GEIRFA
Ymchwil; awgrymu; gwneud drygau; gwaethaf; euog; cyfaddef; llofruddio; Llys y Goron; cipio; treisio; cynlluniau; pryderon; gwyliadwriaeth; carcharor
GWRANDO A DEALL
Gwir neu anwir?
i) Mae pobl ifainc Prydain gyda'r gorau yn Ewrob.
ii) Roedd y baban a laddwyd yn fis oed.
iii) Cafodd merch ei chipio yn Wrecsam.
iv) Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un awgrymu ehangu'r marina.
v) Mae cynghorwyr Dinbych am geisio gwella bwyd ysgol.
vi) Roedd sôn am gael carcharor trwy'r post!
IAITH
a) Gwrandewch ar y penawdau eto a chwblhewch y brawddegau hyn:
i) Ieuenctid Prydain ydy'r ..................... yn Ewrob.
ii) Mam ifanc o Abertawe yn euog o .................. marwolaeth ei babi.
iii) Dyn wedi ei gyhuddo o gipio a ..................... merch ifanc yn Wrecsam.
iv) Cynlluniau ar y .................. i ddatblygu marina Pwllheli.
v) Cynghorwyr yn gofyn am arian i wneud yn siwr y bydd ................. ar gael yn y sir.
vi) Byddwch ar eich .................. rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post!
b) Diffiniwch yn eich geiriau eich un:
ymchwil; carcharor; llofruddio; awgrymu; Llys y Goron; cipio
c) Ailysgrifennwch y brawddegau hyn gan ddefnyddio ffurf gryno amhersonol y ferf:
Cafodd lleidr ei ddal. Daliwyd y lleidr.
Bydd y ffair yn cael ei hagor gan y Maer.
Cafodd y bachgen ei garcharu.
Mae'r cyngerdd yn cael ei threfnu gan Gyngor y Dref.
Cafodd y baban ei ladd gan ei fam.
Roedd Cymraeg yn cael ei siarad yno unwaith.
Bydd y tŷ'n cael ei werthu yfory.
Roedd dillad yn cael eu gwerthu yno flynyddoedd yn ôl.
Mae Dewi'n cymryd y brif ran yn y ddrama.
TAFODIAITH
Beth yn eich barn chi yw prif nodweddion iaith bwletin newyddion? Pa bynciau sy'n ymddangos yn gyson?
TRAFOD
i) Lluniwch benawdau'r newyddion yng Nghymru / Prydain yr wythnos hon a thrafodwch rai ohonynt yn y grŵp
ii) Lluniwch rai o benawdau'r byd eleni / y llynedd a'u trafod yn yr un modd.
iii) Trafodwch yr eitemau sydd yn y newyddion yn eich ardal ar y pryd.
YMADRODDION
Byddwch ar eich gwyliadwriaeth!
YSGRIFENNU
Lluniwch un eitem lawn o newyddion gyfredol.
Ar y cyd, lluniwch fwletin o eitemau newyddion y dosbarth - pen-blwyddi; ymweliadau, absenolion, afiechyd etc.
Lluniwch fwletin newyddion ar gyfer 2100.
TRAWSGRIFIAD
Diolch Geraint. Noswaith dda. Yn y newyddion
heno mae rhai pobol ifanc yn meddwl ei bod hi'n
cŵl i gael ASBO. Dyna mae gwaith ymchwil
newydd yn ei awgrymu. A dydy petha'n gwella
dim i fobol ifanc - heno mae adroddiad arall yn
deud mai ieuenctid Prydain ydy'r gwaetha yn
Ewrop am neud dryga. Hefyd ar y newyddion,
mam ifanc o Abertawe yn euog o ganiatáu
marwolaeth ei babi blwydd oed fuodd i'w chyn
gariad eisoes wedi cyfadde ei lofruddio. Dyn o
flaen Llys y Goron, Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo
o gipio a threisio merch ifanc yn Wrecsam bron i
bythefnos yn ôl. Cynllunia ar y gweill i ddatblygu
Marina Pwllheli bron i flwyddyn a hanner ers i
gynllunia erill gael eu gwrthod oherwydd
pryderon lleol. Cynghorwyr Dinbych yn gofyn am
fwy o arian i wneud yn siwr y bydd prydau bwyd
ysgol ar gael yn y sir yn y dyfodol. A byddwch ar
eich gwyliadwraeth rhag ofn y cewch chi
garcharor yn y post! Gewch chi wbod mwy am
naw, a dyna chi benawdau'r newyddion -
arhoswch efo ni ar C2.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen