GEIRFA
ymgynghoriad; cynlluniau datblygu lleol; gwrthwynebiad; trigolion; dyblu; adnoddau; ymdopi; datganiad; pendant; argymhellion
GWRANDO A DEALL
i) Beth mae Cyngor Sir Dinbych yn ei wneud ar hyn o bryd?
ii) Faint o dai fydd, o bosib, yn cael eu codi?
iii) Ble yn union maen nhw'n bwriadu codi'r tai?
iv) Beth yw teimlad y bobl leol?
v) Beth maen nhw'n ei ofni?
vi) Pa mor bendant yw'r cynlluniau?
vii) Tan pryd gall pobl ddweud eu barn?
IAITH
a) Cysylltwch bob gair ar y chwith â'r diffiniad agosaf ohono:
gwrthwynebiad sicr
ymgynghoriad llwyddo i
trigolion bwriadau
ymdopi bod yn erbyn
pendant holi barn pobl
cynlluniau preswylwyr
b) Gwir neu Anwir
Dydy Cyngor Dinbych ddim yn trafod eu cynlluniau â phobl leol.
Mae 800 o dai wedi cael eu codi yn y dre yn barod.
Mae pobl yn pryderu y bydd maint y dref yn tyfu.
Mae digon o adnoddau yn y dre i ganiatàu'r datblygiad.
Mae'r cynlluniau yn bendant nawr.
Gall pobl ddatgan eu barn tan Ragfyr y cyntaf.
c) Lluniwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
ewin / ewyn; ffraeo / ffrio; glân / glan; hael / haul; hud / hyd (enw)
TAFODIAITH
Trafodwch beth yn eich barn chi yw hanfodion iaith bwletin newyddion da. Oes lle i dafodiaith o gwbl mewn bwletin o'r fath?
TRAFOD
i) Fel grŵp, lluniwch restr o bethau sydd yn y newyddion naill ai yn lleol neu yn genedlaethol. Gan gymryd un pwnc yr un, paratowch eitem ar gyfer y bwletin.
ii) Codi tai neu gadw'r caeau? Trafodwch.
iii) Y sefyllfa dai yn eich ardal.
iv) "Dim ond newyddion drwg sydd o ddiddordeb i'r cyfryngau".
Trafodwch.
YSGRIFENNU
Prynu fy nhŷ cyntaf.
Sut yr hoffwn weld fy ardal yn datblygu.
TRAWSGRIFIAD
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal
ymgynghoriad ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn
o bryd, sy'n cynnwys y datblygiad posib o dros
wyth gant o dai newydd ar ochor yr A55, rhwng
tre Llanelwy a Pharc Busnes y dre, ond mae 'na
wrthwynebiad yn lleol i'r awgrym. Mae trigolion
Llanelwy yn pryderu y bydde cymaint o dai
newydd, i bob pwrpas yn dyblu maint y dre ac
maen nhw'n dadle nad oes 'na ddigon o
wasanaethe ac adnodde'n lleol i ymdopi â'r galw
ychwangeol. Mewn datganiad, mi ddywedodd
Cyngor Sir Ddinbych nad ydy'r cynllunia yn rhai
pendant ar hyn o bryd a bod gan bobol yr ardal
hyd at y 1af o Ragfyr i roi barn ar yr argymhellion.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen