GEIRFA
comin; perfeddwlad; glo carreg; glofaol; achos Annibynnol; arwrol; efengylu; Y Diwygiad Methodistaidd; dileu; cyfamser; purion; clwyfo; dychymyg
GWRANDO A DEALL
i) Ble codwyd pentref Cefn?
ii) Pryd cafodd y pentref ei godi?
iii) O ble daeth pobl i fyw yno?
iv) Ble roedden nhw'n gweithio?
v) Beth oedd y gwahaniaeth rhwng Cefn a Chwmllynfell?
vi) Pa mor bell aeth Evan Wiliams i bregethu?
vii) Ydy'r siaradwr yn byw yn yr ardal nawr?
viii) Beth sy'n digwydd i bob pentref yn ôl y siaradwr?
ix) Beth ydych chi'n meddwl oedd penderfyniad swyddogion y Swyddfa Gymreig?
x) Pa mor hapus ydy Derec Llwyd Morgan â'r penderfyniad?
IAITH
a) Gwir neu anwir?
Hen bentref yw Cefn-bryn-brain.
Doedd dim diwydiant yn yr ardal.
Mae'n sefyll yn ymyl Cwmllynfell.
Roedd achos Methodistaidd yng Nghwmllynfell yn amser Cromwell.
Dydy'r siaradwr ddim yn byw yno nawr.
Penderfynodd y Swyddfa Gymreig adleoli'r pentref.
Mae'r siaradwr wrth ei fodd â'r penderfyniad.
b) Esboniwch y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
diwydiant diwylliant
comin cae
efengylu darlithio
diwygiad chwyldro
c) Ar y cyd, cynlluniwch sgwrs fer am ardal y dosbarth gan gynnwys yr ymadroddion hyn:
Ers llawer dydd; roedd mynd ar; dan ei sang; Sul, gðyl a gwaith; nerth bôn braich; wedi mynd â'i ben iddo; ar drai; cael dau ben llinyn ynghyd; daw tro ar fyd; ar ben eu digon.
TRAFOD
i) 'Mae arddull y siaradwr yn ffurfiol iawn'. Casglwch dystiolaeth i gadarnhau neu wrthbrofi'r gosodiad hwn.
ii) Soniwch am newid yn eich ardal nad ydych yn hapus ag ef.
iii) Disgrifiwch ardal rydych yn hoff ohoni.
YMADRODDION
hyn a hyn hwn a hwn hon a hon
YSGRIFENNU
Ymadael â'ch ardal enedigol.
Newidiadau yr hoffwn i eu gweld yn fy ardal.
Mynd yn ôl i'r hen ardal heddiw.
TRAWSGRIFIAD
Pentre newydd ydyw'r Cefen, un a godwyd ar y
comin a rhai o gaeau Bryn-brain ddiwedd y ganrif
ddwetha a dechrau hon. Yn hyn a hyn o dai, rhai o
berfeddwlad Sir Gâr a ddaeth dros y Mynydd Du
i weithio'n y gweithfeydd glo carreg. Pentre glofaol
oedd Cwm Llynfell hefyd er mae e'n hen hen
bentre, o leia yr oedd yna achos Annibynnol cryf
yn chwarter ola canrif Cromwell, ac i Eglwys yr
Annibynwyr yng Nghwmllyfnell y perthynai'r Evan
Williams arwrol hwnnw a fu'n efengylu mor bell â
Shir Gaernarfon ym mlynyddoedd cynnar y
Diwygiad Methodistaidd. Yn awr fe ddileir y
rhaniad naturiol hwnnw.
Dydw i ddim wedi byw gartre ers dros bymtheng
mlynedd. Yn y cyfamser fe newidiodd y lle fel pob
man, ond y mae'r gorffennol, pell ac agos, yn fwy
byw i'r absennol, a thirion i bwyllgorwyr y Swyddfa
Gymreig wybod y bydd eu penderfyniad nhw yn
rhwym o gleisio dychymyg a chof un creadur o
Gefen-bryn-brain o leia, a hynny yn o arw. Fydd y
lle byth bythoedd yn rhan o Forgannwg i mi er
mai Morgan ydy f 'enw i.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen