GEIRFA
dirprwy archdderwydd; haneswyr; ymosod; gosgordd; bwystfilaidd;
gwaywffon; galargerdd; cymen; cynghori; ymwared; dychrynfeydd; sofraniaeth; nawdd y gyfundrefn farddol; noddwr; cofleidio; cyflafan; dilys; ymaddasu; diwydrwydd; gwiw; dinoethi; gwâr
GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd testun yr awdl?
ii) Ble mae Cilmeri?
iii) Beth ddigwyddodd yno?
iv) Ble claddwyd corff Llywelyn?
v) Beth ddigwyddodd i'w ben?
vi) Sut teimlai'r bardd, Gruffudd ab Yr Ynad Coch pan fu farw Llywelyn?
vii) Beth gollodd Cymru pan fu farw Llywelyn?
viii) Oedd Edward 1 wedi lladd yr holl feirdd?
ix) Pa fardd Saesneg oedd wedi ysgrifennu am y digwyddiad?
x) Pam roedd gosod 'Cilmeri' yn destun yn 1982 mor addas?
IAITH
a) Cysylltwch y gair ar y chwith â'r un cyfatebol ar y dde
cymen treisgar
dilys anwesu
cyflafan ofnau
cofleidio gwir
ymwared trefnus
bwystfilaidd gwarchodlu
gwiw brwydr
dychrynfeydd addas
gosgordd achub
b) Diffiniwch ystyr y geiriau hyn yn Gymraeg:
cyflafan; gosgordd; noddwr; dinoethi; dilys.
c) P'un o'r diffiniadau sy'n briodol i'r geiriau hyn:
dirprwy; gwaywffon; cyflafan; noddwr; sofraniaeth; diwydrwydd
i) Hawl gwlad i reoli ei hun.
ii) Arf rhyfel a deflid.
iii) Gweithgarwch cyson.
iv) Brwydr waedlyd.
v) Person sy'n cymryd lle un arall.
vi) Rhywun sy'n helpu person arall drwy roi arian iddo.
TAFODIAITH
Mae'r Dr Geraint Bowen yn traddodi beirniadaeth ffurfiol o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Wrth wrando arno, nodwch rai o nodweddion ei iaith sy'n adlewyrchu'r sefyllfa arbennig honno. Pa air o'r parau hyn fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio arddull y siaradwr?
hamddenol brwd
ymosodol tawel
heriol difater
diduedd cenhadol
TRAFOD
i) Pwy yw eich hoff gymeriad hanesyddol? Esboniwch eich dewis a nodi rhai o'r nodweddion sy'n apelio atoch yn ei gymeriad.
ii) Ydy hi'n bwysig bod ein hysgolion yn dysgu hanes Cymru? Trafodwch mewn grwpiau a chyflwynwch eich casgliadau i weddill y dosbarth.
iii) Gwnewch restr o'r ffeithiau rydych chi wedi eu dysgu am Llywelyn Ein Llyw Olaf wrth wrando ar Geraint Bowen.
YMADRODDION
y fath gyflafan; er gwaethaf; gan hynny / canys; fel y mae'n wiw i genedl wâr.
YSGRIFENNU
Ysgrifennwch am unrhyw gymeriad yn hanes Cymru neu yn hanes eich ardal.
"Dwli yw hanes." Trafodwch.
TRAWSGRIFIAD
Ac mae'n bleser gennyf yn awr alw ar y Dr Geraint
Bowen, y Dirprwy Archdderwydd, i draddodi'r
feirniadaeth ar ran ei gydfeirniaid ac yntau.
Y testun a osodwyd i'r beirdd yng nghystadleuaeth
y Gadair eleni oedd 'Cilmeri'. Pentref bach ym
Mhowys yw Cilmeri ac mae'n enwog am mai yno
ar lan afon Irfon, yn ôl ein haneswyr, yr
ymosodwyd yn ffyrnig ar Lywelyn yr Ail, Tywysog
Cymru, a'i osgordd, gan filwyr Edward y Cyntaf ac
o leiaf un Cymro ar yr unfed ar ddeg o Ragfyr,
1282, a'i ladd yn fwystfilaidd. Llywelyn ap Gruffudd,
Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd y tywysog hwnnw.
Claddwyd ei gorff yn Abaty Cwm Hir a
danfonwyd ei ben i Lundain a'i osod ar waywffon
ar ben Tŵr Llundain, ac medd y croniclydd, "Ac yna
y bwriwyd holl Gymru i'r llawr".
Canodd bardd Llywelyn, sef Gruffudd ap yr Ynad
Coch, alargerdd frawychus o emosiynol a chymen
ei chrefftwaith i'w noddwr tywysogaidd. ......
Roedd lladd Llywelyn yn golygu bod Cymru wedi
colli ei sofraniaeth wleidyddol, canys ym mherson
Llywelyn y trigai'r sofraniaeth honno. Peth arall a
oedd yn ddychryn i'r bardd oedd y posibilrwydd y
deuai nawdd traddodiadol y tywysogion i ben ac
y peidiai'r gyfundrefn farddol. Yn wir, roedd marw'r
prif noddwr, Llywelyn, yn gymaint o hunllef i'r
genedl nes i fyth dyfu bod Edward y Cyntaf wedi
llofruddio beirdd Cymru yng Nghastell Biwmaris
gan nodi'r dyddiad ar y pumed ar hugain o Fawrth
yn 1296. Roedd y Cymry, mae'n ymddangos, yn
dal i gofleidio'r myth yma yn y ganrif ddiwethaf,
canys yn Eisteddfod Dinbych yn 1792 testun yr
awdl ydoedd 'Cyflafan y Beirdd gan Edward y
Cyntaf yng Nghastell Biwmaris', ac mae gan y
bardd Mynyddog gerdd ar yr un testun lle mae'n
dweud bod Ceridwen wedi wylo wrth weld y fath
gyflafan. Mae'r bardd Seisnig, Thomas Gray, o'r
ddeunawfed ganrif yn ei gerdd 'The Bard' hefyd yn cyfeirio ato fel petai'r hanes yn ddilys. Y gwir ydyw
i'r beirdd yma addasu i'r sefyllfa gymdeithasol a
gwleidyddol newydd a chafwyd cyfnod o
ddiwydrwydd llenyddol eithriadol er gwaetha'r
dinoethi gwleidyddol a marw Llywelyn, cadarnllew
Gwynedd, Brenin Aberffraw a Thywysog Cymru.
Fel y mae'n wiw i genedl ystyriol a gwâr ei wneud,
byddwn eleni, saith can mlynedd i'r flwyddyn y
lladdwyd ef, yn uno fel cenedl i goffáu Llywelyn.
Gan hynny, mae'r testun yn amserol ac yn un da.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen