GEIRFA
ben bore; swyddogol; cyflwynydd; dynwared; mynwesol; portreadu; disgyblaeth; ta pwy bynnag; rhwydd; cynhyrchydd; cyfarwyddwr; prifardd; plasty; paradwys; her; hynaws; penigamp; boddhad; greddfol
GWRANDO A DEALL
i) Ar ba adeg o'r dydd roedd Gaynor yn siarad â Ray Gravell?
ii) Faint o hyfforddiant actio gafodd Ray?
iii) Ble a phryd actiodd e gyntaf?
iv) Pwy ofynnodd iddo ymddangos ar y teledu gyntaf?
v) Ydy actio'n hawdd, yn ôl Ray?
vi) Ym mha ddrama cafodd e ei ran fawr gyntaf?
vii) Pwy sgrifennodd y ddrama honno?
viii) Ble roedden nhw'n ffilmio?
ix) Oedd e'n hyderus pan ddechreodd e actio?
x) Pwy oedd wedi actio gyda Tele Sevalas?
xi) Beth oedd gwaith Richard Bonner?
IAITH
a) Pa air a glywsoch chi yn y darn ac a restrir isod sy'n cyfleu'r canlynol?
penigamp; paradwys; her; prifardd; hynaws; dynwared; plasty; greddfol
Gweithredu heb feddwl.
Ardderchog
Dymunol
Rhywbeth anodd mae'n rhaid ei wneud.
Lle perffaith
Tŷ anferth
Bardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Siarad a symud fel rhywun arall.
b) Ffurfiwch ferfenwau o'r enwau yn (i) ac ansoddeiriau o'r rhai yn (ii): i) cynhyrchydd: her; portread; disgyblaeth; cyfansoddwr. ii) mynwes; swyddog; greddf.
c) Beth yw'r ymateb cadarnhaol a negyddol (Ie / Nage etc.) i'r cwestiynau a gosodiadau canlynol?
Welaist ti'r rhaglen neithiwr?
Am saith o'r gloch est ti?
Maen nhw yn y tŷ.
Yn y bath roedden nhw.
Ddylech chi ennill?
Fydd y plant yn dod?
Roedden ni'n hwyr ddoe.
Fuest ti allan neithiwr?
Faswn i'n eu hadnabod hi?
Teifion Davies?
TAFODIAITH
Mae dau berson yn sgwrsio yn y darn hwn. Pa dystiolaeth sydd gennych i brofi bod un ohonynt yn dod o'r gogledd a'r llall o'r de? Nodwch eich rhesymau.
Ffurf dafodieithol ar 'ynteu' yn ne Cymru yw 'ta'. Ar lafar mae 'ni waeth pa /pwy' > ta pa / ta pwy. Mae pwy bynnag /beth bynnag / p'un bynnag > ta pwy / ta beth / ta p'un. Hefyd mae 'tua' > sha. P'un o'r siaradwyr sy'n defnyddio'r ffurfiau hyn?
TRAFOD
i) Mewn grwpiau, rhannwch yr wybodaeth sydd gennych am Ray Gravell.
ii) Cyfweld ag aelod arall o'r dosbarth gan ganolbwyntio ar ryw ddawn neu ddiddordeb sydd ganddo / ganddi.
iii) Recordiwch gyfweliad â rhywun yn eich stryd / cymuned.
YMADRODDION
ben bore; yn y bore bach; oriau mân y bore; codi'n fore; o fore gwyn tan nos; bore oes.
YSGRIFENNU
Chwaraewyr / athletwyr sydd wedi gwneud enw mewn maes arall.
Drama deledu fwynheais i.
Bora 'ma, wel, dw i am ddechra drwy sgwrsio â Ray
Gravell. Bore da i chi, Ray.
Gaynor, bore da. Bore dydd Mawrth da i ti a shwt
wyt ti?
Dw i'n dda iawn diolch. Sut 'da chi ar fore, wel, ben
bore fel hyn?
Wel, ar y ffordd - ar ôl gorffen y sgwrs nawr fydda
i'n mynd strêt mewn i'r gawod a wedyn 'ny, bach
o frecwast, gwisgo a mynd mewn i'r stiwdio a
diolch am yr alwad cynnar 'ma.
Croeso cynnes i chi!
Mae'n bleser. Mae'n bleser. Ga i ddweud yn syth
dw i ddim yn actor swyddogol, fel petai. Dw i ddim
wedi cael y'n hyfforddi fel actor o gwbwl ond . . .
Ond na, mae'r het yn ffitio yndydy? Mae gynnoch chi
sawl het. 'Da chi'n gyflwynydd Radio Cymru, Radio
Wales, 'da chi'n gyn-chwaraewr rygbi ond 'da chi yn,
mae'n rhaid ni gofio, hefyd wedi bod yn actio yn y
fflimie. Pryd wnaethoch chi gynta ta, Ray?
Wel, ddechreuodd y peth - y tro cynta erioed i fi
gael rhan, ... wel, fel actor, fel fi'n hunan 'de, mwy
neu lai, oedd nôl, wel, deng mlynedd ar hucen
nawr: Pobol y Cwm, 1975 - 'na'r flwyddyn ges i'n
ddewis i whare dros Gymru. Cynhyrchydd Pobol
y Cwm, yn wir y bachan - y person ddechreuodd
Pobol y Cwm, John Hefin - fe ofynnodd John i fi
os bydden i'n fodlon dod ar, dod fewn i'r gyfres fel
y'n hunan a mewn i'r Deri Arms, a'r pryd 'ny
roedd rhaglen boblogedd iawn ar HTV, Miri Mawr,
ac o'n i'n dynwared un o'r cymeriade, sef Caleb:
"Gwranda 'ma, byti boi ....", a'n ffrind i, ffrind
mynwesol i, Dafydd Hywel, Hywel Evans, fe oedd
yn portreadu'r cymeriad yma yn y siwt 'na chi'n
mbod. Es i mewn i . . . . flasu'r byd 'na - wel, fi'm yn
acto, ond oedd rhai o'r actorion yn Pobol y Cwm
yn acto ond o fod ar y set, oedd e'n wahanol
ddisgyblaeth, Gaynor.
Ydy siwr. Oeddach chi'n mwynhau o, felly?
Wel, oedd e'n rwybeth newydd sbon i fi a dw i'n
meddwl bo ni i gyd, ta pwy bynnag y'n ni, ta ble
bynnag y'n ni, yn meddwl o bryd i'w gilydd, diawch
chi, allen ni neud 'na. Dyw e ddim mor rhwydd, dw
i'n meddwl, â mae e'n ymddangos. Ond John Hefin
- ac rwy'n ddiolchgar iawn i John - gyflwynodd e
fi i ryw fyd a ges i ryw brofiad rhyfedd oherwydd
e, a diolch i ti John, os yw e'n digwydd bod yn
gwrando'r bore 'ma lawr tua Borth 'na yn y
Gorllewin pell - West is best, wrth gwrs.
Oedd raid i chi gael ddeud o doedd?
Oedd raid gweud hynna.
Ond fel chi'ch hun oedda chi yn hwnnw, fel oedda
chi'n deud ynde, ond mi githo chi ran, wel actio go
fawr, os dw i'n cofio'n iawn, ar S4C yndo?
Do.
Hon oedd y gynta wedyn?
Wel ie, oedd hi'n gynhyrchiad BBC Cymru i S4C,
drama o'r enw 'Bonner'. Richard Bonner, a John
Hefin unwaith eto, John oedd y cynhyrchydd a fe
oedd yn cyfarwyddo, a Siôn Eirian - y prifardd
enillodd y goron yn '78 yng Nghaerdydd - Siôn
sgrifennodd y ddrama 'ma. Oedd hi'n ddrama
gymhleth iawn a oedd y lleoliad yn wych - hen
blasdy Syr Harry Llywelyn lan tua Abergafenni.
O'n ni 'na am fis ac roedd actorion profiadol iawn
yn y ddrama yna ond y fi oedd â'r brif ran a o'n i'n
meddwl - diawch .... wel oedd hwnna .... wel oedd
hwnna fel bod mewn paradwys i ddweud y gwir
yn onest.
Oedda chi'n nervous o gymyd y rhan, Ray?
O'n!
Oedda chi?
Wel, yn ofnadw i ddechre hefyd. Oedd 'na un, wel
sawl actor yn y peth, ond Meg Wyn Owen - oedd
Meg Wyn Owen yn actores, mae hi yn actores
brofiadol dros ben, wedi bod mewn ffilmie mawr
gyda Telly Savalas.
Wnaethon nhw gymyd dipyn o berswâd i chi neud yr
un gynta 'na, y'ch chi, achos oeddach chi'n gwbod mi
fasa pawb yng Nghymru yn mynd i edrych arnoch
chi ac yn meddwl amdano chi fel y chwaraewr rygbi,
wrth gwrs. Oeddach chi ofn 'sa chi'n disgyn fflat ar
y'ch gwyneb 'lly neu nithoch chi feddwl, na mae hwn
yn her newydd, mae'n rhaid i fi neud yno?
Wel, oedd e'n her newydd, oedd e yn brofiad arall
er o'n i 'di cael ryw flas - blas bach oedd 'na - ond
y tro 'ma nawr o'n i'n trial portreadu cymeriad y
bachan 'ma, colier oedd yn ddi-waith, Richard
Bonner, ac wrth gwrs, perswâd John Hefin. Chi'n
nabod John, Gaynor. Mae e'n ddyn hyfryd, hynaws
iawn a pan fo John yn gofyn i chi yn y modd mae
e yn, mae'n amhosib i wrthod e.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen