GEIRFA
sefydliad; gweithredoedd; torri'r gyfraith; ymosod; treisgar; ympryd; ymgyrch; daliadau; egwyddor; annatod; blaengar; gwrthhiliaeth; gwrthffasgaeth; ymgyrchu; caer; annibyniaeth
GWRANDO A DEALL
i) Pryd sefydlwyd 'The Women's Social & Political Union'?
ii) Beth oedd amcan y mudiad hwnnw?
iii) Pa fath o bethau anghyfreithlon roedd Sylvia wedi eu gwneud?
iv) Beth wnaeth hi tra oedd hi yn y carchar rhwng 1913-14?
v) Pa fath o deulu oedd teulu Sylvia Pankhurst?
vi) Pa fath o ferched oedd o ddiddordeb arbennig iddi?
vii) Pwy oedd y person enwog y bu'n dadlau ag ef?
viii) Pa bwnc oedd yn uno'r chwiorydd?
ix) Sawl papur newydd sefydlodd Sylvia?
x) Ble cafodd hi ei chladdu?
IAITH
a) Pa ferfenwau sy'n cael eu ffurfio o'r enwau hyn?:
ymgyrch ymgyrchu
gweithred
sefydliad
ymosodiad
trais
ympryd
b) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio'r geiriau isod:
treisgar ymgyrchu ymprydio sefydliad egwyddor blaengar
Pan oedd y carcharor yn .................. doedd e ond yn yfed dŵr.
Prif .................. y gwleidydd oedd sicrhau chwarae teg i bawb.
Dywedwyd ei fod yn ddyn ................., yn curo ei wraig a'i blant.
Bu llawer yn ................... i sicrhau'r bleidlais i ferched.
Ar un adeg, roedd y capel yn ................... pwysig ym mhob tref.
Roedd Sylvia'n berson.................... mewn sawl maes.
c) P'un sy'n gywir? Pam?
y dair merch; y tair merch; y dair ferch
y ddwy ferch; y dwy merch; y ddwy ferch
y bedair chwaer; y bedwar chwaer; y pedair chwaer
y drydydd ferch; y drydedd merch; y drydedd ferch
y bedwaredd ferch; y pedwerydd merch; y bedwaredd merch
y dair; y tair; y ddwy; y dwy; y dau; y ddau
TAFODIAITH
Yn eich barn chi, faint o ôl tafodiaith sydd ar y sgwrs hon? Oes unrhyw awgrymiadau o ble mae'r siaradwraig yn dod?
TRAFOD
i) Rhaid i chi a'ch partner gymryd arnoch eich bod yn un o'r ymgyrchwyr canlynol. Dywedwch rhywbeth am eich achos a dros beth yn union rydych yn ymgyrchu. Sut rydych chi'n bwriadu gweithredu?:
Aelod o Greenpeace; Aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg; Aelod o Amnest Cydwladol; Aelod o Tadau dros Gyfiawnder; ymgyrchydd gwrthniwcliar.
ii) Casglwch wybodaeth am un o'r ymgyrchwyr hyn i'w hadrodd o flaen eich grŵp:
Nelson Mandella; Martin Luther King; Y Fam Theresa; Emily Pankhurst; Wiliam Wilberforce; Bob Geldorf. iii) Ydy hi'n dderbyniol i dorri cyfraith gwlad i hybu achos? Trafodwch.
YSGRIFENNU
Taswn i'n gallu newid un peth yn y byd, baswn i'n................
Gwastraff amser yw ymgyrchu.
'Ddylai'r Eglwys ddim ymyrryd mewn gwleidyddiaeth'. Trafodwch.
TRAWSGRIFIAD
Ei mam hi, Emmeline Pankhurst, a'i chwaer
Christobell, na'th sefydlu y 'Women's Social and
Political Union' yn 1903, sef sefydliad oedd yn
credu mewn cael pleidlais i ferched a gneud hynny
drwy weithredoedd - nid drwy eirie - a beth o'n
nhw 'di bod yn gneud, y merched yma, oedd torri'r
gyfreth, ac mi oedd Sylvia, sef un o ferched
Emmeline Pankhurst, oedd yn suffragette - wrth
gwrs, y'n i gyd wedi clywed am y suffragettes -
wedi torri'r gyfraith ac mi oedd hi wedi bod yn y
carchar am neud pethe fel taflu cerrig, a ymosod
ar bobol a bod yn dreisgar, mewn ffordd, a dyna
beth oedd hi wedi neud. Mi gafodd hi gyfnod lle
fuodd hi yn y carchar sawl gwaith ac yn wir, yn y
flwyddyn 1913 hyd at 1914, fe fuodd hi drwy sawl
cyfnod lle oedd hi ar ympryd tra oedd hi yn y
carchar hefyd. Felly oedd hi'n berson, wel, oedd
hi'n dod o deulu eitha militant, eitha radical o ran
gwleidyddiaeth, ac oedd hi wedi mynd gyda hyn yn
gyfan gwbwl ac wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
Yn wahanol i'w mam a'i chwaer Christobell, yn
wahanol i Emmeline a Christobell, mi oedd hi'n
credu y dyle'r frwydr hon dros y bleidlais i
fenywod fod yn frwydr oedd yn ymwneud â
dosbarth, bod hynny'n rhan ohono fe hefyd. Felly
mi oedd hi â diddordeb mawr yn achos merched
dosbarth gweithiol. Yn wir, tua diwedd ei bywyd hi,
mi symudodd hi draw tuag at y blaid gomiwnyddol
ac er iddi gael sawl dadl, mae'n debyg, gyda Lenin
ei hun, mi oedd hi'n berson oedd yn gweld hawl y
person cyffredin yn beth pwysig achos, wrth gwrs,
y gwahaniaeth rhyngddi hi a'i mam yw na'th ei
mam hi sefyll fel Aelod Seneddol dros y Torïaid.
Felly, yn wleidyddol, mi oedden nhw yn hollol ar
wahân ond, o ran daliade ac egwyddor hawlia
merched, mi oedden nhw, y tair ohonyn nhw -
wel, oedd 'na bedair - o'dd 'na drydydd chwaer,
Odela dw i'n meddwl, a'th allan i Awstralia - mi
na'th hi sefydlu mudiad i ferched yn Awstralia
hefyd ond stori arall yw honno. Beth bynnag, oedd
y teulu yn deulu radical iawn ac yn gweld hawliau
merched fel rhan annatod o fywyd, wrth gwrs,
oedd yn rwbeth oedd yn eitha dieithr ar y cyfnod.
Mi oedd hi yn flaengar iawn mewn sawl ffordd. Mi
na'th hi sefydlu pedwar papur newydd, mae'n
debyg. Oedd hi'n ysgrifennu yn helaeth. Oedd hi'n
berson oedd yn .... oedd hi'n weithgar iawn, oedd
hi'n awdur, oedd hi'n artist hefyd ond oedd hi'n
credu mewn gwrth-hiliaeth a gwrth-ffasgedd dros
bopeth, ac am dros dri deg o flynyddoedd mi fu hi
yn ymgyrchu ar y math o bethe fel yr achos yn
Ethiopia, sef gwlad dda'th yn gartre iddi erbyn
diwedd. Yn wir, mae hi wedi cael ei chladdu yn
Addis Ababa dw i'n meddwl ac mi oedd hi'n
gweld annibyniaeth Ethiopia fel caer olaf hawliau
dynol, y dyn du felly, a fuodd hi byw tan bod hi'n
78 mlwydd oed a fuodd hi farw yn Ethiopia yn
1960.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen