GEIRFA
Y Post Brenhinol; carw; gwylltio; gwarth; golygu; annog; efengyl; anghrediniwr; anwybyddu; troseddu; adlewyrchu; carw (ceirw);
ymrwymiad; uwch-reolwr; eilio; pechu; bob yn ail; nodedig;
Methodist Wesleaidd; ildio; egwyddorion; seciwlariaeth; ar gynnydd; anffyddiwr; cydnabod; hijacio; celyn; uchelwydd; nonsens noeth;
sumbolaeth; cawl potsh; Llychlyn
GWRANDO A DEALL
i) Pa luniau sydd ar y tri stamp?
ii) Pam mae Cristnogion wedi gwylltio?
iii) Pa fath o wlad yw Cymru, yn ôl y cyflwynydd?
iv) Beth benderfynodd Swyddfa'r Post ei wneud y llynedd?
v) Beth mae Swyddfa'r Post yn ceisio ei osgoi?
vi) Pam mae'r Parch Bryn Jones yn anhapus?
vii) Sut mae Angharad Davies yn disgrifio'r stampiau?
viii) Beth sydd ar gynnydd, yn ôl y Parch Bryn Jones?
ix) Disgrifiwch safbwynt y Dr Iolo Gwyn.
x) Pam mae e'n disgrifio'r Nadolig fel "cawl potsh"?
xi) Beth mae Cristnogion yn ei sylweddoli, yn ôl y Dr Gwyn?
IAITH
a) Diffiniwch y canlynol yn eich geiriau eich hun:
i) anghrediniwr ii) Llychlyn iii) egwyddor iv) uchelwydd
b) Sylwch ar ffurf luosog carw>ceirw .
Dyma ragor o enghreifftiau o ffurfiau lluosog a>ei:
car>ceir; iâr>ieir; bardd>beirdd; gafr>geifr;
gwasg>gweisg;
march>meirch; tarw>teirw.
Nawr, ffurfiwch luosog: arth; arch; cart; iâr; marw; sarff.
c) Cwblhewch y brawddegau gan ddefnyddio'r geiriau:
hollol; ein hunain; bob o; rhai; holl; ryw; llall; unrhyw; un; sawl.
i) Doedd e ddim yn hoffi'r ................ gardiau.
ii) Dydyn ni ddim yn gallu gweld ...................... bob amser.
iii) Doedden nhw ddim eisiau ................. fath o sumbolau Cristnogol ar y stampiau.
iv) Ces i'r un rhad a chafodd fy mrawd y ..................
v) Dyma dy garden di, ond ble mae fy ............. i?
vi) Cafodd y plant ................... £5 i fynd i'r dref.
vii) Roedd .................. plentyn yn absennol o'r dosbarth.
viii) Cerddais i ................. filltir ar hyd y ffordd.
ix) Chlywodd e mo'r ffôn yn canu gan ei fod e'n .............. fyddar.
x) Does dim hoelion ar ôl. Oes ................. gen ti?
ch) Mae'r geiriau a danlinellir wedi eu camddefnyddio gan y siaradwr. Pa eiriau y dylai fod wedi eu defnyddio? Defnyddiwch eiriadur os oes rhaid.
"Dydyn ni ddim yn adnabyddu Cristnogion na Nadolig"
"Dyn ni ddim am droseddu'r Eglwys Gristnogol o gwbl"
"... yn sicrhau y byddwn ni'n eilio rhwng thema crefyddol a themâu digrefydd."
"Mae'r ffaith ein bod ni'n cynhyrchu stampiau at yr Ŵyl yn nodedig o'r Nadolig."
TAFODIAITH
Ydy'r Parch Bryn Jones a'r Dr Iolo Gwyn yn dod o'r de neu'r gogledd? Nodwch y pwyntiau sy'n ffurfio eich barn.
TRAFOD
Trafodwch mewn grwpiau:
i) Ddylai'r Nadolig fod yn ŵyl hollol seciwlar bellach? [Un grŵp o blaid ac un yn erbyn.
ii) Pa luniau fyddech chi'n eu rhoi ar stampiau'r Nadolig?
YMADRODDION
ar gynnydd; yn y bôn; pob sut; nonsens noeth; ac yn y blaen; yn gawl potsh; bob yn ail.
YSGRIFENNU
Llythyr i Swyddfa'r Post yn cwyno am gynllun stampiau Nadolig
Nadolig cofiadwy.
'Mae'r Nadolig wedi colli ei ystyr'
TRAWSGRIFIAD
Stampia Dolig a jargon, dyna fydd gynno ni i chi
heddiw. Mae'r Post Brenhinol yn cyhoeddi eu
stampia Dolig ar gyfer 'leni. Mae 'na dri math, un
yn dangos Siôn Corn, un arall â llun dyn eira, a
charw sydd ar y llall. Mae hyn wedi gwylltio
Cristnogion gan nad oes 'na lun o Iesu Grist yn
agos at y stampia. Be' 'da chi'n feddwl? Ydy o'n
warth cymryd y Crist ma's o Christmas neu a ydy
peidio â rhoi llun Crist ar y stampia yn beth cwbwl
naturiol i wneud mewn gwlad seciwlar fel Cymru?
Onid ydy Siôn Corn yn golygu mwy i'r rhan fwyaf
o bobol erbyn hyn na Christ ar y Dolig? Y rhif ffôn:
08703 500 500. 'Da chi'n gwbod be i neud erbyn
hyn, dydach? S'dim rhaid i mi'ch hannog chi! 08703
500 500.Yn y man mi fyddwn ni'n clywed ymateb
gweinidog yr Efengyl ac anghrediniwr ond dewch
ni glywed yn gynta gan Angharad Davies, uwch
reolwr materion Cymreig grŵp y Post Brenhinol.
Pam bod y post yn anwybyddu Crist ar Ddolig o
bob gŵyl, Angharad?
"Da ni ddim yn anadnabyddu'r Crist na'r Nadolig a
doedden ni ddim am droseddu'r Eglwys Cristnogol o
gwbwl 'da hyn. 'Da ni 'di bod yn cynhyrchu stampiau
Nadolig am rhyw deugain mlynedd a dros y cyfnod
hynny 'da ni wedi adlewyrchu themâu crefyddol -
eglwysi, yr Iesu a'r Forwyn Fair, ffenestri gwydr ac yn y
blaen, a hefyd themâu di-grefydd fel Siôn Corn, ceirw,
robin goch ac yn y blaen, a wnaethon ni ymrwymiad
blwyddyn diwetha i sicrhau fyddwn ni'n eilio rhwng
themâu crefyddol a themâu di-grefydd. Felly,
blwyddyn dwethaf, roedd 'da ni thema crefyddol,
blwyddyn hyn thema di-grefydd a blwyddyn nesaf
byddwn ni nôl at thema grefyddol eto.
Ond, Angharad, holl bwynt y Dolig ydy dathlu geni
Crist a'r un ydy'r neges o un flwyddyn i'r llall, nid
bob yn ail?
Wel, mae'r ffaith bo ni'n cynhyrchu stampiau at yr
ŵyl yn nodedig o'r Nadolig a mae'r llunie ar y
stampiau blwyddyn yma yn sicir yn nodedig ar y
Nadolig. Mae 'na ddyn eira, mae 'na Siôn Corn, ceirw
a coeden Nadolig, a mae hynny yn hollol i ymwneud
â'r ŵyl.
Dudwch y gwir rwan, ofn pechu'r crefydda eraill
ydach chi, ia? Y Post Brenhinol yn bod yn PC?
Na, dim hynny o gwbwl. Dim hynny o gwbwl a
doedden ni am droseddu'r Eglwys Gristnogol o gwbwl
a fel dw i'n deud, 'da ni wedi neud ymrwymiad -
blwyddyn dwetha wnaethon ni deud hyn, bod ni'n
mynd i eilio rhwng thema crefyddol a thema digrefydd.
Mi ddown ni â'r Dr Iolo ap Gwyn, sy'n
anghrediniwr i'r drafodaeth a'r Parchedig Bryn
Jones hefyd, gweinidog Methodist, Wesleaidd yn Yr
Wyddgrug 'na. Bryn Jones yn gynta', mae ishio trio
pleshio pawb does? Mae hynny'n beth Cristnogol
i'w wneud?
Wel, 'da ni ishio cadw pawb yn hapus, wrth gwrs
ynde, ond i mi mae hyn yn golygu ildio egwyddorion,
y gred, wrth gwrs, yn y Nadolig, felly. Nid jyst cael
llunia o robin goch a dipyn o eira ac yn y blaen ond
hefyd yr hyn oedd yn ymddangos mae'n debyg yn
ystod y rhan cynta o'r deugain mlynedd, felly, y
symbola Cristnogol felly ynde.
Dw i'n meddwl bod y stampia yma yn lliwgar.
Maen nhw'n ardderchog. Fydde nhw'n apelio at y
plant a mae nhw'n nodedig o'r Nadolig beth
bynnag.
Ia, ond wrth gwrs, mi fydda hynna yn gneud ar gyfar
unrhyw grefydd yn byddan, mewn gwirionedd? Dw i'n
sylweddoli bod seciwlariaeth ar gynnydd ym
Mhrydain felly, ynde, ond dw i ddim yn gweld bod
ishio peidio rhoi sylw i'r Nadolig.
Mae'r Dr Iolo ap Gwyn yn y cefndir yn bod yn barod - well i ni glywed ei farn o. Mae o'n
anffyddiwr .... Dr Iolo ap Gwyn, gŵyl Gristnogol
ydy'r Dolig, dathlu geni Crist mae Cristnogion o
un flwyddyn i'r llall ac mi ddyla hynna gael ei
gydnabod ar y stampia?
I rai pobol falle . . i leiafrif o bobol hefyd, falle. Dylsa
chi gofio mai nid gŵyl Gristnogol ydy gŵyl canol y
gaea'. Mae hon yn ŵyl ymhell nôl cyn Cristionogaeth.
Hynny ydy, hijacio'r peth wna'th y Cristionogion yn y
lle cynta' am fod 'na bobol yn dathlu. Hynny ydy, dyna
pam 'da ni'n dod â celyn i'r tŷ. Dyna pam yn y bôn
mae dod â petha gwyrdd i'r tŷ, ac uchelwydd. Mae
hynna'n mynd nôl ymhellach byth na Christionogaeth
a mae'n dangos, dw i'n meddwl, ffordd mae y
Cristionogion bellach yn sylweddoli bod nhw'n colli'r
frwydr a bo nhw'n trio bob sut i drio, hynny ydy, gosod
eu cred ar bawb arall. Hynny ydy, mae 'na ddigonedd
o betha ar y teledu a phetha felly sydd yn trio honni
mai dyma wir ystyr y Nadolig a ryw betha felly.
Wel, nonsans noeth ydy peth felna. Iawn, Ok, i gael
ambell i beth sy'n cynrychioli eu cred nhw ond does
gynnon nhw ddim hawl i fynd o gwmpas yn deud mai
dim ond eu pethe nhw ddyla fod ar y stampia ac yn
y blaen. Fydda i'n meddwl yn amal iawn, mae cardia
Dolig yn dod i'r tŷ 'ma ac yn y blaen, fydda i'n sbio
arnyn nhw bob blwyddyn ... lleiafrif bach iawn sydd ag
unrhwy fath o symboliaeth grefyddol arnyn nhw
bellach. Petha, hynny ydy, fel robin goch a Siôn Corn
a ceirw a phetha felly sy arno fo a mae'r ŵyl yma'n
gawl potch o betha o bob math 'di eu cysylltu â'r
gwylie canol y gaea', megis y busnes y ceirw yma.
Mae hwnna 'di dod o Ogledd Llychllyn - eu peth
adag canol gaea' nhw a ryw betha felly. Hynny ydy,
does 'na ddim unrhyw fath o sail i'r Cristionogion
hawlio yma mai eu gŵyl nhw ydy hon a neb arall,
ynde.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen