GEIRFA
clasur; adfer; digidol; croesawu; fersiwn; difyr; hudolus; addasu; rhyddhau; cyfarwydd â; corwynt; achlysur; llunio; annatod; effeithio ar; gollwng; tŵr; cymylau; anhygoel; peiriannau
GWRANDO A DEALL
i) Pa mor aml mae'r ffilm wedi bod ar y teledu?
ii) Sut mae'r fersiwn yma'n wahanol?
iii) Sawl fersiwn o'r 'Wizard of Oz' sy wedi ymddangos dros y blynyddoedd?
iv) Sut maen nhw wedi gwella ansawdd y ffilm?
v) Beth sy'n bwysig iawn yn y ffilm, yn ôl John Griffiths?
vi) Beth sy'n digwydd i Dorothy yn y ffilm?
vii) Beth yw lliw a) ei ffrog b) ei gwallt.
viii) Beth oedd lliw ei hesgidiau yn y ffilm wreiddiol?
ix) Pa liw ydyn nhw yn y fersiwn yma?
x) Beth oedd yn arbennig am yr esgidiau yn fersiwn 1999?
xi) Beth gafodd ei ddefnyddio i greu'r corwynt?
IAITH
a) Yn y sgwrs, defnyddiwyd nifer o ferfenwau a ddilynwyd gan arddodiaid. Cwblhewch y brawddegau a ganlyn trwy ychwanegu ffurf gywir yr arddodiad.
Roedd y tywydd wedi effeithio ........... y gêm.
Ydych chi'n gyfarwydd .......... ardal?
Mae hi wedi blino .............. nhw.
Addawodd hi ............ 'r plant y basen nhw'n mynd i'r parc.
Peidiwch anghofio .................. ni!
Dw i ddim yn gallu ateb ............... chi a'ch brawd.
Doeddwn i erioed wedi clywed ................. nhw
Ysgifennais i ............. hi unwaith.
b) Rhowch y gair rhwng cromfachau yn y frawddeg gan dreiglo yn ôl y galw:
Cafodd y ffilm ei gwneud tua ..................... yn ôl. (pum/blynedd)
Fe welais ambell ................... ar y mynydd. (dafad)
.................. e mo'r tŷ wedi'r cyfan. (Prynodd)
Ydy'r tocyn ...................... Dewi? (yn/poced)
Bwytais i .............., .............., a ................... (bara/caws/teisen)
Dewch yma ar unwaith, ....................! (plant)
Ydy'r sgert ................ yn rhy ..............? (coch/tyn)
Oes gennyt ti ......... i'w .............. i'r ferch ............? (punt/rhoi/tlawd)
c) Cywirwch y brawddegau hyn.
Gwelodd ferch bachgen yn mynd heibio.
Dewch â'r car os mae'n bosibl.
Pwy lyfr prynaist ti?
Roedd y siop canllath o'r gorsaf.
Sawl bechgyn sydd â diddordeb yn rygbi?
Dyma'r papur y gofynnaist ti am.
Cofia fynd i'r Swyddfa'r Post.
Mae Mari'n blentyn dda iawn.
TRAFOD
i) Siaradwch am eich hoff ffilmiau.
ii) "Mae oes y sinema leol ar ben". Trafodwch.
iii) Soniwch am y tro diwethaf aethoch chi i'r sinema.
iv) Teledu v. Sinema. Grwpiau i amddiffyn y naill a'r llall.
v) Sôn am y profiad o grio, chwerthin neu gael ofn yn y sinema.
YMADRODDION
eto fyth; pob dim; rhan annatod; dathlu achlysur
YSGRIFENNU
Cymry ym myd y ffilm.
Portread o actor / actores.
Fy hoff gymeriadau cartŵn.
TRAWSGRIFIAD
Wel, nawr te, ddiwedd yr wythnos hon bydd cyfle
i weld y clasur o ffilm,'Wizard of Oz', yn y sinemâu
unwaith eto. Mae 'di bod ar y teledu gannoedd o
weithia wrth gwrs ond mae nôl yn y sinema a
hynny wedi'i hadfer yn ddigidol. Un fydd wrth ei
fodd gyda hyn, dw i'n siwr, ydy 'ngwestai nesa i, sef
Paul Griffiths. Paul, helo, p'nawn da.
P'nawn da. Sut hwyl?
Yn iawn diolch yn fawr. Paul, yn croesawu'r fersiwn
newydd yma o'r clasur?
Wel ia, fersiwn newydd eto fyth ynde. Mae 'na sawl
fersiwn wedi'u rhyddhau dros y blynyddoedd felly.
Mae hwn, neu hon, fydd y fersiwn ddiweddaraf i
ychwanegu at restr hir iawn felly. Yr hyn sy'n ddifyr
iawn ydy mae'r stori yma am wlad hudolus oedd
wrth gwrs wedi cael ei haddasu gymaint dros y
blynyddoedd o ffilmiau du a gwyn i gartŵn ac erbyn
hyn rwan yn cael ei ail-ryddhau neu drydydd neu
bedwerydd ryddhau felly ar y sgrin fawr a ry'n ni'n
edrych ymlaen yn fawr iawn felly.
Felly, pan maen nhw'n addasu rywbeth fel hyn yn
ddigidol, beth fydd y gwahaniaeth i ni nawr sy'n
mynd i'r sinema? Fydd y llunie yn fwy siarp? Fydd
y lliwie'n well? Beth - pa wahaniaeth welwn ni?
Dw i'n credu y bydd o. Dw i'n credu yr hyn maen nhw
'di neud tro yma ydy wedi glanhau y ffilm wreiddiol
felly a wedi tynnu'r llwch a'r scratches bach sydd yn
medru bod ar wyneb y ffilm felly ac fydd o'n edrych
yn lot mwy clir ynde. Fydda nhw hefyd wedi chwara
o gwmpas efo'r lliwia achos mae lliwia yn holl bwysig,
wrth gwrs, yn y ffilm yma. I'r rhai sy'n gyfarwydd â'r
ffilm, mi gofiwch chi bod Dorothy druan yn cael ei
chodi gan y corwynt a mae cychwyn y ffilm yn ddu a
gwyn a wedyn mae'n cyrradd y wlad arbennig yma,
mae'n agor y drws a 'da chi'n cael gweld y môr o liw
'ma, ' da chi'n gwbod, mae o mor mor gry' a mor
effeithiol. Mae pob dim - mae ei ffrog hi'n las, mae
ei gwallt hi'n goch, mae'r ffordd yn felyn, mae'r dail yn
wyrdd, a mae'r lliw jyst yn eich taro chi ynde, yn
amlwg, a dyna y rheswm pam dewis ei neud o yn y
modd yna 'lly. A hyd yn oed y sgidia ynde - sgidia
enwog coch oedd, gyda llaw, yn sgidia arian yn y stori
wreiddiol ond bod cyfarwyddwr y ffilm wedi mynnu'u
troi nhw'n goch er mwyn gneud mwy o effaith ag i'r
sgidia sefyll allan, fel petai.
A mae rhywun yn gweld bob Nadolig mae 'na
sgidia coch yn debyg iawn i sgidia Dorothy yn y
siope, bob Nadolig?
Wel, oes, oes. Mae'r slipars coch neu'r ruby slippers
yn enwog iawn wrth gwrs, erbyn hyn a dw i'n credu
un waith, i ddathlu achlysur arbennig - pen-blwydd y
ffilm nôl dw i'n credu tua 1999, fe wnaethon nhw
lunio pâr o slipars allan o rubis pur. Wel, fedrwch chi
ddychmygu be oedd gwerth rheini ond mae'r sgidia
dw i'n meddwl, a'r sgidia coch yn arbennig, wedi dod
yn rhan annatod o hanes a holl fodolaeth y ffilm.
Achos o'n nhw'n torri tir newydd mewn mwy nag
un ffordd gyda'r ffilm on'd o'n nhw?
Wel, oeddan, oeddan. Oedd yr effeithia hefyd, wrth
gwrs, dyna rywbeth oedd wedi creu cryn draffarth i
bobol oedd 'di ceisio addasu y stori yma dros y
blynyddoedd - oedd sut i greu y corwynt yn enwedig,
ynde, sy'n codi'r tŷ a'r hyn wnaethon nhw yn y ffilm, y
fersiwn wreiddiol yma o'r ffilm, oedd i greu .... na'thon
nhw adeiladu tŷ bychan a'i ollwng o, os leciwch chi, o
ben to'r stiwdio a wedyn yn chwara'r ffilm am yn ôl
fel bod o'n ymddangos bod y tŷ yn disgyn arnon ni yn
hytrach nag yn disgyn oddi wrtha ni. Hefyd, wnaethon
nhw adeiladu corwynt a be oedd y corwynt ond ryw
dŵr o ddefnydd, ryw ddeg troedfedd ar hugain, ac eto
rhoi top y tŵr yn sownd ar do y stiwdio, ei waelod o
yn y llawr a symud y dŵr yn ôl a mlaen efo, wel, cymylau o Fullers Earth, i'r llwch 'ma i greu yr effaith
bod y gwynt 'ma, a mi oedd hwn i gyd yn betha, 'da
chi'n gwbod, ar y pryd oedd yn anhygoel felly a
peirianne gwynt 'ma sy'n creu y teimlad, a wrth
wylio'r ffilm rwan mae rwun yn cael y teimlad bod y
gwynt 'ma'n gry.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen