BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Cân werin (1.42)

Meredydd Evans yn canu cân ychen draddodiadol o Forgannwg

GEIRFA
marsiandiaeth; porthmon (porthmyn); cwyd; tiwnio; llwyn; brefu; rhodio

GWRANDO A DEALL
Mae deall iaith caneuon yn gallu bod yn anodd. Fodd bynnag, y rhai hawsaf eu deall yw caneuon gwerin digyfeiliant. Cyn edrych ar y geiriau ysgrifenedig, gwrandewch ar y gân a cheisiwch ateb y cwestiynau yma:

i) Sut mae'r tywydd ar ddechrau'r gân?
ii) Beth mae'r bardd yn gallu ei glywed?
iii) Beth mae rhaid iddo ei wneud am un o'r gloch?
iv) Pryd mae'r da am gael eu godro?
v) Pa sŵn mae'r da yn ei wneud?
vi) Pa dymor yw hi yn y pennill olaf?
vii) Beth mae'r bachgen am ei wneud?

IAITH
a) Yn y gân mae sôn am y da yn brefu a'r gwcw'n tiwnio. Pa sŵn mae'r anifeiliaid hyn yn ei wneud? Pa 3 sy'n brefu?

tarw gwichian
dafad mewian
ceffyl brefu
mochyn cyfarth
buwch clwcian
llygoden brefu
ci rhuo
cath brefu
gafr gweryrru
iâr rhochian

b) Sylwch ar y llinell, 'Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle'. Rydyn ni'n defnyddio 'gan' i gyfeirio at rywbeth sy'n cyd-ddigwydd â'r ferf yn y prif gymal. Cysylltwch y rhain:

Cerddodd Dewi i'r ysgol. Canodd yn uchel.
Neidiodd y plant i mewn i'r llyn. Gweiddon nhw'n gyffrous.
Aeth Mari i'r gwely. Roedd hi'n crio yn ei thymer.
Yfodd y dyn ei de. Roedd e'n darllen y papur.
Mae Elwyn yn cerdded i'r ysgol. Mae e'n chwibanu.
Aethon nhw heibio. Roedden nhw'n gweiddi ar y plant eraill.

c) Mae'r ymadroddion canlynol i gyd yn gywir. Dysgwch nhw! Ond beth sy'n rhyfedd amdanyn nhw?:
noson braf; nos da; wythnos diwethaf; am byth.

ch) Mae rhai amrywiadau rhwng de a gogledd yn yr eirfa. Pa eiriau sy'n cyfateb yn y ddwy golofn?

De Gogledd
cadno mai
cer dwad
dere isio
hogyn llwynog
gyda tyrd
mo'yn dos
dod efo
taw bachgen

TAFODIAITH
Pa nodweddion sy'n awgrymu bod y gân yn perthyn i Forgannwg? Ar ôl gwneud yr ymarfer uchod, oes un gair rydych yn synnu ei glywed yn y fersiwn hwn o gofio mai cân o dde Cymru yw hon?

O! Mari, Mari cwyd, mae heddiw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn tiwnio a'r gwcw yn y llwyn.
Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!

O! Mari lân dy foch, mae nawr yn un o'r gloch,
Mae'n bryd i mi gael cinio ac amser bwydo'r moch.
Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!

O! Mari tyrd sha thre, mae wedi amser te,
Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle.
Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!

O! Mari, daeth yr haf, mae heno'n noson braf,
Addoi di ma's i rodio oddi yma i Ffynnon Taf?
Hw mla'n! Hw mla'n! Hw!

YMADRODDION
mae'n bryd i mi; mae'n hen bryd iddo fo; mae'n well i ni.

YSGRIFENNU
Fy hoff gân.
Cymru - Gwlad y gân? Trafodwch

TRAWSGRIFIAD
Dyma i chi olwg ar wartheg wrth eu gwaith yn hytrach nag fel marsiandïaeth y porthmon.

O Mari, Mari cwyd, mae heddiw'n fore mwyn. Mae'r adar bach yn tiwnio ar gwcw yn y llwyn. Hw, mlân. Hw, mlân. Hw.

O Mari lân dy foch, mae nawr yn un o'r gloch. Mae'n bryd i mi gael cinio ac amser bwydo'r moch. Hw, mlân. Hw, mlân. Hw.

O Mari tyrd tua thre, mae wedi amser te. Fe ddaeth y da i'w godro gan frefu dros y lle. Hw, mlân. Hw, mlân. Hw.

O Mari daeth yr haf, mae heno'n noson braf. A ddoi di mas i rodio oddi yma i Ffynnon Taf? Hw, mlân. Hw, mlân. Hw.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy