GEIRFA
gwledig; cymreigaidd; cymharu â; ffin; ehangu; oriel luniau; arlunio; amaethyddol; cymeriadau; perchen; yn bennaf; ers talwm; addas; uniongyrchol; anhygoel; dramor; gwreiddiol
GWRANDO A DEALL
i) Ble yn union mae Llangeler?
ii) Pa fath o ardal yw hi?
iii) Pa rannau o Gymru sy'n gymreigaidd yn ôl Jonsi?
iv) Sut mae dwyrain Cymru'n wahanol?
v) Ble mae Miriam James yn gweithio?
vi) Beth yn arbennig sydd wedi digwydd i'r siop yn ystod y flwyddyn?
vii) Pa arlunydd sy'n arddangos ei waith yno?
viii) Beth yw ei hoff destunau?
ix) Gwaith sawl artist sydd yn yr oriel?
x) Beth oedd problem yr arlunydd oedd yn ffrind i Jonsi?
xi) Ble yn union mae'r siop?
xii) Ydy Miriam James yn arlunydd?
xiii) Beth mae Jonsi'n hoffi ei wneud dramor?
xiv) Faint mae e'n ei wybod am arlunio?
IAITH
a) Un o nodweddion iaith Jonsi yw ei fod yn hoffi defnyddio tagiau ar ddiwedd brawddeg. Dyma rai: yn dydy; nag 'dan; ynte fa; yn does; yn dydyn. Gwrandewch ar y recordiad yn ofalus gan nodi pob tag a glywch. Wedyn, ychwanegwch y tagiau cywir i'r canlynol:
i) Fyddai e byth yn twyllo,..............?
ii) Yng Nghaerdydd roedd e'n gweithio,................?
iii) Does dim arian 'da nhw, ....................?
iv) Fe brynodd e'r ceffyl, ....................?
v) Ddylai e ddim siarad fel 'na, ................?
vi) Dw i'n iawn, .....................?
vii) Dwyt ti ddim yn credu hynny, ..................?
viii) Mi ddaw o rwan, ..................?
b) Edrychwch ar y gwahanol ddefnydd a wneir o'r canlynol a phenderfynwch ydy'r brawddegau'n gywir:
Cymraeg; Cymreig; Cymreigaidd; Cymru; Cymry
i) Mae e'n siarad Cymraeg da.
ii) Roedd hi'n arfer gweithio yn y Swyddfa Gymraeg.
iii) Bwrdd Croeso Cymry.
iv) Roedd ganddi acen gymreigaidd.
v) Mae nifer o ddawnsiau gwerin Cymreig.
vi) Roedd ganddi delyn deires Cymru.
c) Pa ansoddeiriau yn disgrifio nodweddion ardal ydych chi'n gallu eu ffurfio o'r enwau hyn?
amaethyddiaeth
diwydiant
gwlad
mynydd
bryn
TAFODIAITH
Nodwch yr elfennau hynny yn iaith Jonsi a Miriam James sy'n eu lleoli. Sut mae iaith y ddau yn ymdebygu neu yn wahanol i'r iaith a glywch chi o'ch cwmpas?
TRAFOD
i) Cyfwelwch â pherson am ei waith a sôn am hynny wrth y dosbarth.
ii) Oes gennych hoff arlunydd neu hoff ddarlun? Trafodwch.
iii) Trafodwch bethau o blaid ac yn erbyn gweithio mewn siop.
YMADRODDION
ers talwm; ers llawer dydd; gynt; yr hen ddyddiau; amser maith yn ôl.
YSGRIFENNU
Y lluniau / darluniau ar y wal yn fy nghartref.
Prynu darluniau.
Hapus neu anhapus yn eich gwaith? Pam?
TRAWSGRIFIAD
Dw i am fynd i weld Miriam James. Dewch hefo fi
rwan. Mae hi'n byw yn Llangelert, jyst tu allan i
Llandysul. Ydw i'n iawn yn fan'na Miriam?
Odych, ryw bum milltir o Llandysul.
Ardal braf?
Ardal braf. Ardal wledig, eitha cymreigedd a gweud y
gwir.
Ydy mae hi, yndydy?
Odi, odi, odi.
Fydda i'n meddwl am yr ardal yna - fydda i'n
meddwl i lawr dudwch o ochra Gaernarfon, i lawr
Pen Llŷn, i lawr, Ceredigion, Sir Benfro, y ddwy
droed 'na i lawr fel'a yn gymreigaidd iawn, dydy?
Odi, odi, chi'n iawn man'na.
I gymharu â'r ochor arall ynde, efo bob parch
iddyn nhw. Mae 'na bobol sy'n gweithio yn galed
iawn yr ochor arall i Gymru hefyd, y'ch chi, ar lawr
y ffin yn fan'na ond 'da ni'm yn glywad o gymaint,
yn nacdan?
Na, chi'n iawn man'na.
Ydach chi'n dal i weithio yn y siop lyfre?
Ydw, dw i 'ma nawr yn Aberteifi ers dros chwech
mlynedd.
Ydach chi?
Ydw a ni 'di ehangu lot yn y flwyddyn dwetha 'ma. Ni
'di agor oriel lunie, chi'n mbod, yndife.
Do wir?
A gwaith fel artists lleol fan hyn, sef Aneurin Jones, 'de.
Dudwch dipyn am Aneurin Jones.
Dw i'm yn
gwbod llawer amdano fo i ddeud y gwir wrthoch
chi.
Wel, gŵr lleol, wel, dim falle o'r ardal hyn yn enedigol
yndife, ond fuodd e'n athro yn Ysgol Preseli a wedyn,
wrth gwrs, mae fe, wel, mae fe wedi bod yn arlunio
am blynydde maith, yndife, a mae llunie falle
amaethyddol sy 'dag e fwya falle, cymeriade -
cymeriade falle ni'm yn gweld gwmint heddiw, yndife.
Ac i - y'ch oriel chi 'ta ei oriel o ydy hon? Pwy ...?
Wel, oriel y siop 'de . .
Y busnas ia?
Gwitho yn y siop ydw i. Dim fi sy'n berchen yr oriel
ond .. ym . . a mae ambell i artist arall 'da ni ar hyn
o bryd hefyd ond gwaith e falle'n benna, yndife.
Artistiaid lleol ydy rhain i gyd, ia?
Odyn, odyn.
Yn byw yn yr ardal, felly?
Ie, ie.
Wel, mae hynny'n rwbath - mae'n rwbath iddyn
nhw sy'n arbennig, yntydi, achos mewn ffordd un
o'r problema - dw i'n cofio rwun fyddwn i'n
nabod yn r'ysgol ers talwm ac ei gwŷn fwya o
oedd nad oedd 'na nunlla iddo fo ddangos ei
waith, ynde.
Na, gan bod ni'n siop Gymraeg wedyn ar y stryd fawr,
yndife, chi'n mbod, mae fe'n lle addas really i gael yr
oriel 'ma, chi'n mbod yndife.
Ydy pobol yn dal i fynd i'r llefydd yma d'wch i weld
llunia? Mae gin gymaint o ddiddordeb mae'n siwr
on'd oes ag oedd 'na ers talwm? Mae rwun yn
tueddu i feddwl nad oes 'na ddim gymaint heddiw
- w'ch chi beth dw i'n feddwl?
Ie, dw i'n meddwl bo ni'n eitha ffodus yn Aberteifi a
gan bod siop 'da ni yma hefyd, chi'n mbod, mae
pobol yn gallu cyfyngu'r ddau, chi'n mbod, yndife, bod
nhw'n gallu mynd lan i'r oriel a wedyn cael edrych o
gwmpas y siop r'un pryd yndife, chi'n mbod.
Yndyn, wrth gwrs, yndyn, a pan mae nhw'n dod
acw am lyfr, dudwch, a wedyn mae nhw'n mynd i'r
oriel, yndydyn, mewn ffordd, yndydyn.
Odyn, 'sno nhw'n gorfod mynd falle yn uniongyrchol i
oriel, yndife, cael y ddau r'un pryd wedyn, ynde.
Mae'n anhygoel, prisia rhai o'r llunia 'ma. 'Da chi'n
gweld nhw os ewch chi i ryw oriel i rwla a chi'n
gweld y prisia am nad dw i'n dallt dim byd am
betha fel hyn, pam mae'r llun yna'n ddrutach na'r
llun yna, 'da chi'n gwbod be dw i'n meddwl. Be sy'n
gneud hwnna yn ddrutach, ynde? Ydach chi'n dallt
y petha yma?
Dw i'm yn dallt dim byd am arlunio. O'n i'n - wel, a
deud y gwir, o'n i'n ofnadw yn yr ysgol am dynnu
llunia. Dw i'n hoffi, chi'n mbod, diddordeb 'da fi i weld
llunie ond sa i'n deall lot o ddim byd, yndife.
Ia, wel, na dw inna ddim chwaith ond os dw i
dramor, fydda i'n licio mynd i weld lluniau, y'ch
Picassos a'r rhein i gyd 'lly, er nad dw i'n dallt dim
byd amdanyn nhw. Ydach chi 'di gweld print rhad
o amryw o'r llunia 'ma yn amal iawn, do?
Wyddoch chi be dw i'n feddwl, maen nhw gynno
ni mewn rhyw gegin neu rywbeth, yndydyn?
Odyn.
A fyddwch chi'n mynd rownd a meddwl, O, mi
oedd hwnna gin i yn Gaerdydd ers talwm. O, un
o'i lunia fo oedd hwn yn wreiddiol, felly, achos dw
i'm yn dallt y petha 'ma ond fydda i'n meddwl be
sy'n gneud rhai petha'n ddrutach na'i gilydd, a mae
hynny am bo fi'm yn ddallt o, wrth gwrs.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen