GEIRFA
cyn-aelod; cyfieithwraig; adolygwraig; colofnydd; hinsawdd; thema; papurau trymion; terfysgaeth; duwies; Y Cenhedloedd Unedig; tanbrisio; effaith; anwybyddu; effaith tŷ gwydr; cynhesrwydd; dilys; tymheredd; ŵyn; bywoliaeth; ystadegau; newidiadau; hinsoddol; daeargryn; gwleidyddol; proffwydo; dwyn perswâd ar; cydbwysedd
GWRANDO A DEALL
i) Yn ôl Simon Jenkins, beth yw'r pwnc pwysicaf yn y byd?
ii) Sut roedd y ferch yn yr Independent wedi ei gwisgo?
iii) Yn ôl y papur, beth sy'n mynd i ddigwydd yn 2030?
iv) Effaith beth mae pobl yn tueddu i'w danbrisio?
v) Pa ddigwyddiad anarferol sydd yn Swydd Warwick?
vi) Beth yw consensws barn gwyddonwyr am yr hinsawdd?
vii) Pam nad yw Rod Richards y barod i wrando ar economegwyr?
viii) Pa rybudd a gawn ynglþn ag ailadrodd ystadegau anghywir?
IAITH
a) Pa barau sy'n perthyn?
proffwydo argyhoeddi
ystadegau gwres
dychryn gweld i'r dyfodol
dwyn perswâd ar braw
cynhesrwydd tywydd
sir ffigurau
hinsawdd swydd
b) Pa ddau air sydd wedi eu cyfuno i wneud y geiriau cyfansawdd hyn?
darlledwraig daeargryn
tanbrisio adolygwraig
cyfieithwraig
c) Mae gan rai enwau ffurf luosog afreolaidd. Beth yw lluosog y canlynol?
bisgïen; chwaer; brawd; gŵr; llaw; sipsi; rhiant; ci.
ch) Esboniwch y gwahaniaeth rhwng y parau hyn:
hinsawdd / tywydd; papurau trymion / papurau bro; terfysgaeth / rhyfel; anwybyddu / casáu; bywyd / bywoliaeth
TAFODIAITH
Faint o ôl tafodiaith sydd ar iaith lafar y tri siaradwr? Ddylid caniatáu defnyddio tafodiaith mewn rhaglenni o'r math hwn?
TRAFOD
i) Oes arwyddion yn eich ardal chi bod yr hinsawdd yn newid. Trafodwch.
ii) Yr hinsawdd yn newid? Beth ddylem ni ei wneud?
iii) Meddyliwch am ddadleuon o blaid ac yn erbyn melinau gwynt a'u trafod naill ai mewn parau neu grwpiau.
YSGRIFENNU
Byw heb gar.
Codi tai ar gyfer 2050.
Effaith tŷ gwydr. Myth ynteu realiti?
TRAWSGRIFIAD
Bore da a chroeso i 'Papur a Phanad'. Rwan, y
pundit gwleidyddol, cyn Aelod Seneddol, cyn Aelod
Cynulliad - Rod Richards. Bore da, Rod.
Bore da.
Y gyfieithwraig, darlledwraig, adolygwraig - Catrin
Beard. Bore da, Catrin.
Bore da.
A'r cyfieithydd a'r colofnydd, Chris Dafis. Bore da,
Chris.
Bore da.
Catrin, yr hinsawdd yn cael sylw, am wn i, yn y
papura mawr i gyd ond yn arbennig yn yr
Independent y bore 'ma?
Ydy mae o. Hwn - dyma'n amlwg ydy thema
mawr y dydd yn y papura trymion ond, fel mae
Simon Jenkins yn deud yn Y Times, yr hinsawdd
sy'n mynd â . . hwn ydy'r pwysica yn y byd yr
wythnos yma. Mis dwetha, rhyfel yn erbyn
terfysgaeth oedd o felly gallwch chi ddewis be
ydy'r peth pwysicaf ond mi oedd y brotest fawr yn
Llundain ddoe. Mae 'na lun godidog ar flaen Y
Times o brotestwraig wedi paentio'i hun yn las, fel
ryw dduwies o'r môr, yn sôn am lefele'r môr a
mae'r Independent - tudalen flaen yr Independent
- 'ma ni eto, maen nhw'n mynd i ffor' eu hunen a
maen nhw'n dangos Tsunami mawr yn taro
Prydain a fel pe bai hyn yn digwydd yn y flwyddyn
2060.
Rhaid i mi gyfaddef, pan wnes i ddarllan hwn peth
cynta, pan wnes i agor y'n llygad y bore 'ma:'Tsunami
horror hits Britain', mi wnes i ryw ddechra poeni a
meddwl a wedyn wnes i gofio wedyn 'na . . . na'r
Independent oedd o . . . pennawd go iawn oedd o
felly.
A wedyn tu fewn i'r papur mae gynnyn nhw nifer
o bap . . . o dudalanne blaen posib dros y ganrif
nesa - er enghraifft, yn . . . 2040 mae'n dangos bod
fforestydd yr Amazon i gyd wedi cael eu llosgi i
farwolaeth. Yn 2030 mae'r polar bear ola yn marw
ac yn y blaen. Felly, ryw betha eitha dramatig i
neud i ni feddwl sut mae hyn yn mynd i ddigwydd.
Ond mae 'na erthygl ddiddorol yn Y Telegraph
sydd gan Christopher Monkton, a mae o yn . .
gynghorydd ar faterion fel hyn mae'n debyg a mae
o'n sôn bod y Cenhedloedd Unedig wedi
tanbrisio effaith yr haul ar yr hinsawdd a bod
nhw'n anwybyddu effaith tŷ gwydr naturiol ac yn
gorbwysleisio'r cynnydd mewn tymheredd dros y
ganrif ddwetha 'ma, a be mae o'n ddweud ydy
bod data a graffia carbon deuocsid yn anwybyddu
cynhesrwydd y blaned fil o flynyddoedd yn ôl pan
oedd o'n llawer yn fwy cynnes na mae o ar hyn o
bryd, a dros yr hanner can mlynedd dwethaf mae'r
haul yn g'nesach na mae o wedi bod ers dros un
ar ddeg mil o flynyddoedd, a mae'n dweud wrth
bod pobol yn deud bod y moroedd yn cynhesu ac
yn y blaen mae m . . . mae o'n deud dyla bod nhw
yn mesur . . . bod y ffigyre sy gan yr . . . y
Cenhedloedd Unedig ond yn ddilys os 'da chi'n
mesur tymheredd dros filltir o ddyfnder yn y môr
a 'dy hynny ddim wedi'i neud achos mae'r
tymheredd yr un union run peth a mae o wastad
wedi bod ac felly mae'n - yr hyn mae o'n ddeud
ydy: dydy ailadrodd rhife anghywir ddim yn eu
gneud nhw'n gywir a mae ishio bod yn ofalus
iawn. A wedyn mae 'na stori arall yn un o'r papure
yn deud bod 'na ŵyn yn yn cael eu geni yn Swydd
Warwick wythnos dwetha ond 'dyn nhw ddim i
fod i gyrraedd tan y Gwanwyn, felly yn sicir mae
'na rywbeth yn digwydd, ond lle mae'r bai? Dyna
'dy'r cwestiwn gan Christopher . . .
Ond dydy pawb ddim yn ei gredu fo nac 'di Chris?
Mae Chris Hutchins, er enghraifft, yn y Mail yn deud:
Wel, ella bod hon yn ffordd dda o neud bywoliaeth ....
dadla?
Wel, am wn i mae . mae ystadege a
mesuryddion tymheredd yn gallu cael eu
defnyddio neu eu camddefnyddio at unrhyw
ddiben mewn gwirionedd. Y gwir amdani fel petai
ar hyn o bryd yw bod y consensws yn dweud
bod ein ffordd ni o fyw fel pobol yn cyfrannu at
y newidiade hinsoddol 'ma. Mae'r byd wedi
gweld newidiade mewn hinsawdd eriôd, am wn i,
ers cychwyn y byd ond y'n ni yn cyfrannu atyn
nhw a chi'n mbod, mae'r ffigure, mae'r penawde
ffug neu ddychmygol ma, i'r dyfodol - dy'n nhw
ddim yn bell iawn i ffwrdd mewn gwirionedd.
Mae'n bwysig i ddweud, chi'n mbod: O na,
wneith e byth digwydd ym Mhrydain, chi'n
mbod, dim ond pa ddwrnod welon ni'r .... ym ...
erchylltra yn Indonesia a'r ardaloedd hynny yndife
... ond digon posib ....
Ond daeargryn oedd hwnnw ynde?
Ond pam digwyddodd y ddaeargryn yn y lle
cyntaf?
Hynny yw, mae rhai gwyddonwyr yn meddwl mai
pobol sy'n creu hyn. Mae 'na rai eraill sydd ddim,
medde Peter (sic) Hutchins. Hynny yw, ai rwbath ....
ydy hwn yn rywbeth gwleidyddol ynta .... gwyddonol?
Dydy e ddim yn werth cymryd y risg nac 'dy?
Beth mae'r Telegraph yn ddweud yw .... ym . . ddyle
ni ddim â chredu Adroddiad Stern a'th allan . . .
Ddyla ni ddim?
Na. Ia, achos mae'n creu braw a dychryn. Hynny yw,
mae 'na ormodedd fan hyn a mae'n rhaid i fi
ddweud, mae rhywfaint o gydymdeimlad 'da fi â'r
feirniadaeth hyn achos economegydd yw Stern a
mae e'n ceisio proffwydo beth sy'n mynd i
ddigwydd yn ystod .... beth, hanner canrif? Wel, y
gwir amdani yw, dyw economegwyr ddim yn gallu
dweud wrtho ni yn bendant beth sy'n mynd i
ddigwydd i'r economi ymhen deunaw mis, heb sôn
am beth sy'n mynd i ddigwydd i'r economi dros
hanner canrif. Felly, w i'n deall pam mae'n rhaid i ni
fod yn ofalus ond fel pawb arall, mae cyment o
wybodaeth yn dod nawr oddi wrth gwyddonwyr,
mae e'n .... mae e'n dwyn perswâd arna i. Felly
mae .... mae'n rhaid cael cydbwysedd, w i'n credu ....
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen