GEIRFA
cyhoeddiad; gweinyddwr; hyderus; ffoi; cuddio; croesholi; cydweithio; dathlu; Cwrdiaid; erlidigaeth; darostyngedig; gorfoledd; penbleth; cynghreiriaid; diffuant; anos; cyfundrefn; arbenigedd; barnwyr; amgylchiadau; cefnogaeth; achos; safon; cyfiawnder; rhyngwladol; anhysbys; honedig; cyfrinachau; annhebygol; uniongyrchol; offer; cyfathrebu; cyntefig; delweddau; trawiadol; crwydryn; ysgogi; chwyrn; cyrch; milwrol; tyddyn; cell
GWRANDO A DEALL
i) Pwy wnaeth y cyhoeddiad?
ii) Ble ffeindion nhw Saddam?
iii) I ba raddau roedd Saddam yn cydweithredu?
iv) Pwy oedd yn dathlu yng Nghaerdydd?
v) Sut roedd Saddam yn edrych?
vi) Beth oedd ofnau Robert Griffiths 'tasai achos yn cael ei gynnal?
vii) Beth oedd mudiad Amnest Cydwladol yn awyddus i'w sicrhau?
viii) Ble roedd Saddam Hussein yn cael ei ddal?
ix) Faint o offer cyfathrebu oedd ganddo yn y ffermdy?
x) Beth roedd e'n gallu ei weld o'r ffermdy?
IAITH
a) Llenwch y bylchau:
Enw Berfenw
crwydryn crwydro
gweinyddwr ...........
............. cyhoeddi
barnwr ...........
............. dathlu
cefnogaeth ...........
............. arbenigo
erlidigaeth ...........
b) P'un o'r ffurfiau hyn sy'n gywir?
cynghreiriaid cyngreiriaid
sonir sonnir
amgaeëdig amgauëdig
ar wahan ar wahân
annhebygol anhebygol
ysgrifenaf ysgrifennaf
c) Yn y golofn ar y chwith mae 10 gair glywsoch chi yn y darn. Pa air ar y dde sydd agosaf ei ystyr i bob un ohonynt?
sicr ymosodiad
ffoi cyfarpar
croesholi siðr
diffuant cyfyng-gyngor
anhysbys annog
offer dianc
cyntefig didwyll
ysgogi cwestiynu
cyrch hen
penbleth anadnabyddus
TRAFOD
i) Ddylai Saddam Hussein fod wedi cael ei ddienyddio?
ii) "Bydd dienyddio Saddam ond ei wneud yn ferthyr". Trafodwch.
iii) Ydy hi'n iawn i wlad gael gwared ar unben mewn gwlad annibynnol arall?
iv) Ddylai Prydain fod wedi cefnogi polisi tramor America yn Irac?
YMADRODDION
nid nepell o; cyfraith a threfn; ar frig yr agenda; achub ar y cyfle
YSGRIFENNU
Portread o unben - Stalin, Hitler, Cadeirydd Mao, Castro, Saddam Hussein.
O dan pa amgylchiadau mae modd cyfiawnhau mynd i ryfel?
TRAWSGRIFIAD
A mi oedd o'n gyhoeddiad yr oedd America wedi
edrych ymlaen yn hir i'w wneud:
"Ladies and gentlemen, we got him".
Gweinyddwr America yn Irac, Paul Bremer, yn
cyhoeddi'n hyderus fore ddoe fod Saddam
Hussein wedi cael ei ddal. Ar ôl misoedd o ffoi ac
o guddio, mi ddath milwyr arbennig America o
hyd iddo fo mewn twll yn y ddaear o dan ffermdy
nepell o'i dref enedigol Tikrit. Mae'n cael ei
groesholi ar hyn o bryd. 'Da ni ddim yn cael
gwbod yn lle ond, yn ôl rhai adroddiada, mae o
bellach yn gwrthod cydweithio. Y diweddara rwan
gan Aled Scourfield:
Amser i ddathlu ac i rannu jôc i'r gymuned Cwrdaidd
yng Nghaerdydd. Roedd y parti yma yng Nghyncoed
yn un o gannoedd gafodd eu trefnu o gwmpas
Prydain gan Gwrdiaid na'th ffoi rhag erledigaeth
Saddam Hussein. Mae gweld yn cyn unben yn
edrych yn wan, yn hen, yn ddarostyngedig, yn destun
gorfoledd iddyn nhw. Ond nawr mae 'na benbleth yn
wynebu America a'i Chynghreiried. Beth i wneud gyda
Saddam Hussein? Roedd Tony Blair yn ddiffuant:
"Saddam has gone from power. He won't be
coming back.That, the Iraqi people now know, and
it is they who will decide his fate."
Ond, mi alla hi fod yn anos o lawer iddo sefyll ei
brawf yn Irac. Mae'r gyfundrefn cyfraith a threfn
wedi'i chwalu ac mae 'na bryder nad oes na ddigon
o arbenigedd ymhlith barnwyr y wlad i gynnal achos
o'r fath ac mae 'na ofne bydd Saddam Hussein yn
achub ar y cyfle i droi unrhyw achos yn ffars. Mae'r
awdur Robert Griffiths wedi sgwennu nifer o erthygle
ynglŷn ag Irac.
Petai nhw'n ei roi fe ar brawf ... mewn achos o ...
mewn llys o ryw fath, wel, mae 'na beryg, dan yr
amgylchiade hynny, y bydde Saddam yn gallu
dweud cryn dipyn am hanes cefnogaeth iddo fe
gan yr Unol Daleithie a Llywodraethe Prydain ac
yr Almaen ac yn y blaen.
Yn ôl Elaine Edwards o fudiad Amnest Rhyngwladol,
mae'n bwysig fod Saddam yn cael achos teg ble
bynnag fydd yr achos hwnnw'n cael ei gynnal.
Wel, mae'n amlwg mae'n rhaid iddo fe nawr gael
achos llys yndife, achos llys teg a barn Amnest yw
bod e'n bwysig dros ben bod ni'n dilyn safone
cyfiawnder rhyngwladol wrth wrando'r achos yn
ei erbyn e.
O fewn yr orie dwetha, mae Ysgrifennydd Amddiffyn
America, Donald Rumsfeld wedi bod yn rhoi'r
manylion cynta ynglŷn â'r broses o holi Saddam
Hussein. Mae'n cael ei ddal mewn man anhysbys. Fe
fydd yr arfe dinistriol a'i gysylltiade honedig gyda
therfysgwyr ar frig yr agenda ond mae'n ymddangos
nad yw'n barod i ildio ei gyfrinache eto.
"He has not been co-operative in terms of talking
or anything like that but I think it's a bit early to try
to characterize his demeanor."
Dyw hi ddim yn glir hyd yma beth fydd effaith y
penderfyniad i arestio Saddam Hussein. Mae'n
annhebygol iawn fod ganddo unrhyw gysylltiad
uniongyrchol gydag ymosodiade ar filwyr America yn
Irac. Doedd 'na ddim ffôn, dim offer cyfathrebu yn y
ffermdy cyntefig wrth ymyl ei dref enedigol, Tikrit. A
beth fydd effeth y delwedde trawdiadol yn y
gwledydd Arabaidd? Mae'n bosib y galle'r llunie o
Saddam yn edrych fel crwydryn ysgogi ymateb
chwyrn. Yr eironi pennaf efallai yw'r man lle cafodd
Saddam ei ddal. Yn ôl y Cadfridog Odierno, y dyn
oedd yn gyfrifol am arwain y cyrch milwrol echddoe,
roedd y cyn Arlywydd yn gallu gweld un o'r palasau
crand o'i dyddyn bach. Mae Saddam Hussein yn
gwybod bellach taw cell fydd ei gartref o hyn ymlaen,
tan i bobol Irac benderfynu beth fydd ei ffawd.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen