BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Cymraeg yn y gofod (0.50)

Hanes y Gymraeg yn cael ei siarad yn y gofod am y tro cyntaf

GEIRFA
iaith y nefoedd gofod amser maith hanesyddol llong ofod wedi hen arfer hanu dychwelyd mentro uchelgais cyfweliad

GWRANDO A DEALL
i) Beth ddigwyddodd am y tro cyntaf erioed yn 1998?
ii) Ers faint o amser roedd Dafydd Rhys Roberts wedi bod yn paratoi?
iii) Beth oedd enw'r llong ofod?
iv) Dyma'r tro cyntaf i long ofod adael y ddaear?
v) Ble mae Dafydd Rhys Roberts yn byw?
vi) Beth yw ei gysylltiad â Chymru?
vii) At beth roedd e'n edrych ymlaen?
viii) Pwy ddychwelodd i'r gofod yn 1998?
ix) Pa ddwy record sydd ganddo?
x) Faint oedd ei oed yn cyflawni'r ail gamp?

IAITH
a) Pa eiriau ac ymadroddion sy'n perthyn i'w gilydd yn y ddwy golofn yng nghyd-destun yr eitem hon? hanesyddol ceisio
iaith y nefoedd mynd yn ôl
y gofod yn digwydd am y tro cyntaf
mentro yn dod o
dychwelyd awydd i gyflawni rhywbeth
hanu Cymraeg
uchelgais y tu hwnt i'r byd

b) Rhowch 2 (dau / dwy) o flaen y geiriau hyn;
iaith; llong; tro; pennill; pennod; awr; gwlad; gofodwr

c) Cywirwch y brawddegau hyn:
Siarada o'r ofod, Ddafydd!
Roedd y long ofod yn lawn.
Roedd gweld y byd o'r long yn ryfedd.
Fe'i alwyd yn Rhys.
Roedd e'n siarad milltiroedd uwchben y ddaear.
Roedden nhw'n gallu gweld sawl wlad.

TAFODIAITH
Yn eich barn chi, faint o Gymraeg mae Dafydd Rhys Roberts yn gallu ei siarad mewn gwirionedd. Ar ôl gwrando'n ofalus ar yr hyn mae'n ei ddweud, nodwch y rhesymau dros eich eich penderfyniad.

TRAFOD
i) Tasech chi wedi cael y cyfle i siarad Cymraeg yn y gofod am y tro cyntaf, beth fasech chi wedi ei ddweud?
ii) Ydy teithio i'r gofod yn wastraff arian? Trafodwch.
iii) Ym mha sefyllfaoedd unigryw eraill y basai'n werth siarad Cymraeg? Rhestrwch eich awgrymiadau.

YMADRODDION
ers amser maith; wedi hen arfer; iaith y nefoedd.

YSGRIFENNU
Casglwch wybodaeth am John Glenn a lluniwch bortread ohono.
Lluniwch bortread o unrhyw anturiaethwr (-wraig) rydych yn ei (h)edmygu.

TRAWSGRIFIAD

Am y tro cyntaf erioed fe glywyd iaith y nefoedd yn y gofod . . .

Dwi wedi bod yn paratoi at y daith yma ers amser maith ac o'r diwedd mae o wedi dod . . .

Un o ddigwyddiade hanesyddol 1998 oedd taith y llong ofod Columbia. Nid y daith ei hunan - 'doedd llongau gofod wedi hen arfer crwydro i'r gofod am drip rwond y byd a dychwelyd yn ddiogel? Beth oedd yn arbennig am y daith arbennig yma oedd y criw, wel, un o'r criw beth bynnag. Roedd Dafydd Rhys Roberts yn byw yng Nghanada ond â theulu yn hannu o Gwm Rhymni, ac uchelgais Dafydd oedd bod y cynta i siarad Cymraeg o'r gofod. Wel, yn 1998, fe lwyddodd i neud hynny. A sôn am y gofod, fe ddychwelodd John Glenn yno ym 1998. Glenn oedd yr Americanwr cynta i'r gofod ac yn ystod y flwyddyn hon fe fentrodd yn ôl ar waetha'r ffaith ei fod yn 77 mlwydd oed, yr hyna 'rioed i adal y ddaear 'ma.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy