GEIRFA
corryn (corynnod); rhigwm; dropyn; buddiol; erchyll; stofi; gwe; cysylltiadau; gwerthfawrogi; achub; cuddio rhag; annibyniaeth; ffoi; crafangau; llochesu; ysbrydoliaeth
GWRANDO A DEALL
i) Cyfieithiad o ba rigwm Saesneg yw'r un ar ddechau'r sgwrs?
ii) Pam mae Twm Elias yn galw'r pry' cop yn "wir grefftwr"?
iii) Tua faint o gysylltiadau sydd mewn gwe corryn?
iv) Faint o amser mae corryn yn ei gymryd i stofi gwe?
v) Sut mae rhai pobl yn ystyried pryfed cop?
vi) Bywydau pa bobl enwog mae corynnod wedi eu hachub?
vii) Ble roedd Mair a Joseff a'r baban Iesu yn cuddio?
viii) Pam nad aeth y milwyr i mewn i'r ogof i chwilio amdanynt?
ix) Pryd roedd Robert the Bruce yn brwydro yn erbyn y Saeson?
x) Sawl cynnig gafodd y corryn cyn llwyddo?
IAITH
a) Pa eiriau cyfystyr â'r canlynol glywsoch chi yn y darn?:
cerdd ; ofnadwy; adeiladu; cysgodi; symbyliad.
b) Mae Twm Elias yn dweud bod Mair, Joseff a'r Iesu wedi "cuddio rhag" y milwyr. Dyma ragor o ferfenwau a ddilynir gan 'rhag':
amddiffyn rhag: atal rhag; cadw rhag; dianc rhag; ffoi rhag; cysgodi rhag; cuddio rhag; achub rhag.
rhagddo i rhagddon ni
rhagddot rhagddoch chi
rhagddo fo/fe rhagddyn nhw
rhagddi hi
Lluniwch frawddegau yn cynnwys y berfenwau hyn gan amrywio person yr arddodiaid.
c) Ar wahân i'r pry' cop / corryn, sawl pryfetyn ydych chi'n gallu ei enwi yn Gymraeg? Gwnewch restr.
TAFODIAITH
Dyma rai o'r ffurfiau a ddefnyddiodd Twm Elias:
yfad; efo; gorffan; pryfed cop; bywyda; ogo'
Beth yw eich sylwadau?
TRAFOD
i) Mae Twm yn gwneud fel y gwna llawer o Gymry, a Saeson o ran hynny, sef dyfynnu hanner dihareb! Mae e'n dweud, "Dyfal donc amdani....." Y ddihareb yn llawn yw "Dyfal donc a dyr y garreg" Beth yw diwedd y diarhebion cyffredin a ganlyn:
Cyntaf i'r felin...
A fo ben...
I'r pant...
Gorau Cymro...
Gwyn y gwêl...
Angel pen ffordd...
ii) Ailadroddwch naill ai stori'r corryn yn achub Mair a Joseff neu stori Robert the Bruce yn eich geiriau eich hun.
iii) Gan weithio mewn parau, soniwch wrth eich gilydd naill ai am eich hoff neu gas anifail, aderyn neu bryfetyn.
YMADRODDION
Mewn ebychiad, mae'r gair 'druan' yn cael ei dreiglo beth bynnag yw rhif a chenedl y person y cyfeirir ato:
Unigol gwrywaidd: Druan bach!
Unigol benywaidd: Druan fach!
Lluosog: Druan â nhw!
Mae "Druan bach ohoni" yn amrywiad lleol diddorol mewn ardaloedd yn y gogledd lle na threiglir y gair 'bach' cf. Eglwys-fach (Ceredigion) ac Eglwys-bach (Clwyd).
YSGRIFENNU
Unrhyw stori am anifail, aderyn neu bryfetyn.
Pethau 'dw i'n eu hofni.
'Dyfal donc...!'
TRAWSGRIFIAD
Mae 'na hen rigwm on'd oes?
Fe welais Siân Elin
yn yfad llaeth melyn
yn ista ar ymyl y bwrdd,
ond fe dda'th 'na bry copyn
ac yfad pob dropyn
a fe redodd Siân Elin i ffwrdd.
Wel, druan bach ohoni. Petai hi ddim wedi panicio
ella basa hi wedi cael addysg fuddiol. Yn lle
meddwl mai rwbath erchyll oedd yno, ella basa hi
wedi gweld gwir grefftwr wrth ei waith. Mae
gwylio pry copyn yn stofi, neu adeiladu, gwe tua
llathan ar ei draws, yn cynnwys ugeinia o lathenni
o we, mewn patrwm sbeiral efo dros fil o
gysylltiadau i ddal y cwbwl at ei gilydd a gorffan y
cwbwl hefyd mewn llai na awr, yn rhyfeddol
yndydi? Ond, wrth lwc, mae 'na lawer o bobol yn
gwerthfawrogi pryfaid cop ac yn eu gweld nhw'n
betha lwcus iawn.
Mae 'na sôn 'does bod pryfyd cop wedi achub
bywyda y baban Iesu, Mohamed a Ffrederic Fawr,
Brenin Awstria. Mae'r tair stori'n eitha tebyg - er
enghraifft, yn achos yr Iesu, bod Joseff a Mair a'r
plentyn bach wedi cuddio mewn ogof rhag milwyr
Herod ac am fod gwe pry cop ar draws ceg yr
ogof, roedd y milwyr wedi meddwl nad oedd neb
yno. A be am stori Robert the Bruce yn yr Alban,
sef y stori pry cop enwoca' yn y byd? Yn ôl y stori,
roedd Robert, tua 1306 neu 07, tra'n brwydro am
annibyniaeth yr Alban, wedi gorfod ffoi o
grafangau'r Saeson ac wedi llochesu mewn ogof -
wel, eglwys oedd hi mewn gwirionedd - ac wedi
gwylio pry copyn yn trio a thrio i swingio ar draws
bwlch i godi ei we. Trio a methu, trio a methu ac
yna, ar y seithfed cynnig, fe lwyddodd. Roedd
hynny'n ysbrydoliaeth i Robert i beidio digalonni
ar ôl methu'r tro cynta'. Felly dyfal donc amdani, ac
yn y diwedd fe lwyddodd i gael yr Alban yn wlad
rydd. Hwre, hwre.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen