GEIRFA
anifeiliaid anwes; cyw iâr; medru symud; sbriws; prydau bwyd; llusgo
GWRANDO A DEALL
i) Beth yw enw cath Mair Ffowcs?
ii) Beth sy'n bod ar y gath?
iii) Pa enwau sydd gan y pentrefwyr arno?
iv) Pryd mae e'n bwyta cyw iâr?
v) Beth arall mae e'n ei fwyta yn ystod y dydd?
vi) Sut mae e'n symud?
vii) Ble mae'r gath yn hoffi mynd?
viii) Sut rydyn ni'n gwybod ei fod yn fawr?
IAITH
a) Beth yw'r enw gwrywaidd / benywaidd cyfatebol?:
cath cwrcyn / gwrcath
........ ci
llewes ..............
caseg ...............
.......... mochyn
iâr ..............
.......... clacwydd
buwch ..............
b) Dywedir am y gath ei bod 'yn bwyta fel ceffyl benthyg'. Pa rai, yn eich barn chi, sy'n cyfateb?
Yn yfed fel paun
Yn rhegi fel mochyn
Yn siarad fel lladd nadroedd
Yn rhochian fel pwll y môr
Yn gweithio fel ych
c) Mae ystyr rhai geiriau yn amrywio yn y de a'r gogledd. Enghraifft o hyn yw pan yw Jonsi yn dweud "Brwnt, 'te?'. Ystyr 'brwnt' yma yw 'creulon / cas'. Yn y de, yr ystyr yw 'aflan'. Ceisiwch weld beth yw gwahanol ystyron y geiriau hyn:
allt; diniwed; llofft; blin.
TAFODIAITH
Mae'r ddau siaradwr o Wynedd. Faint o ôl tafodiaith sydd ar eu sgwrs o ran: GEIRFA; TERFYNIADAU GEIRIAU; YMADRODDION; TONYDDIAETH?
Ystyriwch y sgwrs o dan y penawdau hyn.
TRAFOD
i) Anifeiliaid anwes - mantais neu rwystr? Trafodwch.
ii) Cymharwch gathod a chðn fel anifeiliaid anwes.
YMADRODDION
bwyta fel ceffyl benthyg; yn ôl y sôn.
Pan nad yw Mair Ffowcs yn gallu cofio gair, mae hi'n defnyddio 'pethma' (thingamy). Y gair yn y de yw 'bechingalw'. Maen nhw hefyd yn cyfleu 'whatsit' a 'whatyoucall'!
YSGRIFENNU
Portread o anifail anwes.
Anifeiliaid mewn chwedlau, ffilmiau neu nofelau.
Mae anifeiliaid anwes yn cael gormod o sylw. Trafodwch.
TRAWSGRIFIAD
Roedd anifeiliaid anwes yn obese ac un felly 'di
cath Mair Ffowcs o Lanberis, Guto Siôn. Yn ôl bob
sôn, mae'r hen Guto Siôn yn byta fatha ceffyl
benthyg a mae pentrefwyr hen bentra bach
Llanbêr yn ei alw'n "Fat Cat" - brwnt hefyd 'te?
I frecwast de, mae'n cael sachet pysgod te - w'ch
chi'r sachets bach 'na, un o'r rheina. Wedyn, cyw iâr i
ginio. Fydda i'n gneud saith iddo fo'n barod . . . o beth
'na a wedyn fyddan nhw'n cymyd un bob dydd a
wedyn crunchies i de a bwyd arbennig gan y vet, SD,
i swpar.
Mae'n byta'n well na chi Mair?
(chwerthin) . . . yndi . . .
Ydi o'n medru symud rywfaint?
O yndi, tad, mae o reit sbriws. Mae o'n gallu symud
yn dda iawn.
Symud at ei bowlan fwyd, ia?
Na, dydio ddim mor gymaint â hynny. Na, mae o reit
. . mae'n mynd allan. Mae'n mynd hyd y caeau 'ma
a betha felly.
'Da chi am roi llai o bryda bwyd iddo fo?
Wel dw i ofn bydd raid i mi. Mae'i fol o'n llusgo hyd
lawr bron. . (chwerthin)... fel mae hi a mae pawb yn
alw fo yn famma yn - Sais yn alw o'n Fat Cat, rywun
arall yn alw fo'n Black Panther a rywun arall ddoe ar
y BBC 'di alw fo'n Big Black Cat.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen