BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Sylwebaeth ar gêm rygbi (2.44)

Huw Llywelyn Davies yn sylwebu ar y gêm rhwng Cymry a Seland Newydd yn 2006

GEIRFA
ystlys; yn dal â'r; meddiant; gosod; wythwr; gwthio; grymus; gwrthymosod; yr ochr dywyll; llinell ddeg; Y Crysau Duon; anghyfreithlon; bwlch enfawr; camu; gwendid; safle; ryc(-iau); llinell tafliad; ail reng; cic gosb; disgyblaeth; cystadlu; tiriogaeth; ar y blaen; trosiad

IAITH
a) Gwrandewch ar y sylwebaeth a phenderfynu ai gwrywaidd neu fenywaidd yw'r enwau hyn:
tîm; cic; llinell; tacl; ystlys; ochr; cae; bwlch

b) Sonnir am sgrym "bymtheg metr i mewn o'r ystlys bellaf". Cofiwch fod angen treiglo dechrau cymal adferfol o'r fath:

Roedd e'n byw .................... o'r capel (100 llath)
Mae'r stadiwm .................... o'r dref. (2 filltir)
Gwelais i Tom ...................... yn ôl. (3 mis)
Dw i wedi bod yno ....................... (100oedd o weithiau)
Chwaraeon nhw'r gêm ........................ (dechrau'r flwyddyn)
Pasiodd e'r arholiad ............................. (rhywsut neu'i gilydd)

c) Ydych chi'n cofio'r termau mae'r sylwebwyr yn eu defnyddio ar gyfer y canlynol? Os nad ydych yn gallu cofio pob un, gwrandewch yn ofalus ar y sylwebaeth unwaith eto a nodwch y rhai aeth yn angof:
possession; counter-attack; the blind side; a throw; second row forward; a number eight; a conversion; a penalty; the 10 metre line; the touchline.

TAFODIAITH
Penderfynwch ai o'r de ynteu o'r gogledd mae'r tri sy'n siarad yn dod. Pa dystiolaeth sydd gennych?

TRAFOD
i) "Mae rygbi yn cael gormod o sylw yng Nghymru". Trafodwch.
ii) Pryd buoch chi'n gwylio unrhyw fath o chwaraeon ddiwethaf? Trafodwch.
iii) Gwnewch restr o'r 15 safle mewn tîm rygbi.
iv) Nodwch bob term technegol yn ymwneud â'r gêm a glywsoch chi yn y sylwebaeth.

YMADRODDION
Y Crysau Duon; gwartheg duon Cymreig; mwyar duon; pobl ifainc; camau breision; Cymru - gwlad y menyg gwynion.

YSGRIFENNU
Fy hoff gêm.
"Gêm a gofiaf am byth".
Mae gormod o chwaraeon ar y teledu.

TRAWSGRIFIAD
I'ch atgoffa chi, pymtheg metr mewn o'r ystlys bella o'r sgrym 'na wedi troi ond Cymru yn dal â'r meddiant. Richie McCord, ydy e 'di hennill hi? Na, Dwayne Peel sydd â hi. Peel te, i Jones, Jones â phas hir i Shane Williams. Mae'n cael ei ddal gan Luke McAllister a mae 'di gosod hi nôl yn berffeth. Y tacl gan Sualo, yr wythwr, gwthio grymus gan y Cryse Duon. Maen nhw 'di cael y meddiant hefyd ac yn gwrth-ymosod ar yr ochor dywyll fan hyn, i Sivivatu. Lan ar linell dde Seland Newydd, pymtheg metr, deg metr mewn o'r ystlys agosa. Byron Kelleher .... Peel yno yn y man, Kelleher yn codi ar ei draed, y dacl gan Shane Williams. Y Cryse Duon yn aros - p'un a o'n nhw 'di cadw'u gafael ar honna'n anghyfreithlon. Conrad Smith â'r bêl i Carter .... Carter yn gweld bod yna fwlch enfawr .... yn camu mae Richie Gere ond yn cyrraedd gynta mae Kevin Morgan. Bwysig fod y gic yma'n cyrraedd yr ystlys a mae'i yn .... ar linell ddeg Cymru.

Yn amlwg, falle, Seland Newydd wedi gweld gwendid yn amddiffyn Cymru achos nag oedd y gic wedi cael ei hanelu at yr ystlys ond lawr genol y cae. Kevin Morgan mas o'r safle. Shane Williams wedi cael ei ddal yn genol y cae. Rhaid ail-drefnu os oes rhywun yn cael eu dal yn y rycia 'ma, yn enwedig tu ôl i'r sgrym.

Oedd hi'n gic ddiddorol cofia. Oedd hi'n ddiddorol achos oedd hi'n gic dda hefyd. Oedd e 'di gweld y bwlch ac a'th amdano fe a whare teg, ti'n gwbod. Maen nhw'n dodi'r bêl nawr mewn i'r llinell.

Tafliad Anton Oliver, y bachwr ar linell ddeg y Cymru ... a Seland Newydd, yr ail reng, Keith Robinson dwi'n credu, yn cael ei dynnu i'r llawr yn anghyfreithlon a chic gosb i Seland Newydd.

Wel, mae'n mynd i fynd i fod yn anodd nag yw e drwy gydol y prynhawn - tîm gore'r byd. Mae raid, mae disgyblaeth yn mynd i fod yn holl bwysig a dyma ni, Robinson ac Allie Williams yn cystadlu am y bêl a 'da ni'n tynnu nhw lawr. Tan maen nhw yn yr awyr 'da ni'n gwbod y rheolau. Smo ni'n moyn rhoi cyfleoedd hawdd fel hyn i Seland Newydd i gael tiriogeth a falle pwyntia.

Ond i fynd nôl i'r gic 'na yn gynt gan Carter i'r cae agored. Oedd e'n neud siwr bod Cymru'n dodi'r bêl dros yr ystlys i gael ennill y llinell a be sy'n dod o fan'ny? Cic gosb. Mae Seland Newydd yn wastad yn meddwl ar eu traed a chael pethech bach syml fel yna.

Y Cryse Duon ar y blaen o saith pwynt i ddim. Cais Luke McAllister, trosiad Daniel Carter a Charter fan hyn â chyfle i ychwanegu triphwynt arall. Pymtheg metr mewn o'r ystlys bellaf. Ryw dri deg saith metr o'r pyst. Y droed chwith 'na yn fetronomig ac eto mae 'di llwyddo. Seland Newydd ar y blaen o ddeg pwynt i ddim.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy