GEIRFA
wyddoch chi be'?; yn prysur fynd; braint; agoriadol; cewri; godidocaf; cyfarchion; ŵyr (wyrion); Eryr Pengwern
GWRANDO A DEALL
i) Sut mae'r tywydd, yn ôl Dai?
ii) Ble mae e wedi treulio'r penwythnos?
iii) Pwy welodd e yng Nghaerdydd?
iv) Beth sy'n digwydd yn y siopau?
v) Beth sy'n bwysicach na dim, yn ôl Dai?
vi) Ers faint o amser mae e wedi cyflwyno 'Ar eich Cais'?
vii) Oddi wrth bwy mae'r llythyr?
viii) Am beth mae awdur y llythyr yn adnabyddus?
ix) Faint yw oed Eirwen Jones?
x) Sut mae Dai yn ei chanmol?
IAITH
a) Weithiau mae'r Gymraeg yn defnyddio mwy nag un berfenw i gyfleu cysyniad tra bo Saesneg yn defnyddio un. Er enghraifft, gwybod / adnabod yn Gymraeg, ond yn Saesneg, 'to know' yn unig. Rhestrir tair enghraifft o hyn yn y golofn ar y chwith. Lluniwch 8 brawddeg trwy ddefnyddio'r berfenwau hyn mewn perthynas â'r enwau yn y golofn ar y dde:
gwario / treulio esgidiau / arian / amser
achub / arbed / cynilo traed / person / arian
tebyg / tebygol troi'n wlyb / i'w fam
b) Gwrandewch ar y darn eto gan sylwi ar y tagiau / ychwanegiadau a ganlyn:
Caerdydd 'na chi; a wyddoch chi be'; alla i ddim gofyn am fwy, 'na alla'?; yn wir i chi; chi'n mbod; ddylwn i ddeud; 'dych chi ddim yn edrych hynny, 'na dach?; Na Dafydd, o ran hynny; â chroeso calon.
c) Ychwanegwch y cynffoneiriau (tagiau) cywir:
i) Dw i'n edrych yn iawn, ......................?
ii) Dydy e ddim wedi mynd, .................. ?
iii) Roedden nhw yn y tŷ, .......................?
iv) Fyddi di ddim yn y gêm,.....................?
v) Doedd e ddim yn chwerthin, ...............?
vi) Fe enillon nhw yn y diwedd, ................?
vii) Tom yw dy enw di, ............................?
viii) Mae ganddi gar, ...............................?
TAFODIAITH
Brodor o Geredigion yw Dai Jones. Oes gennych chi unrhyw sylwadau ar nodweddion ei iaith lafar?
TRAFOD
i) Rydych yn mynd i wneud cais am record i Dai Jones. Penderfynwch i bwy a pham gan sôn rhywbeth am wrthrych y cais a'r rheswm dros y dewis.
ii) "Mae rhaglenni fel, 'Ar eich Cais' ond yn ffordd hawdd o arbed arian i'r cwmnïau darlledu". Trafodwch.
YMADRODDION
am yn ail; wythnos fach go lew; y fath fraint.
YSGRIFENNU
Ysgrifennwch gerdyn post at Dai Jones yn gwneud cais (i) uchod.
TRAWSGRIFIAD
Helo 'na, bobol annwyl. Shwd i chi? Wel, on'd yw
hi'n dywydd hyfryd? Does dim byd yn well na
tamed o rew yn y bore ac awyr iach a heulwen
am yn ail, be fwy allwn ni ofyn amdano? Shwd i chi
gyd? Wedi treulio'r penwythnos lawr tua
Caerdydd 'na chi, a wyddoch chi be', efo'r
Ffermwyr Ifanc, ynde, a'r Jonesiaid. Alla i ddim
gofyn am fwy, 'na alla'?
'Da chitha gobeithio wedi cael wythnos fach go
lew a mae'r hydref yn brysur fynd eto ac mae 'na,
.... a wyddoch chi be, y siope 'ma - Dolig, Dolig yw
popeth. Yn wir i chi, os gewn ni iechyd dyw'r
tymhore hyd yn oed ddim mor bwysig. A chi'n
mbod, dw i ar "Ar eich cais" 'ma ers rhai
blynyddoedd rwan ond ches i rioed y fath y fraint
â heddiw, neu heno ddylwn i ddeud, a chael llythyr
agoriadol ... oddi wrth un o gewri'r genedl, a gŵr
sydd yn byw ym mro Ddyfi ac yn uchel ei barch,
un o'n beirdd godidoca'.
"Annwyl Dai", meddai'r llythyr, "cyfarchion i'm
gwraig Eirwen Jones, Blaenplwyf Uchaf, Aberangell,
oddi wrth y gŵr, Dafydd Wyn Jones. Mae Eirwen
yn bedwar ugen ar y 7fed o Dachwedd". Ac
Eirwen annwyl, 'dych chi ddim yn edrych hynny, 'na
dach, na Dafydd o ran hynny. Daw'r cyfarchion
hefyd oddi wrth y plant, yr wyrion, a'r wyresa.
Hoffe glywed Côr Gore Gles ac Aled Wyn Davies
yn canu Eryr Pengwern. Diolch yn fawr. Ac, wrth
gwrs, 'di Pengwern ddim ymhell iawn o Blaenplwyf
yn nacdi? Hyfryd Dafydd ydy cael gair oddi
wrthoch chi ac fe gewch â chroeso calon - dyma
nhw i chi, Core Gles ac Aled.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen