GEIRFA
cynteddau arlywydd herio uchafbwyntiau mynd yn angof procio ymddiswyddo chwalu
GWRANDO A DEALL
i) Beth ddigwyddodd ym Mae Caerdydd?
ii) Pa wleidydd aeth i drafferth?
iii) Beth wnaeth David Beckham i dynnu sylw?
iv) Pa fath o siop newydd agorodd yng Nghaerdydd?
v) Pwy oedd wedi sarhau'r Cymry?
vi) Pa wleidydd aeth i drafferth?
vii) Pa grŵp ganodd am Gymru?
viii) Pa ferch o America oedd yn y newyddion?
IAITH
a) Gan ddilyn y patrwm, cwrtais > anghwrtais, beth yw'r gair cyferbyniol i'r canlynol? Lluniwch frawddeg i ddangos ystyr y gair cyferbyniol.
credadwy > Cristnogol >
cyfartal >
cyfreithlon > cyfleus >
cyffredin >
cywir > cyson >
cyfarwydd >
b) Pa genedl yw'r geiriau hyn - gwrywaidd neu fenywaidd?
priodas; hiraeth; undeb; swyddfa; emyn; wythnos; nos Lun; coron.
c) Rhoi mewn trefn:
i) P'un oedd y ........................? (3 / eitem)
ii) Hon yw'r ............................ (11 / awr)
iii) Sbaen oedd y .................... i mi ymweld â hi. (5 / gwlad)
iv) Roedd e'n byw yn y ....................... (18 / canrif)
v) Dw i'n gofyn iti am yr .................... (2 / gwaith)
vi) Roedd y ......................... yn rhy hir o lawer. (4 / act)
TRAFOD
i) Ar ôl rhannu'n grwpiau, trafodwch y ffeithiau a glywsoch a cheisio dyfalu'r flwyddyn dan sylw.
ii) Dyfeisiwch gwis tebyg gan ddewis gwahanol flynyddoedd ac wedyn profi eich gilydd.
iii) Grwpiau'n cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy all gofio'r nifer fwyaf o ddigwyddiadau a grybwyllwyd gan Hywel Gwynfryn.
iv) Lluniwch restr o ddigwyddiadau mewn annus mirabilis neu annus horribilis yn eich hanes personol a'ch partner neu weddill y grðp i geisio dyfalu'r flwyddyn.
YMADRODDION
Wrth ddyfalu mae patrwm MAI / TAW yn bwysig:
Dw i'n meddwl mai / taw...; Dw i'n siwr/ sicr taw...; Mae'n bosib mai...; Dw i'n credu mai X oedd y dyn.
YSGRIFENNU
Blwyddyn i'w chofio yn fy hanes.
"Fyddwn i ddim am ail-fyw'r flwyddyn honno".
'Taswn i'n gallu ail-fyw blwyddyn baswn i'n dewis .........
Blwyddyn fawr yn hanes Cymru / Prydain / y byd.
TRAWSGRIFIAD
Am yr awran nesa' awn am dro law yn llaw ar hyd
cyntedda cof y flwyddyn, mond i'n atgoffa ein
hunain cymaint 'da ni 'di anghofio. Dyma'r
flwyddyn pan oedd David Beckham yn gwisgo
sarong, roedd A. A. Gill yn galw bob Cymro yn
"ugly troll" ac fe agorodd Ann Summers siop yng
Nghaerdydd. Dyma'r flwyddyn hefyd pryd fu
rhaid i'r Arlywydd Clinton gyfadde ei berthynas
hefo Monica Lewinsky. Fe benderfynwyd adeiladu
cynulliad ym Mae Caerdydd ac roedd Catatonia
wedi creu anthem i herio A. A. Gill, "Everyday
when I wake up I thank the Lord I'm Welsh".
Roedd rhaid i Ron Davies ymddiswyddo wedi
helynt ar Gomin Clapham - "It was an error of
judgement on my part which put myself in a
position where I could be the victim of a crime'.
Roedd Ioan Gruffudd yn un o sêr y byd teledu a
ffilm, diolch i Horatio Hornblower a Titanic.
"Wedyn pan ddes i lan ... o'n i'n eitha siomedig ...
O, cer o fan hyn, ro'n i'n mynd i chwalu ... chi'n
gwbod, y stori i fi wedyn. O'n i wedi anghofio mod i
ynddo fe...o'n i'n mwynhau y stori garu ac yn sydyn
iawn ... a dyna fe'.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen