GEIRFA
arbenigrwydd; hyderu; ias; cwta ddeufis; dyhead; disymwth; mudo; eirin tagu; cyforiog; llwm; moel; surni; moethusrwydd; coinio; cymariaethau; gwaith sets; dihafal; annioddefol; clecian; glaw taranau; nobl
GWRANDO A DEALL
i) Pa mor adnabyddus oedd Rol?
ii) Ers pryd mae e wedi marw?
iii) Sawl brawd oedd ganddo?
iv) Sut roedd e'n dymuno marw?
v) Ble bu Guto Roberts yn sgwrsio ag ef?
vi) I ble symudodd e o Groesor?
vii) Beth roedd e'n ei fwyta "yn hogyn 10 oed"?
viii) I ba fath o deulu y perthynai?
ix) Ble bu'n gweithio ar un adeg?
x) Pam roedd ei het wellt wedi mynd "fel clustia' sbaniel"?
IAITH
a) Lluniwch frawddegau yn cynnwys yr ymadroddion canlynol a ddefnyddiwyd yn y sgwrs:
rhyfeddol o: aml i dro; ers tro byd; am fy nhraed; clamp o b) Pa eiriau eraill a ddefnyddiwyd yn y sgwrs i gyfleu:
gobeithio; sydyn; symud; ers amser; tlawd; chwerwder; anghymarol; het fawr.
c) Rhestrwch y geiriau hyn o dan y penawdau DYMUNOL ac ANNYMUNOL:
ffraeth; twp; cwynfanllyd; caredig; swrth; byrbwyll; galluog; cymwynasgar; cybyddlyd; hynaws; siriol; ffiaidd.
TAFODIAITH
Brodor o Eifionydd yng Ngwynedd oedd Guto Roberts. Gwrandewch ar ei sgwrs eto a nodwch beth sy'n digwydd i'r terfyniad lluosog -au yn y geiriau: 'sgidiau; awgrymiadau; cymariaethau; taranau a clustiau.
TRAFOD
i) Llunio sgwrs fer am unrhyw 'gymeriad' rydych yn ei nabod.
ii) Ysgrifennwch enwau cymeriadau adnabyddus hanesyddol neu gyfoes ar gardiau a glynwch nhw ar gefnau eich cyd-aelodau yn y dosbarth â selotape. Tasg pob un bydd ceisio darganfod pwy ydyw trwy gerdded o gwmpas a holi'r lleill.
YMADRODDION
ar un adeg; am gyfnod; ymhen tipyn; ar ôl ysbaid; ar fyr o dro; ychydig yn ôl.
YSGRIFENNU
Portread o gymeriad
Llunio rhestr o gwestiynau ar gyfer holi cymeriad lleol.
TRAWSGRIFIAD
Chydig iawn ohonoch chi fydd wedi clywad sôn
am y cymeriad dw i am ddeud gair neu ddau
amdano fo heno 'ma a hyd yn oed wedi i mi ei
enwi fo, dim ond chydig iawn o bobol mewn rhyw
gylch o bum milltir i Borthmadog oedd yn ei
nabod o, ond roedd i Rolant ei arbenigrwydd a
chyn diwedd y sgwrs 'ma dw i'n hyderu y
byddwch chi yng nghanolbarth a de Cymru wedi
teimlo rywfaint o iâs yr arbenigrwydd hwnnw.
Cwta ddeufis sy 'na er pan fu farw Rol, Croesor
Bach, neu Rolant Panwyl Williams, i roi ei enw fo'n
llawn, ac yng Nghroesor Bach, Croesor, yn un o dri
o fechgyn, y magwyd o. Mi fuo'r ddau frawd arall,
sef Dafydd a Ben, farw yn sydyn a disymwth,
chydig o flynyddoedd yn ôl a dull Rolant o fynegi ei
ddyhead o am farwolaeth debyg oedd hwn: "Dw
i'n disgwyl ca i farw â sgidia am 'y nhraed," a mi
gafodd, yn union felly.
Ro'n i wedi dod i nabod Rolant Williams ers tua
ugian mlynadd, nid yn rhyfeddol o dda ond yn
ddigon da, er hynny, i fynd ato fo i'r tŷ am sgwrs
ryw unwaith neu ddwy ac amal i dro y bûm i'n
sgwrsio efo fo ar y stryd ym Mhorthmadog.
Roedd o wedi dod o Groesor ac wedi setlo ym
Mhorthmadog ers tro byd a phan ofynnodd
rywun iddo fo yn fuan ar ôl y mudo sut oedd o'n
setlo yn y Port, medda Rolant, "Dw i'n hapusach
na buo mi er pan o'n i'n hogyn deg oed yn bwyta
eirin tagu", a dyna i chi atab sy'n gyforiog o
awgrymiada. Hynny ydy, roedd o wedi dod o
gefndir mor llwm a moel nes y cyfrifid surni eirin
tagu yn foethusrwydd. A dyn efo'r ddawn a'r gallu
i goinio cymariaethau cofiadwy fel yna oedd Rol,
Croesor Bach. Mi ofynnodd rywun iddo fo
rywdro sut ddyn oedd hwn a hwn, a dyma'r atab:
"Y dyn iawn i ddeud bod hi'n braf neu bod hi'n
bwrw wrtho fo".
Roedd o wedi bod yn gweithio ar un adag yn y
gwaith set ym Minffordd a mae 'na stori amdano
fo yn sôn am ryw wsnos o dywydd dihafal o
boeth yn y cyfnod hwnnw. "Erbyn dydd Gwenar,"
medda Rol, "roedd hi wedi dwad yn anioddefol a
dyna hi'n dod i glecian at y tri o'r gloch yma ac yn
law t'rana mwya diawledig welist ti rioed. Ro'n i 'di
cychwyn yn bora efo clamp o het wellt noblia
welist di am ben neb ond pan o'n i'n cyrraedd yn
f 'ôl chydig wedi pump roedd hi wedi mynd yn
union fel clustia spaniel".
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen