GEIRFA
cyfnod; boddhad; cylchrediad; angerddol; adlewyrchiad; methiant; dyblu; treblu; cyfeirio; trosglwyddo; cenedlaethol; cyfeiriadau; agosatoch; argraffiadau; bygythiad; golygu; traddodiad; cyson; di-ben-draw
GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd yn rhoi'r pleser mwyaf i John Roberts Williams wrth weithio ar Y Cymro?
ii) Yn ôl y siaradwr, pwy sydd ar fai pan fydd papur yn methu?
iii) Pa fath o bobl roedd yn falch eu bod yn darllen Y Cymro?
iv) Faint oedd cylchrediad y papur pan ddechreuodd e ar ei waith?
v) Pam mae'n anodd gwerthu papur cenedlaethol?
vi) Pam mae pobl yn hoffi darllen papurau bro?
vii) Pa ffactor oedd yn allweddol yn llwyddiant Y Cymro?
viii) Ydy papurau bro yn fygythiad i bapur cenedlaethol ym marn y siaradwr?
ix) Ble roedd Y Cymro'n gwerthu orau?
x) Pa ardaloedd oedd yn anodd? Pam?
IAITH
a) Diffiniwch yn Gymraeg:
i) cylchrediad ii) bygythiad iii) di-ben-draw iv) golygydd v) angerddol vi) argraffiad.
b) Pa air nad yw'n perthyn yn ramadegol neu o ran ystyr i bob un o'r setiau hyn? Pam?
i) adlewyrchiad; methiant; cyfeirio; bygythiad
ii) cyfnod; adeg; oes; traddodiad
iii) cyfeiriadau; angerddol; cyson; di-ben-draw
iv) haneru; golygu; dyblu; treblu.
c) Mae John Roberts-Wiliams yn sôn am 'sbelio' neu sillafu.
Dyma'r wyddor Gymraeg:
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y
Nawr rhestrwch y geiriau hyn yn nhrefn yr wyddor:
Trosglwyddo; canu; lafant; golygu; rhad; angerddol; traddodiad; adlewyrchiad; cenedlaethol; ras; ager; chwarae.; thus; Llanelli.
TAFODIAITH
O ran geirfa a phatrwm, does dim llawer o ôl tafodiaith ar iaith John Roberts-Williams na'r cyfwelydd yn y darn hwn, ond beth yw'r nodweddion sy'n bradychu eu cefndir?
TRAFOD
Trafodwch un o'r pynciau hyn mewn grwpiau:
i) Faint o werth sydd i bapurau bro?
ii) Sut byddech chi'n newid eich papur bro?
iii) Oes angen papur dyddiol Cymraeg? Pam?
iv) Beth yw hanfod newyddiadurwr da?
v) Ydych chi'n darllen papur newydd? Os nad ydych, sut rydych chi'n derbyn newyddion y dydd?
YMADRODDION
di-ben-draw di-droi-nôl di-dderbyn-wyneb
YSGRIFENNU
Fy hoff adran o'r papur newydd.
Ysgrifennwch erthygl fer i'ch papur bro
TRAWSGRIFIAD
O edrych yn ôl ar y'ch cyfnod chi fel golygydd "Y
Cymro", pa bethe roddodd fwya o foddhad i chi, chi'n
meddwl, yn bersonol?
O, wel faswn i'n medru dewis hyn a dewis y llall,
wyddoch chi, oedd 'na bethe gin Bob Owen,
Croesor, a phob math o bethe oedd yn hynod
lwyddiannus, ond y peth oedd yn rhoid mwya' o
foddhad i mi oedd fod y cylchrediad yn codi. Gen
i ddiddordeb angerddol yn hynny achos, i mi, 'sa
gin i'm diddordeb mewn golygu papur newydd
Cymraeg, na papur newydd mewn unrhyw iaith, â'i
gylchrediad yn mynd i lawr. Oherwydd
adlewyrchiad o'ch methiant personol chi'ch hun
ydy o, oherwydd ar y golygydd mae'r bai yn y pen
draw a'r peth mawr i mi oedd bod y cylchrediad
wedi, wel, mi ddyblodd, mi dreblodd a mi na'th yn
well na hynny, ac roedd hynny'n rhoi boddhad
mawr i mi, a hefyd y ffaith bod 'na bobol mewn tai
cyngor yn darllen Y Cymro - hynny oedd y
boddhad.
Tua faint oedd y cylchrediad pan gychwynnoch chi ar
y gwaith?
Yr oedd y cylchrediad yn dipyn llai na deg mil yn
y dechre a mi gyrhaeddodd bron i wyth mil ar
hugain.
O'ch chi'n cyfeirio fan'na at fobol mewn tai cyngor.
Fasa chi'n deud bod y gweithgarwch yna nawr wedi
cael ei drosglwyddo i'r papure bro?
Ydy, i ryw radde, yndi, ond mae'r rheini'n apelio,
w'ch chi. Mae'n anodd iawn iawn gwerthu papur
cenedlaethol oherwydd toes 'na mo'r apêl fro
ynddo fo. Wyddoch chi, mae pobol yn prynu
papura bro sydd yn ardderchog i neud i bobol
ddarllan Cymraeg, yn rhannol am bod 'na
gyfeiriada atyn nhw, eu teuluoedd a'u petha, agos
ata chi. Rwan os 'da chi yn - y'chi mae dod â papur
ar raddfa genedlaethol yn anodd iawn, ac un o'r
pethe wnaed efo'r Cymro oedd ei neud o yn
argraffiada. Er enghraifft. roedd yr argraffiad ar
gyfar Sir Gaernarfon oedd yn cynnwys ryw ddwy
dudalen yn arbennig i'r Sir, yn gwerthu deuddeg
mil a hanner o gopïau, oedd yn lot fawr o bapura
newydd ar y pryd.
Ydych chi'n meddwl bod y papure bro yn fythygiad i
bapur fel Y Cymro y dyddie 'ma?
Nadw. Mi ddyla bod o'n help oherwydd oeddwn
i yn gwybod pan oeddwn i yn golygu Y Cymro, mai
yn yr ardaloedd lle'r oedd 'na draddodiad o
ddarllen Cymraeg oedd Y Cymro yn gwerthu ora
- yn ardaloedd y chwareli yn Llŷn, yn Y Bala, yn
Ffestiniog, yn Nolgellau, llefydd lle roedd 'na
bapura Cymraeg. Lle oeddach chi'n chael hi'n
anodd ofnadwy oedd yn y de lle roedd 'na ... lle
roedd y traddodiad o ddarllen Cymraeg yn gyson
wedi darfod, a dw i'n meddwl dyla'r papura bro
fod yn help di-ben-draw i bob papur Cymraeg.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen