre. Ar yr ail ar hugain o Fai oeddan ni'n sgwennu ato nhw.

A beth oedd yr ymateb gesoch chi?

Wel, ryw esboniada, esgusion mwy neu lai ynde, chi'n mbod, yr ystafelloedd yn ychwanegu at gymeriad y gwesty, ond mae gynnyn nhw ffor' allan wrth gwrs does, achos mae o'n deud ynde, mi wnawn ni sicrhau chi bod yr holl ystafelloedd yn cyd-fynd â gofynion o ran maint sy' 'di cael eu gosod lawr gan y Cyngor Twristiaid Lloegr ynde.

Ydy chi 'di bod gyda nhw o'r blaen, Wyn?

Naddo, rioed.

A ewch chi gyda nhw eto?

Wel, na wna mae'n debyg. Faswn i ddim yn meddwl am funud ynde?

Hywel James, cyfreithiwr 'Chware Teg', roedd Megan a Wyn yn anhapus gyda rhes o bethe ar y gwylie yma.

Mae 'na nifer o ffactore. Bosib bod e werth edrych ar rai o'r rheini yn unigol. 'Da chi'n prynu gwylie - mae 'di cael ei werthu fel cyfanswm, fel package, felly mae 'na gyfrifoldeb ar y cwmni i sicrhau bod e o safon digonol. Mae'n rhaid edrych beth sydd yn rhesymol o fewn hynny. Yn gyntaf, mae 'na gŵyn ynglŷn â maint y stafell. Os 'dy nhw 'di hysbysebu e fel stafell ddwbwl, mae 'na ganllawie sy'n bodoli ar beth ydy maint stafell ddwbwl. Dw i ddim yn gwbod o'r ffeithie os ydy e'n dod o fewn y canllawie hynny. Os yn amlwg dyw e ddim yn dod o fewn y canllawie, yna mae 'na gamarwen wedi bod a mae 'na hawl i geisio sicrhau iawndal am hynny. Mae 'na gwynion mwy cyffredinol am safon y bwyd neu safon y glendid ac ati. Dw i'n meddwl bod e'n bwysig edrych ar hynny yng nghyddestun rhai o'r cwynion erill hefyd ond yn eu hunen dydy hynny ddim yn sail. Er enghraifft, mae 'na gŵyn bod 'na fwg yn y stafell, neu arogl mwg, bod rhywun wedi bod yn smygu yna. Os yw'r cwmni wedi hysbysebu stafell fel stafell ddi-fwg neu bod rhywun ddim yn cael smygu ynddyn nhw a bod chi wedi gofyn am hynny yn benodol yna, mae 'na hawlie. Os 'da chi ddim wedi pennu hynny, dw i ddim yn meddwl bod 'na hawl i gael iawndal. Y brif gŵyn yn yr achos yma, yn 'y marn i, ydy'r diffyg o ddŵr twym. Am dridia doedd 'na ddim dŵr twym. Dw i ddim yn meddwl ei fod e'n rhesymol bod rhywun ar wylie, yn talu am wylie, heb - boed e'n wres neu boed e'n ddŵr twym. Mae hynny, yn fy marn i, yn angenrheidiol.

Mi gysylltodd 'Chware Teg' gyda chwmni ******* sawl gwaith i fynegi pryderon Wyn a Megan Roberts ac ar ôl cryn drafod fe ddaeth y datganiad canlynol:

"Mae ******* yn edifar nad oedd Mr a Mrs Roberts wedi mwynhau eu gwyliau yng Nghwesty'r Royal yn Weymouth ar y 14eg o Fai, 2006. Yn naturiol, rydym yn bryderus fod Mr a Mrs Roberts yn anhapus gyda'u llety ac rydym wedi trafod yr holl bwyntiau a godwyd gyda hwy. Mae ****** yn ceisio cynnig y gwyliau gorau posib i'w cwsmeriaid ac rydym yn derbyn adborth cadarnhaol iawn yn gyffredinol. Ar yr achlysuron prin pan mae cwsmeriaid yn anhapus, rydym yn ymdrechu i ddatrys bob problem sydd o fewn ein gallu, mor gyflym â phosib. Fel arwydd o ewyllys da, mae ****** wedi cynnig £300 o iawndal i Mr a Mrs Roberts gan obeithio y byddant yn manteisio ar y cyfle i fynd ar wyliau gyda ni eto."

Tri chan punt o iawndal i Wyn a Megan Roberts ar ôl gwaith caled 'Chware Teg' ond beth yw ymateb Wyn?

Ardderchog iawn. Chware teg, 'de. Diolch i chi am hynny, mae'n siwr gen i, 'de. Oedd be oedda ni 'di anfon atyn nhw ddim wedi ysgogi nhw i neud dim byd. 'Da chi wedi cael ryw atab gynnyn nhw mwy na gawson ni o lawer.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy