GEIRFA
clyweliadau; cyfarwyddwr; cyfweliad; cysylltiad; eisoes; marchogaeth; meithrinfa; hyfforddi; ysgol farchogion; datblygu; corfforol; clefyd y gwair; erchyll; chwistrelliad; tîn; urddo y Wisg Wen; yr Orsedd; ymestyn
GWRANDO A DEALL
i) Pam mae Ioan Gruffydd wedi dod adref?
ii) Sut cafodd e ran yn y ffilm?
iii) Ble dysgodd Ioan i farchogaeth?
iv) Beth oedd yr actorion yn ei wneud gyda'r nos tra yn Iwerddon?
v) O beth mae Ioan Gruffydd yn dioddef?
vi) Pam aeth e i'r Eisteddfod Genedlaethol?
vii) I ble mae Ioan yn mynd ar ôl gadael Caerdydd?
viii) Beth, yn arbennig mae Dr Reed Richards yn gallu ei wneud?
ix) Pam na fydd e'n actio gyda Matthew Rhys?
x) Ydy e wedi derbyn cynnig i chwarae James Bond?
IAITH
a) Esboniwch yn Gymraeg y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
clyweliad - cyfweliad
marchogaeth - marchogion
tîn - pen ôl
shwd mae? - sut ydych chi?
estyn - ymestyn
hyfforddi - ymarfer
cyfarwyddwr - cyfarwyddyd
drwg - erchyll
b) Mae un o'r siaradwyr yn sôn am 'Yr Iwerddon'. Ydy hyn yn gywir; a pha rai o blith y canlynol sy'n gywir neu yn anghywir?
Yr Alban; y Teifi; Y Gymraeg; Yr Amwythig; Y Bala; Y Fenai
TAFODIAITH
Mae llawer o eiriau, ymadroddion a phatrymau yn iaith y ddau siaradwr sy'n nodweddiadol o Gymraeg llafar de Cymru. Nodwch y rhain.
TRAFOD
i) "Mae'r sgwrs yn anffurfiol iawn rhwng dau berson sy'n adnabod ei gilydd yn dda" Sut byddech chi'n cyfiawnhau neu yn gwrthbrofi'r gosodiad hwn. Nodwch eich tystiolaeth.
ii) Siaradwch â'ch partner am eich hoff ffilm / actor / actores.
iii) Ydy Cymry wedi gwneud llawer o gyfraniad i fyd ffilmiau?
iv) Ydych chi o'r farn y byddai Ioan Gruffydd yn addas ar gyfer rhan James Bond? Nodwch eich rhesymau.
YMADRODDION
Mae si ar led; mae hanes ar gerdded; mae sôn bod; mae achlust fod; mae'r stori'n dew fod...
YSGRIFENNU
Taswn i'n actor, baswn i'n hoffi.......
Fy hoff actor / actores
TRAWSGRIFIAD
Shw mae, Ioan. Croeso nôl i Gaerdydd. Shwd mae
e i fod nôl?
O, dw i wrth fy modd. Mae wastad yn braf i ddod
gartre ond yn brafiach fyth i ddod gartre gyda
premier ffilm fowr fel hyn a dw i ... na ... dw i wrth fy
modd.
Wnes i fwynhau'r ffilm yn fawr iawn. Beth oedd y
dechre? Shwd gefes di'r rhan? Ife rywbeth fel sgript
drwy'r post neu oedd Jerry Bruckheimer yn ffono
ti a dweud, "Dere draw i weld fi"?
Na, ges i glyweliade, nifer o glyweliade, i ddechre
gyda'r cyfarwyddwr castio a wedyn ges i glyweliad
gyda Antoine Fuqua ei hunan a wedyn 'ny cyfweliad
wedyn gyda Jerry Bruckheimer a bues i'n lwcus iawn
yn y gorffennol i weithio gyda fe ar Black Hawk
Down felly oedd 'na ryw gysylltiad, fel ryw berthynas
gyda ni eisoes a fi'n falch iawn bo fi 'di neud y rhan
fach 'na yn ei ffilm, yn Black Hawk Down, a ges i ran
fawr wedyn yn hon.
O ti'n marchogaeth eitha tipyn yn y ffilm 'ma.
Cefaist ti wersi arbennig neu ife meithrinfa
Llangrannog ddechreuodd ti off?
Ie, meithrinfa Llangrannog! Na, ges i - o'n i'n lwcus -
ges i'n hyfforddi gan yr un bechgyn na'th y'n hyfforddi
ni ar y ffilm, blynyddoedd yn ôl, pan wnes i'r rhaglen
Poldark. Felly yr un bois, falle oedd 'na ryw fath o
gontinuity pan o'n i'n cael 'y nysgu ar y ffilm a githo
ni bythefnos o ysgol farchogion yn yr Iwerddon ble o'n
i'n dysgu i farchogeth yn y boreau a marchogeth gyda
... mewn ryw fath o batryme gyda'n gilydd, a wedyn
'ny neud yr holl choreography, yr holl ymladd a'r
brwydro oedd raid i fi neud yn y ffilm yn prynhawn a
wedyn, wrth gwrs, gan bod ni'n byw yn Iwerddon
oedd tipyn o whare ambeutu yn y tafarne yn yr hwyr.
Ie. I geisio datblygu'r cymeriade yndife.
Oedd e'n ffilm anodd i ffilmio?
O'dd, o'dd. O'dd hi'n ffilm gorfforol iawn ond er gweud
hynny dw i ddim yn eistedd tu ôl i ddesg bob dydd o
naw tan bump. Dw i allan yn y awyr agored yn iste
ar ben ceffyl yn edrych yn gret ac yn esgus bod yn
blentyn eto, a gweud y gwir. Bydden i'n disgrifio fe fel
bod yn blentyn yn yr ardd gefn yn whare 'da darn
bach o bren a, yn sydyn iawn, dw i'n neud e o ddifri.
Dw i'n clywed bo ti'n dioddef o glefyd y gwair.
Oedd hynna'n broblem tra bo ti'n ffilmio?
Mae wedi bod, yn y gorffennol, yn broblem oedd yn
erchyll pan o'n i'n ifancach ond dw i'n tyfu mas o'r
peth tipyn bach ond oedd raid i fi gael chwistrelliad
yn 'y nhîn i gael gwared o'r peth am y cyfnod yr haf
a mae wedi gwitho, chware teg. Felly dw i'n falch
iawn bod rwbeth ar gael nawr i helpu'r sefyllfa.
Tra bod y cyfnod ffilmio, haf dwetha, fe gefes di dy
urddo i'r wisg wen. Oedd hwnna'n broblem?
Oedd e fel bo ti'n dweud wrth Jerry Bruckheimer,
"Look Gerry, I'm off to become a druid in Wales".
Oedd hynna'n broblem?
Na, dim o gwbwl. Na oedd e'n ... fel oedd hi'n
digwydd, withodd y cyfan mas ... o'n i ddim yn gwitho
ar y dyddie hynny a, whare teg i'r Orsedd, nitho nhw
newid y'n urddo i i'n siwto i, a gweud y gwir. Felly, na,
dyna'r foment mwya ... wel, moment mwya prowd dw
i 'di cael yn 'y mywyd dw i'n credu a dw i'n falch iawn
o fod wedi cael y'n urddo.
Ar ôl ti orffen hyrwyddo hwn, ti'n gadel Caerdydd
nawr, ti'n mynd i Efrog Newydd?
Na, dw i'n mynd nôl i Los Angeles a fydda i'n mynd
lan wedyn 'ny wythnos nesaf i Vancouver i ddechre ar
y ffilm newydd 'ma,The Fantastic Four.
Beth yw dy gymeriad di yn hwnna?
Wel, dw i'n chware Dr Reed Richards, aka Mr
Fantastic, a mae e'n medru ymestyn ei freichie fe a'i
goese fe, a'i gorff cyfan a gweud y gwir, a dyna . . .
dyna ei bwere arbennig e.
Mae 'na ffilm gyda Matthew Rhys yn dod lan
hefyd, oes e?
Na, yn anffodus, oedd 'na sôn wedi bod yn y
gorffennol bod ni'n mynd i neud ffilm gyda'n gilydd
ond, yn anffodus, gan bod y cyfle 'ma wedi dod i
whare Mr Fantastic, fe benderfynes i fynd i neud
hwnnw yn lle.
A .... ddyle ni ddeud e - James Bond?
Wel, dw i 'di bod yn lwcus iawn yn y gorffennol, a dal
i fod - si yw e, dim ond si sy' ar led mod i, mae ryw
gysylltiad gyda'r cymeriad ond . . na, mae e'n
flattering iawn - bydden i wrth 'y modd yn whare'r
rhan ond dw i ddim wedi cael galwad oddi wrth
Barbara Broccoli yn cynnig y rhan i fi 'to.
Wel, os nid tro yma, y tro nesa falle?
O, gobitho'n fawr, ie. O, bydden i wrth fy modd. Fydden
i'n ffŵl i droi'r cyfle 'ny lawr dw i'n credu.
Bydde unrhyw ddiddordeb gyda ti yn cyfarwyddo
neu gynhyrchu ffilmie?
I fod yn onest, does dim diddordeb wedi bod 'da fi
eriôd a dweud y gwir. Falle ddatblygith e yn y dyfodol
ond dw i jyst wrth fy modd yn actio ar hyn o bryd a
gweithio gyda cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, ond pwy
a ŵyr? Fel mae'n ... fel mae Tom Cruise wedi neud,
mae e'n cynhyrchu a chyfarwyddo pethe ei hunan a
gobitho un dwrnod bydda i â'i statws e a bydda i'n
gallu cynhyrchu'r cyfan y'n hunan.
Pob lwc i ti a diolch i ti, Ioan, a llongyfarchiade
gyda'r ffilm 'ma. A, fel dwedes ti cyn dechre'r ffilm
neithiwr, wedes di rywbeth fel hyn:
"I'r gâd, cerddwn ymlaen, ry'n ni yma o hyd"
Diolch yn fawr iawn i ti, Ioan.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen