BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Sylwebaeth pêl-droed (2.55)

Disgrifiad o'r gêm rhwng Cymru ac Ynys Cyprus yn 2006

GEIRFA
meddiant; gwthio; effeithiol; cryfder; cymorth; safon; ymosod; cyflymdra; rhes; cyd-chwarae; sialens; sgoriwr; canfod; partneriaeth; dathlu; torf; rhwyd

IAITH
a) Gwrandewch ar y sylwebaeth a cheisiwch ddyfalu beth yw'r termau Cymraeg a ddefnyddir am y canlynol:
a corner kick
penalty box
to counter- attack
a cross
a header
a throw-in
a forward
a run
a goal-kick
to be offside

b) Gwrandewch unwaith eto. Pa air / eiriau sy'n eisiau?
Mae e'n ..................... i frwydro.
y cyfnod pan oedd Cymru ar ei ................. o dan Mark Hughes.
yn gwthio un neu ddau o chwaraewyr Cyprus ................ y bêl.
yn caniatáu i fechgyn Cymru ddod nôl yn un ............. ar draws y ..............
roedd e'n gydchwarae ...................... yng nghanol y cae.
ond ei ................. cyntaf ychydig bach yn rhy galed.
Mae'r ................... ar ei thraed.

c) P'un o'r ddau ddewis sy'n gywir?
oddiar oddi ar
oddieithr oddi eithr
oddi wrth oddiwrth
oddiam oddi am

TAFODIAITH
Nodwch y prif anawsterau a gewch wrth geisio dilyn sylwebaeth ar gêm.

TRAFOD
i) Ddylai merched gael chwarae pêl-droed? Trafodwch.
ii) Mae peldroedwyr yn ennill gormod o arian. Un rhan o'r dosbarth i lunio dadleuon o blaid a'r llall yn erbyn.
iii) Ar y cyd, lluniwch restr o dermau pêl droed.

YMADRODD
Sylwch ar y defnydd o 'yn weddol saff o' yn yr ystyr o 'yn weddol sicr o' e.e. Maen nhw'n weddol saff o ennill.

YSGRIFENNU
Portread o unrhyw beldroediwr.
Taswn i'n briod â pheldroediwr.........
Peldroediwr yn y newyddion.

TRAWSGRIFIAD
Wel, mae gan Gymru'r meddiant ar yr ochor dde. Simon Davies. Davies dal i fynd. Mae'n anlwcus, mae'n dal i frwydro. Simon Davies ac mae o'n ennill cic gornel. Mae Simon Davies, 'da chi'n cofio pan ... y cyfnod pan oedd Cymru ar ei gore dan Mark Hughes ... Simon Davies a Mark Delaney mor effeithiol lawr yr ochor dde.

Wel, dyna ydy ei gryfder o, yn rhedeg efo'r bêl, yn torri i fewn i'r cwrt cosbi, unwaith eto yn dangos ei gryfder. Dydy o ddim yr hogyn mwya' ond yn dangos ei gryfder yn gwthio un neu ddau o chwaraewyr Cyprus oddi ar y bêl.

Cic gornel fewn. Mae Bellamy yno ac mae 'na gyfle fan hyn i Gyprus i geisio gwrth ymosod a Makridis sydd â'r meddiant. Mae gynno gymorth o'r tu allan iddo fo ac yn mynd trwy'r canol y mae Aloneftis. Y capten sydd ar bêl ar hyn o bryd. Okkas ... Okkas draws ochor dde y cae i Gyprus, i Theodotou. Croesiad fewn i'r canol, peniad allan gan Richard Duffy. Y bêl yn ôl fewn i ochor y cwrt cosbi a mae 'na dipyn o amser i Gareth Bale ac mae o'n clirio'r bêl fyny tuag at yr hanner ffordd, jyst dros yr hanner ffordd, a thafliad i Gyprus.

Ia, ella bo chi'n gweld enghraifft fanna o wahaniaeth safon hwyrach rhwng Cyprus a Slofacia. Do, mi ddaru Cyprus wrth-ymosod yn fanna ond oedd cyflymdra y gwrth-ymosodiad ddim hanner mor gyflym ag oedd Slofacia'n medru neud dydd Sadwrn. Mi ddaru hynny ganiatáu i fechgyn Cymru ddod yn ôl yn un rhes ar draws y cwrt cosbi ac amddiffyn o fanno.

Earnshaw, aros am y rhediad gan Bellamy. Mae Bellamy mewn fan hyn. Bellamy heibio'r golwr ond mae'r ongl yn anodd ond oedd o'n gyd-chwarae bendigedig o ganol y cae a thrueni i Craig Bellamy, oedd o'n haeddu gwell.

Wel mae o'n be 'da chi'n edrych amdan y ddau flaenwr i neud ydy chwarae efo'i gilydd, chwarae un, dau, rhediad unwaith eto, rhediad gwych gan Bellamy ond ei gyffyrddiad cynta fo ychydig bach rhy galad a'r bêl yn mynd allan am gic gôl.

Ond dw i'n meddwl bod Bellamy yn weddol saff, oes oedd o'n mynd i gael y cyffyrddiad cynta, bod o'n mynd i ddenu'r golwr i mewn a mi ddaru'r golwr fod yn glyfar iawn iawn yn dal ei hun yn ôl rhag mynd i mewn am y sialens yna.

Dwn i'm pam oedd o'n poeni oedd o'n gwbod 'sa fo'n cael ei gosbi beth bynnag oedd o'n neud, nagoedd?

Bale yn codi'r bel ymlaen i'r sgoriwr Kumas, Kumas - mae'n cael dipyn o lwc ond mae o'n canfod Carl Robinson. Robinson, y bas ymlaen tuag at Bellamy. Dydy Bellamy ddim yn camsefyll. Mae 'na gyfle rwan am ddwy i ddim . . .Craig Bellamy . . . fewn i Earnshaw . . mae'n ddwy i ddim. O, gwych! Mae'r bartneriaeth wedi gweithio ac mae Earnshaw yn dathlu ac yn mwynhau'r eiliad, ac mae'r dorf ar eu traed. Dwy i ddim i Gymru.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy