GEIRFA
datgelu; ymchwil; undebau; safon; y dafol; manteision; anfanteision; ymgyrch; rhwygo; dadansoddi; dehongli; cyfres; ffurfiol; ystod oedran; wrth reswm; celf; cynyddu; yn gyfangwbl
GWRANDO A DEALL
i) Beth mae llawer o rieni wedi penderfynu ei wneud?
ii) Sut mae undebau athrawon yn ymateb i addysg yn y cartref?
iii) Pa fanteision sydd wrth ymweld â'r amgueddfa?
iv) Pa arlunydd mae'r plant wedi bod yn dynwared ei waith?
v) Sawl brawd sydd gan Lowri Butterworth?
vi) Pa liwiau sydd yn llun Lowri?
vii) Sut mae'r Amgueddfa'n helpu'r teuluoedd?
viii) Sut mae Kate Evans yn disgrifio'r berthynas â'r plant?
ix) Sut mae dod i'r amgueddfa'n helpu'r fam?
x) Oes mwy neu lai o rieni'n addysgu eu plant gartref?
IAITH
a) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio'r geiriau hyn:
safon; cyfres; y dafol; rhwygo; cynyddu; ystod oedran; ymgyrch; yn gyfangwbl.
Roedd y rhieni wedi trefnu .................. i geisio achub ysgol y pentref.
Edrychais i ar .................. o raglenni ar y teledu.
Ar ôl rhoi'r holl ddaleuon yn ............ teimlais fy mod wedi dewis yn iawn.
Mae nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg gartref yn ......................
Dw i ddim yn cytuno â nhw ..........................
Mae ..................... addysg yn gostwng yn ôl rhai.
Oes darn arall o bapur 'da chi? Mae hwn wedi .........................
Roedd plant o .............................. 3 - 11 yn yr ysgol.
b) Sylwch ar y pâr: manteision / anfanteision. Nawr gwnewch barau tebyg o'r geiriau a ganlyn:
ffurfiol .............................
........................... ansefydlog
ufudd .............................
........................... gweddus
ystwyth ..............................
........................... anwybodus
gweledig ..............................
........................... ansicr
c) Esboniwch ystyr y canlynol yn Gymraeg:
ymgyrch; ymchwil; ffurfiol; cynyddu; cyfres
TAFODIAITH
Gwrandewch ar Kate Evans yn siarad. Ydy hi'n hawdd lleoli ei thafodiaith ai peidio? Pam?
TRAFOD
a) Pam, yn eich barn chi, mae Lowri Butterworth yn defnyddio rhai geiriau Saesneg - machine, cogs a wheels - wrth ddisgrifio'r hyn mae hi wedi bod yn ei wneud yn yr amgueddfa?
i) Dydy hi ddim yn gwybod y geiriau Cymraeg.
ii) Mae'r gweithgaredd wedi ei gyflwyno iddi yn Saesneg.
iii) Saesneg yw iaith y cartref.
iv) Rheswm arall.
b) Mewn grwpiau bach, trafodwch a gwnewch restr o fanteision ac anfanteision addysgu plant gartref.
c) Beth yw manteision ac anfanteision addysg arferol?
YMADRODDION
fwyfwy; ar fy mhen fy hun.
YSGRIFENNU
Man ddiddorol yr ymwelais â hi.
Sut gallwn wella ein hysgolion?
Mae addysg yn paratoi at fywyd. Gwir neu anwir?
TRAWSGRIFIAD
Plant sy'n cael eu dysgu yn y cartre yw'r pwnc
heno. Fe fyddwn ni'n datgelu ymchwil newydd sy'n
dangos bod fwyfwy o rieni yn penderfynu dysgu'u
plant yn y cartre'. Ond, yn ôl Undebau Athrawon,
yr ysgol yw'r lle gorau i ddysgu plant:
O fewn y system addysg, mae 'na fodd monitro safon
addysg mae plant yn gael o fewn yr ysgolion ond pwy
sy'n mynd i fonitro safon yr addysg maen nhw'n cael
gartre?
Fe fyddwn ni'n ymweld â chartre yn Sir Gâr, lle
mae pedwar o blant yn cael eu dysgu gan eu
mam. Dyma'r dewis gore iddyn nhw, yn ôl y teulu.
Fe benderfynes i falle mai dyma y ffordd mlaen i ni.
Fydde fe'n ffordd fydde'n siwto ni fel teulu. Rhoi
popeth ar y dafol, dw i'n credu mai manteision sydd
fwy nag anfanteision yn beth y'n ni'n neud.
Criw o blant sy'n cael eu dysgu yn y cartre gan eu
rhieni yn ymweld â'r Amgueddfa Wlân
Genedlaethol yn Nhrefach, Felindre. Maen nhw
yno fel rhan o ymgyrch ddarlunio y 'Big Draw'.
Swyddog Addysg yr amgueddfa yw Kate Evans.
Heddi 'da ni 'di bod efo gweithwyr sy'n dysgu plant o
gartre - the home learners. Ni 'di bod yn darlunio fel
Matisse yn ei henaint yn trio defnyddio papur, rhwygo
papur a torri papur i dadansoddi a dehongli y
peirianne sy 'da ni yn yr amgueddfa.
Mae Lowri Butterworth yn 9 oed a'n dod o
Beniel, ger Caerfyrddin. Mae hi yma gyda'i thri
brawd. Fe ofynnais i iddi beth oedd hi 'di bod yn
neud yn ystod y bore.
Llun o machine, ife, gyda lot o cogs a wheels ynddo
fe a oedd e gyda tri chain.
Oedd e'n lliwgar?
Oedd.
Pa liwie oedd ynddo fe?
Glas a pinc a gwyn a brown.
Ti na'th e ar ben dy hunan?
Na.
Pwy oedd yn helpu ti de?
Eira, Rowine, Daniel, Tom, Huw.
So, o'dd sawl un ohonoch chi gyd yn ei neud e?
O'dd.
O'dd e'n hwyl gweitho fel'na?
O'dd.
Yn ôl Kate Evans o'r Amgueddfa mae gyda nhw
berthynas dda gyda theuluoedd sy'n dysgu plant
yn y cartre.
'Da ni 'di bod yn trio gweithio yn fwyfwy efo'r grŵp
yma ac erbyn hyn 'da ni'n cynnig cyfres o sesiyne
trwy'r flwyddyn.
Ydy chi'n gweld gwahanieth yn ymddygiad y plant
o gwbwl, p'un ai ydy nhw'n cael eu dysgu o adre
neu ydyn nhw mewn, wel, yn cael eu haddysg yn
fwy ffurfiol falle, mewn ysgolion?
Na, i radde heleth mae'r hyder fan'na. Fel chi'n gweld,
plant yw plant. Mae ... mae'r ystod oedran 'ma
wedyn. Mae lot o deuluoedd 'da ni fan hyn, felly mae'r
plant yn syth, unwaith maen nhw'n dod i'r
amgueddfa, yn teimlo'n gartrefol fan hyn. 'Da ni yn
cael perthynas eitha personol 'da'r plant sy'n dod fan
hyn, bo ni'n nabod nhw a'u rhieni hefyd a ni'n nabod eu cefndir nhw. Mae'r plant fan hyn, maen nhw'n
llawn hyder, maen nhw'n llawn hwyl a maen nhw'n
gyfarwydd â delio efo oedolion hefyd a mae hwnna'n
ddiddorol i'w weld.
Mae Siriol Butterworth wedi dod â'i phedwar
plentyn i Drefach, Felindre ar gyfer
gweithgaredde'r bore.
Mae diwrnod fel heddi yn werthfawr iawn oherwydd
pan y'ch chi'n gweithio ar ben y'ch hunan, wrth
reswm, mae 'na rai manne gwan gyda chi yn y'ch
gwybodaeth y'ch hunan a mae celf ddim yn un o
mhyncia cryf, felly mae'r plant yn gallu dod - maen
nhw'n gallu cymryd mantais o brofiad pobol erill ac
o ... gallu rhywun fel Kate mewn celf ac falle cymryd
rhan mewn digwyddiad sydd yn ddigwyddiad
cenedlaethol. Falle 'sa chi gartre ar ben y'ch hunan
fydde chi ddim yn rhan ohono fe.
Yn ôl Kate Evans, mae nifer y rhieni sy'n dewis
dysgu'u plant yn cynyddu. Mae hi'n teimlo ei bod
hi'n haws iddyn nhw wneud hynny y dyddia hyn.
Yn y gorffennol 'da ni wedi cydlunio'r holl brosiecte
efo dysgwyr o gartre trwy Gaerdydd a erbyn hyn mae
'da ni beutu 175 o deuluoedd sy'n cynrychioli ryw
500 o bobol yn gyfan gwbwl gan gynnwys y plant
wrth gwrs, ar ein llyfre ni, ar ein rhestr mailo ni.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen