GEIRFA
cysylltiad; partneriaeth; unigryw; cyffwrdd â; tlodi; argyhoeddiad; Cristionogol; adnoddau; effeithio; swyddogion; blaenoriaid; efeillio;
gweledigaeth; meddygaeth; cyfrifiaduron; rhwydweithio; cyffrous; peirianwyr; gwleidyddion; cefnogi; asiantaethau; hyfforddi
GWRANDO A DEALL
i) Beth sydd wedi symbylu sefydlu 'Pont'?
ii) Beth mae'r wraig o Ferthyr Tudful am ei wneud?
iii) Beth oedd ymateb y person o'r Cymoedd i'r ymwelydd o Uganda?
iv) Pa fath o gysylltiad sydd rhwng eglwysi'r ddwy dref?
v) Syniad pwy oedd sefydlu 'Pont'?
vi) Sut mae ardal Pontypridd yn gallu helpu pobl Mbale?
vii) Beth welodd rhai o bobl Uganda am y tro cyntaf?
viii) Pwy ar wahân i'r eglwysi sy'n cydweithio yn y ddwy wlad?
IAITH
a) Gwrandewch ar y darn a phenderfynwch pa eiriau sy'n perthyn yn agos i'r geiriau hyn. [Mae'r geiriau yn yr un drefn ag yn y recordiad]
partner tlawd
Crist swydd
gweld meddyg
cyfrif peiriant gwlad
b) Cysylltwch y gair / ymadrodd yn y golofn ar y chwith â'r diffiniad ohono ar y dde.
bwrw golwg - helpu; cynorthwyo
partneriaeth - cred sicr
argyhoeddiad - edrych dros
cysylltiad - gwyddor gwella iechyd
awydd - bod heb arian
cefnogi - eisiau gwneud neu gael rhywbeth
tlodi - cydweithio
meddygaeth - y berthynas rhwng dau beth
c) Gwrandewch ar y recordiad i ddarganfod ffurf luosog yr enwau hyn:
swyddog; blaenor; cyfrifiadur; peiriannydd; gwleidydd; asiantaeth.
TAFODIAITH
Yn eich barn chi, ydy Dewi Arwel Hughes yn frodor o Bontypridd? Ydy Alun Thomas o dde-ddwyrain Cymru? Nodwch eich rhesymau.
TRAFOD
i) Ar ôl gwrando ar yr eitem, trafodwch mewn grwpiau bach sut, yn eich barn chi, y gallai Pontypridd helpu Mbale.
ii) Fasai'n well tasai Pontypridd yn efeillio â thref yn Ewrob? Trafodwch.
iii) Ai busnes eglwysi yn hytrach na llywodraethau yw'r gwaith a ddisgrifir?
YMADRODDION
bwrw golwg ar; trwy gyfrwng; y fath dlodi; i ryw raddau; fan hyn.
YSGRIFENNU
Ysgifennwch
a) lythyr at rywun yn Mbale yn disgrifio eich ardal chi.
b) gylchlythyr yn gofyn am gyfraniad i elusen sy'n helpu pobl dlawd yn Affrica.
TRAWSGRIFIAD
Bore da i chi a chroeso i rifyn arbennig o 'Bwrw
Golwg' o Uganda gyda finne Alun Thomas.
Dyma wasanaeth mewn eglwys wledig yn y bryniau
uwchben tref Mbale yn ne ddwyrain Uganda. Mae
gan yr ardal hon gysylltiad arbennig gydag un o
gymunede cymoedd y de. Mae pobol ardal
Pontypridd wedi sefydlu partneriaeth unigryw i
gynorthwyo pobol tlota un o wledydd Affrica, a hynny
trwy gyfrwng mudiad o'r enw 'Pont'. Yn gynharach
eleni fe ges i'r cyfle i fynd i Uganda gyda rhai o
aelodau'r mudiad wrth iddyn nhw gwrdd â'u
partneriaid o rai o eglwysi Mbale.
Mae'r cyfan yn dod o'r awydd i gyffwrdd â'r sefyllfa
o dlodi yn y . . hynny yw, dyna yw gwreiddyn y
cyfan i gyd, yr argyhoeddiad yma bod hi'n ... bod
hi ddim yn iawn bod pobol yn marw . . .
Yno hefyd, criw o rai o eglwysi Merthyr Tudful yn cael
eu profiad cyntaf o fywyd yn y fath dlodi.
Gobithio byddwn i yn gallu rhoi support i'r bobol
'ma mewn pob math o ffordd, yn enwedig yn
Gristionogol, rhoi help i'r bobol yma i gario mlaen
a gweld bod rhywun yn caru nhw a gallu helpu
nhw.
Ac fe fyddwn ni'n clywed am yr ymateb yn y
cymoedd wrth i bobol o Uganda gael profi bywyd yng
Nghymru am y tro cyntaf.
Dw i tamed bach yn embarrassed wrth ddangos
iddyn nhw yr holl adnodde sy gyda ni a maen nhw
jyst ... maen nhw methu credu'r peth.
Croeso i'r Cymry wrth iddyn nhw gyrraedd tref
Mbale. Y lle cynta iddyn nhw fynd oedd Eglwys First
Baptist. Mae'r eglwys hon wedi efeillio ag Eglwys
Bedyddwyr Temple ym Mhontypridd gyda
swyddogion y ddwy eglwys yn chwarae rhan flaenllaw ym mhartneriaeth 'Pont'. Un o flaenoried Eglwys
Temple yw Cadeirydd 'Pont', Dewi Arwel Hughes.
Mae 'Pont' yn cychwyn o weledigaeth un person
sydd yn feddyg teulu yn Pontypridd a'r
weledigaeth yma o drio cysylltu tre a chylch yn
Affrica efo tre a chylch yng Nghymru, a'r syniad
ydy fod y gymuned gyfan, felly, yn cysylltu efo'i
gilydd. Mae i bob cymdeithas wahanol agwedde
on'd oes? Wedyn . . yn ein cymuned ni mae 'na
feddygaeth, mae 'na addysg, ysgolion, mae 'na
eglwysi, mae 'na beirianwyr, mae 'na bobol sy'n
arbenigo mewn cyfrifiaduron .... bob math o sgilia
sydd mewn cymdeithas. Ac, mewn lle fel Affrica,
mae 'na angen mawr am lot o'r sgilia 'ma, felly. Y
syniad ydy, bod ni'n trio cysylltu y sgilia 'ma efo'i
gilydd yn ein cylch ni a wedyn bo ni'n cysylltu efo'r
un sgiliau sydd ar gael, os maen nhw yma i ryw
radde, â'r cylch yn Affrica, a'r syniad ydy bod ni'n
rhwydweithio'r holl beth, wedyn ... bod y
rhwydwaith meddygol yn cysylltu efo'r
rhwydwaith feddygol yn fan yma, ac yn y blaen.
A'r bwriad yn gyffredinol yw i helpu pobol yn fan hyn
i helpu eu hunain, fel petai?
Wel, mae'r cyfan yn dod o'r .... awydd i gyffwrdd â'r
sefyllfa o dlodi yn y pen - hynny yw, dyna yw
gwreiddyn y cyfan i gyd, yr argyhoeddiad yma, bod
hi ... bod hi ddim yn iawn bod pobol yn marw o
dlodi, ac mae hynny yn wir yn y fan yma ...a dyna'r
'bottom line' felly a mae'r holl beth wedyn yn
cyfeirio tuag at hwnna.
Cadeirydd Pwyllgor Partneriaid Pont ym Mbale yw
gweinidog Eglwys First Baptist, Apollo Mueni.
Mae'r berthynas yn beth newydd ... mae'n wych,
mae pobol Mbale mor gyffrous .... lle bynnag chi'n
mynd mae bobol yn sôn am y berthynas, mae'r
bobol wedi croesawu ymwelwyr o Bontypridd i'r
pentrefi .... mae'r pobol yno wedi cyffroi ... mae 'na
rai sydd heb weld person gwyn o'r blaen. 'Da ni'n dysgu ffyrdd newydd ... mae e'n mynd i fod yn
brofiad gwych.
Mae'r ymweliad hwn yn cysylltu eglwysi Pontypridd
ag Mbale ond mae'r bartneriaeth yn bodoli ar sawl
lefel, gydag athrawon, peirianwyr a gwleidyddion y
ddwy gymuned yn cydweithio. Mae 'na bwyslais
hefyd ar gydweithio meddygol.
Un broblem fawr mewn lle fel hyn ydy does 'na
ddim gwasaneth meddygol o gwbl, cynhwysfawr.
Does 'na ddim data yn cael ei gadw ar bobol i
wybod beth ydy lefel neu stad iechyd pobol yn y
cylch. Wedyn un peth 'da ni wedi bod yn trio ei
wneud yw cefnogi ein partneriaid yn y fan 'ma ....
Hwyrach y dyliwn i fod wedi dweud mai nid ni
sydd wedi dod i mewn yma i sortio pobol allan ....
felly be 'da ni wedi'i wneud ydy dod i ffeindio
ffrindiau yn y fan 'ma ac maen nhw, fel mae'n
digwydd bod, yn cynrychioli gwahanol
asiantaethau gwirfoddol ac yn y blaen yn y fan 'ma.
Be 'da ni'n wneud ydy helpu ein partneriaid i
hyfforddi pobol i wneud gwaith iechyd sylfaenol
iawn, felly.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen