GEIRFA
Cymhleth; sylwebydd; cysylltu; drwgdybio; parch; doethuriaeth; aruthrol; cyfoedion; aelodau seneddol; gwahaniaethu; unigolyn; amrywiaethau; cymhlethdodau; cenhedlaeth; sefydlu; trafferthion; canolbwyntio; ffemenistiaid; cymysgwch; bodoli
GWRANDO A DEALL
i) Sut mae'r cyflwynydd yn disgrifio sefyllfa 'ti' a 'chi'?
ii) Sut mae Gwion Rees yn cyfarch y rhan fwyaf o bobl?
iii) Sut mae Alun Wyn Bevan yn wahanol i Gwion?
iv) Sut roedd Alun yn cyfarch plant pan oedd yn athro?
v) Pryd bydd Alun yn teimlo'n anhapus?
vi) Sut mae'r sefyllfa'n haws yn Saesneg?
vii) Beth yw'r sefyllfa rhwng Alun Wyn Bevan a'i blant?
viii) Beth oedd yr esboniad a gafodd Gwion gan athro?
ix) Daearyddiaeth sy'n penderfynu patrwm defnydd 'ti' a 'chi'?
x) Beth oedd arfer Alun Wyn Bevan wrth ddysgu oedolion?
IAITH
a) Pa ffurf (ti/chi) fyddech chi'n ei defnyddio yn y sefyllfaoedd hyn?:
Cyfarch ffrind agos.
Disgybl yn siarad ag athro.
Siarad â phlentyn ifanc
Athro yn cyfarch dosbarth.
Holi plismon ar y stryd.
Siarad â'ch plentyn.
b) Rhowch y ffurf 2il berson unigol neu luosog, yn ôl y gofyn:
dere .......................
................. dos
gwnei .......................
................. deuwch
est ti .......................
................. gwnewch
dylet .......................
................ gwyddoch
c) Cwblhewch y brawddegau hyn trwy ddefnyddio ffurf briodol yr 2il. berson
i) ................ ti'n rhoi £30 am hwn, taset ti'n cael cyfle?
ii) Os .............. di wrth yr eglwys am 7 o'r gloch, cei di lifft.
iii) Fe ddof i os ................... chi.
iv) ............... chi'n gallu dod heno
v) Pan ........... di yno, fe weli di'r eglwys gadeiriol.
vi) ................. chi aros yma, os gwelwch yn dda?
vii) ........... ti'n ŵr bonheddig, baset ti'n agor y drws i mi.
viii) Pam ................ ti ddim i'r ysgol ddoe?
ix) Os ydych am bryd da o fwyd, ............. i'r Ritz.
x) Pam ............... ti ddim yn y dosbarth neithiwr?
TRAFOD
Ydych chi'n teimlo'n hapus / hyderus yn defnyddio'r ddwy ffurf, 'ti' a 'chi'?
Holwch siaradwyr Cymraeg yn eich ardal am eu harfer wrth ddefnyddio 'ti' a 'chi' a dewch ag adroddiad yn ôl i'r grŵp.
YMADRODDION
Mewn rhai ardaloedd o'r gogledd defnyddir y ffurf 'chdi' yn lle 'ti' ac fe welwch y ffurf hon bellach mewn llenyddiaeth dafodieithol.
YSGRIFENNU
Ar ôl siarad ag eraill, nodwch y sefyllfaoedd lle y byddwch chi nawr yn defnyddio 'ti' a 'chi'.
TRAWSGRIFIAD
Mae'n gallu bod yn sefyllfa gymhleth a sensitif ar
adege. Pryd 'da chi yn galw rywun yn 'chi' neu'n 'chdi'
neu 'ti'? Dw i'n galw 'nhad yn 'chdi' a mam yn 'chi',
ymysg petha erill, a pheidiwch â gofyn pam. Ar y
rhaglen nôl ym mis Mai mi ges i ymateb y sgriptiwr
a'r cyn athro, Gwion Rees o Efail Isaf, ger Pontypridd,
sy'n galw'r mwyafrif o bobol yn 'ti', a rhywun sy'n
galw'r mwyafrif o bobol yn 'chi', sef y sylwebydd rygbi
a'r cyn brifathro, Alun Wyn Bevan.
Dw i 'di galw'n rhieni yn 'chi', dw i'n galw 'ngwraig
yn 'chi' ac, a bod yn onest, cyn bod rhywun yn
cysylltu â mi o'r cyfrynge o'n i rioed wedi meddwl
ryw lawer am y peth. Er enghraifft, o'n i'n meddwl
yn ôl i 'nyddiau ym myd addysg. O'n i'n galw bob
bachgen yn 'chi'... rwy'n flin ... yn 'ti', ond wedyn
pob merch yn 'chi'. Ond . . .
Am ba reswm?
Mae'r peth yn rhyfedd a bod yn onest.
Oedd gynnoch chi ryw reswm i neud hynny?
Na, dw i'm yn credu ond mae'n rhaid fi ddweud,
pam mae rhywun dw i ddim yn ei adnabod yn dda
iawn yn 'y ngalw i yn 'ti', rwy'n dechre drwgdybio
chi'n gwbod, yndife. Mae'r un peth yn Ffrangeg a'r
'tu' a'r 'vous' 'ma. Falle bod, fel dwedsoch chi, y
ffaith yn Lloegr ac yn y Saesneg mai 'you' yw pawb
yn neud pethe'n haws o lawer ond ie, dw i - falle
bod e'n ymwneud â pharch at rywun. Dw i ddim
. . . dw i ddim yn hollol .... dw i ddim yn gwbod ond
pob ffrind sy gen i - os dw i'n nabod rhywun yn
dda iawn yna 'ti' yw nhw a mae nifer o ffrindie, a
bod yn onest, dw i wedi galw 'chi' am gyfnod a
wedyn dod i nabod nhw'n dda ac yn sydyn reit
mae'r 'chi' yn troi'n 'ti'.
Ia, ond 'da chi yn dal i alw'ch gwraig yn 'chi'. Be' mae
hynny'n ddangos?
Ia, wel, dyna ni, parch aruthrol mae'n debyg yndife
a 'chi' mae hi'n 'y ngalw i. Wedyn dw i'n galw'r plant
yn 'ti' ond maen nhw'n galw fi yn 'chi'. Felly mae
testun doethuriaeth fan hyn w i'n credu.
Mae 'na raglen lawn o Taro'r Post, diolch i'r drefn.
Rwan ta Gwion, dudwch y'ch hanes chi. 'Da chi'n fwy
o berson 'ti'?
Odw, ar y cyfan. Fel o'dd Alun yn esbonio nawr,
o'dd athro 'da ni yn yr ysgol hefyd na'th
ddehongli'r peth i ni fel plant a dweud ddyle ni
alw'n cyfoedion a'n cyfeillion yn 'ti', ac i bobol sydd
'da ni barch iddyn nhw, i alw nhw'n 'chi' ac o
ganlyniad na'th cyfaill da i fi alw bob athro ac
athrawes, neu bron bob un, yn 'ti' am flynyddoedd
wedyn! Fyddai'n ddiddorol gweld, gyda'r cyfaill 'ma,
mae nawr yn gweithio gyda lot o'r Aelodau
Seneddol ac ... y ... gyda digwyddiade heddi, licsen
i wybod pa rai ma' fe'n alw'n 'chi' a pa rai ma' fe'n
ei alw'n 'ti', a pam.
Pwy mae o'n barchu, ond beth amdanoch chi? Ydach
chi'n gwahaniaethu?
Lle 'da chi'n gwahaniaethu?
Yn y dadansoddiad mwya' syml gellir defnyddio 'ti'
tra'n ymdrin ag unigolyn a 'chi' tra'n cyfeirio at fwy
nag un person ond, fel mae Alun yn awgrymu, fel
gydag unrhyw beth yng Nghymru, mae 'na
amrywiaethe a mae 'na gymlethdode. Felly fydden
i yn sicir yn defnyddio 'chi' i'r lluosog ond mae hyd
yn oed tystiolaeth yn dangos bod yr arferion yn
amrywio o genhedlaeth i genhedlaeth, nage jyst yn
ddaearyddol ond o ran oed pobol. I radde, mae'r
'ti' neu'r 'chi' ni'n galw rhywun yn sefydlu'r
berthynas sy' rhyngon ni i bob bwrpas. Pan wnes i
ymchwil ar y peth ddes i ar draws un cwpwl, hen
gwpwl, a'r wraig yn cyfeirio at y gŵr fel 'chi' a'r gŵr
yn cyfeirio at y wraig fel 'ti'. Nawr dw i'm yn
gwbod beth fydde'r ffeministied yn neud mas o'r
frawddeg fel'na.
Ia, o ran y dysgwyr, mae'r ddau ohonoch chi wedi bod
yn athrawon. Alun, faint o gymhlethdode a
thrafferthion roedd hyn yn beri i ddysgwyr?
Odi, dw i 'di cael y profiad yn ystod y blynyddoedd
i ddysgu Cymraeg i oedolion a dw i yn . . .
oherwydd yr arferiad 'ma yn naturiol yndife ... dw
i 'di - mae'r rhan fwya o'r rhai dw i wedi ddysgu,
ni 'di canolbwyntio ar y 'chi' ond mae'n amlwg iawn
wedyn, dw i'n siarad 'da dysgwyr sy' wedi cael eu
dysgu o bosib mewn canolfanne erill a maen
nhw'n canolbwyntio ar y 'ti', felly mae e yn
gymysgwch llwyr yndife, chi'n gwbod. Mae'n
dibynnu ar yr athro, ond eto does 'na ddim shwd
beth â norm yn bodoli.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen