GEIRFA
hunangofiant' sioe undyn; adloniant; adeg; clên; gwerthfawrogi; ymateb; darfod; llefaru; adrodd; magu; Coleg Cerdd a Drama; cyffrous; hael; pigog; chwerw; gyrfa; ymfalchïo; Cymreictod
GWRANDO A DEALL
i) Ble gwelodd y siaradwr Victor Spinetti yn perfformio?
ii) Pa mor hir oedd y sioe?
iii) Pam ffoniodd Victor Spinetti Evan Morgan?
iv) Faint o amser oedd rhwng y sgwrs ffôn ac ymddangosiad y llyfr?
v) Ble cafodd Spinetti ei fagu?
vi) O ble roedd ei fam yn dod?
vii) Ym mha ddrama wnaeth e ei enw?
viii) Pa wobr enillodd y sioe yn America?
ix) Enwch rai o'r bobl y daeth i'w hadnabod?
x) Oedd Spinetti wedi cael amser hawdd trwy gydol ei yrfa?
xi) Faint oedd oed ei fam pan fu farw?
IAITH
a) Mae dwy ffurf luosog gan yr enwau hyn. Lluniwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth:
cyngor cynghorau cynghorion
llif llifogydd llifiau
llwyth llwythau llwythi
person personau personiaid
pwys pwysau pwysi
pryd prydiau prydau
asen asennau asennod
b) Mae mwy nag un ystyr i'r geiriau hyn. Ysgrifennwch frawddegau yn dangos y gwahaniaeth:
magu; pigog; swydd; llif; bwrw.
c) Ydy'r geiriau hyn wedi eu sillafu'n gywir?
penderfynnu; ystyrir; derbynneb; ffynhonnellau; anibynnwyr; annheg
TRAFOD
i) Sôn am bobl adnabyddus rydych chi wedi cyfarfod â nhw.
ii) Disgrifiwch ddigwyddiad y basech chi am ei gynnwys yn eich hunangofiant.
iii) Soniwch am berson adnabyddus neu anadnabyddus yr hoffech ddarllen ei hunangofiant.
iv) Ydy hi'n bosib ysgrifennu hunangofiant hollol onest? Trafodwch.
YMADRODDION
ffasiwn raconteur (y fath)
YSGRIFENNU
Portread cryno o berson rydych chi'n ei adnabod / edmygu. Un cymeriad y basai rhaid ichi ei gynnwys yn eich hunangofiant.
TRAWSGRIFIAD
Wythnos nesa mi fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri yn penderfynu ar enw swyddogol i'r Ganolfan
Ymwelwyr newydd ar gopa'r Wyddfa. Mae'r Parc
wedi derbyn tua 60 o awgrymiada hyd yma ond
maen nhw'n dal ishio chwanag o gynigion. Felly os 'da
chi'n gallu cynnig enw i'r adeilad sydd yn cael ei godi
ar gost o dros wyth miliwn o bunna, cysylltwch â ni ....
0 500. Mae Llinos Angharad o Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yn ymuno â ni rwan.
P'nawn da. Dylan.
Be ydy'r safon hyd yma?
'Dan ni wedi cael, fel oedda chi wedi sôn, 'dan ni
'di cael amrywiaeth o enwe. Mae'n siwr erbyn hyn
bod 'na, fel oeddech chi'n deud, ryw chwe deg
ohonyn nhw. Maen nhw'n amrywio o enwe reit
hir, enwe trwsgwl, i enwe tafod yn foch. Os ga i
roid ryw fath o syniad i chi ... Mae gynnon ni'n
enwe'n barod fatha 'Caban y Copa', 'Carnedd',
'Crib Eryri', 'Hafan y Grug', 'Caban y Lili', 'Gwelfan
Eryri' - allen i fynd mlaen a mlaen a mlaen a
chymryd rhaglen gyfan os liciwch chi. Ond yr hyn
ydan ni yn chwilio amdano fo ydy enw byr, enw
bachog, enw sydd yn hawdd i'w ynganu ym mha
bynnag iaith, a wedyn mae yn gyfle hefyd dw i'n
meddwl i ystyried y'n hetifeddiaeth ni. Mae 'na
ambell i enw, er enghraifft, sydd wedi ei
awgrymu'n barod, er enghraifft 'Caban Gwenllian'
ar ôl Tywysoges Gwenllian', 'Ogof Rhuddan', neu
'Ogof Rhita'. Dw i'm yn gwbod - oeddach chi'n
gwbod pwy oedd Rhita, Dylan?
Ddim tan bore ond be - cawr oedd wedi ymgartrefu
ar y copa 'na rwla?
Wel, na, yr Wyddfa - y gair cywir ydy 'Gwyddfa',
sef beddrod, achos mae'n debyg, yn ôl y chwedl,
mai fan'no oedd Rhita Gawr neu yn fan'no mae o
wedi'i gladdu, ac oedd Rhita Gawr yn hen gawr
cas a blin oedd yn gneud ei glogyn a gneud ei
ddillad allan o farfa'i elynion.
Cas, ' de!
Wedyn, mae o'n gyfle i godi ymwybyddiaeth
pobol ynglŷn â'n hetifeddiaeth ni hefyd, 'da chi'n
gwbod.
Oeddach chi'n sôn bo chi eisiau iddo fod yn weddol
hawdd i'w ynganu - i'r Saeson fydda'n cerdded i
gopa'r Wyddfa, fasa nhw'm yn gallu deud rwbath fel
'Carnedd', mae'n debyg, felly does 'na'm gobaith i
'Garnedd', gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth.
'Carnad' fasa fo, ia? Dw i'm yn gwbod.
Wel, mi fedrwch chi gymryd yr agwedd honno efo
unrhyw iaith, mae'n debyg, 'da chi'n gwbod. Hynny
ydy, beth bynnag fydd yr enw fyddwn i'n ei
benderfynu, wel, dyna fydd o, a siawns na fydd 'na
gyfle iddyn nhw glywed yr enw'n gywir pan fyddan
nhw ar y copa neu yn Llanberis neu beth bynnag,
'da chi'n gwbod?
'Caban Gwenllian' ddim yn mynd i fod yn un hawdd
i'w ynganu chwaith. Gwenllian - dwn i'm be? Sut 'sa
hwnna? Dw i'm yn gwbod.
Wel, ar hyn o bryd 'da ni'n croesawu pob math o
awgrymiade a, fel oeddach chi'n sôn, mi fyddwn ni
wythnos nesa ... neu fydd yr aelode yn penderfynu
... ar yr enw. Wedyn, ar hyn o bryd, rydan ni'n
agored i bob math o awgrymiade. 'Da ni 'di cael
ambell i awgrym fatha 'Yr Oruwch Ystafell', gan fod
o'n mynd i fod yn reit uchel i fyny.
Ac os 'da chi'n cael pryd gyda'r nos, 'da chi'n cael
swper olaf wedyn ydach chi?
Wnes i ddim meddwl am hynna, deud y gwir.
'Copa Cabana', yn un arall poblogaidd. Dw i'n
gwbod bod Jonsi, pan o'n i'n mynd drwadd bore 'ma, bod o'n eitha hoff o'r enw hwnnw. 'Copa
Cymru' yn un arall 'da ni 'di glywed. 'Copa'r
Wyddfa' ei hun. 'Copa', ar ei ben ei hun, hyd yn
oed, achos mae hwnna'n rywbeth arall mae rhaid
i ni feddwl amdano fo ar ran ochor farchnata a
brandio'r holl beth a meddwl am y nwyddau, a
ballu, i'w gwerthu. Petha bach fatha cwpane fydd
ar gael yn yr adeilad newydd neu serviettes neu
beth bynnag, 'da chi'n gwbod.
'Copa' yn iawn hefyd, dydy?
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen