GEIRFA
awdurdod; Eryri; swyddogol; copa'r Wyddfa; awgrymiadau; chwaneg; cynigion; cysylltu â; safon; amrywiaeth; trwsgl; tafod-ym-moch; hafan; grug; bachog; ynganu; etifeddiaeth; cawr; ymgartrefu; beddrod; blin; gelynion; ymwybyddiaeth; agwedd; goruwch-ystafell; poblogaidd; marchnata
GWRANDO A DEALL
i) Beth sy'n mynd i gael ei benderfynu?
ii) Sawl awgrym sydd wedi cyrraedd hyd yn hyn?
iii) Faint fydd cost yr adeilad?
iv) Pa fath o enwau sydd wedi cael eu hawgrymu hyd yma?
v) Nodwch dri enw a awgrymwyd.
vi) Pa fath o enw maen nhw'n chwilio amdano.
vii) Pa ddau gymeriad chwedlonol a hanesyddol a enwyd?
viii) Pa fath o berson oedd Rhita Gawr?
ix) Beth yw anfantais enw fel Carnedd Eryri yn ôl y cyfwelydd?
x) Pwy fydd yn penderfynu ar yr enw?
xi) Pa enw o'r Beibl a awgrymwyd?
xii) Am beth mae'n rhaid ei gofio wrth ddewis enw, yn ôl un o'r siaradwyr?
IAITH
a) Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y berfau canlynol:
cartrefu / ymgartrefu; golchi / ymolchi; paratoi / ymbaratoi; tawelu / ymdawelu; dangos / ymddangos.
b) Fel arfer bydd ll>l ac rh>r o dan amodau'r treiglad meddal. Weithiau, fodd bynnag, maen nhw'n gwrthsefyll treiglo. Rhowch y geiriau rhwng cromfachau yn y frawddeg gan dreiglo neu beidio yn ôl y galw:
Torrodd y bachgen ei .......................... [llaw]
Pam mae'r neuadd mor ..................? [llawn]
Ble mae'r ................. fach? [rhaw]
Collodd y milwr un goes ac un ............ [llaw] yn y ..............[Rhyfel] Fawr.
Roedd e'n credu bod y dillad yn ............ [rhad]
Mae'r afon yn rhy ................ [llydan] i'w chroesi.
Dyma'r tro cyntaf i mi fod ar y .................... [llong] hon.
Daliodd e ................ [llygoden] fawr ond dihangodd y ................ [llygoden] fach.
c) Defnyddiwch y geiriau hyn a glywsoch chi yn y darn i gwblhau'r brawddegau:
etifeddiaeth; gelynion; marchnata; poblogaidd; blin; copa; awgrymiadau; safon.
Roedd y Beatles yn grŵp ................... iawn.
Mae Cristnogion yn dweud bod rhaid inni faddau ein ................
Dywedodd y beirniad fod ................y gystadleuaeth yn isel.
Gair arall am 'cas' yw ..................... yng ngogledd Cymru.
Mae'r iaith yn rhan bwysig o ........................ y Cymry.
Dringodd y tri i ......................... 'r mynydd.
Rydyn ni'n chwilio am enw i'r tþ. Oes gennych chi .......................?
Methodd y busnes am nad oedden nhw'n .................... eu nwyddau yn effeithiol iawn.
TAFODIAITH
Ganwyd ac addysgwyd Swyddog y Parc Cenedlaethol yn ne Cymru . Fasech chi'n dweud bod ei hiaith yn awgrymu hynny? Pa esboniad fasech chi'n ei gynnig?
GWEITHGAREDDAU
i) 'Hafod Eryri' oedd yr enw a ddewiswyd yn enw ar y caffi newydd ar gopa'r Wyddfa. Ydych chi'n meddwl ei fod yn enw da? Pa enw fasech chi wedi ei ddewis?
ii) "Gan fod mwyafrif yr ymwelwyr i Eryri yn dod o Loegr, dylen nhw fod wedi dewis enw Saeneg fasai'n hawdd ei ynganu". Trafodwch.
iii) Sut cawsoch chi eich enw? Dywedwch yr hanes.
iv) Sôn am enwau doniol neu anaddas ar bobl rydych chi wedi eu clywed.
YSGRIFENNU
Dewis enw.
Taswn i wedi gallu dewis fy enw fy hun, baswn i wedi dewis........ Pam?
Enwau tai ein hardal ni.
TRAWSGRIFIAD
Ydy pobol yn dal i fynd i'r llefydd yma d'wch i weld
llunia? Mae gin gymaint o ddiddordeb mae'n siwr
on'd oes ag oedd 'na ers talwm? Mae rwun yn
tueddu i feddwl nad oes 'na ddim gymaint heddiw
- w'ch chi beth dw i'n feddwl?
Ie, dw i'n meddwl bo ni'n eitha ffodus yn Aberteifi a
gan bod siop 'da ni yma hefyd, chi'n mbod, mae
pobol yn gallu cyfyngu'r ddau, chi'n mbod, yndife, bod
nhw'n gallu mynd lan i'r oriel a wedyn cael edrych o
gwmpas y siop r'un pryd yndife, chi'n mbod.
Yndyn, wrth gwrs, yndyn, a pan mae nhw'n dod
acw am lyfr, dudwch, a wedyn mae nhw'n mynd i'r
oriel, yndydyn, mewn ffordd, yndydyn.
Odyn, 'sno nhw'n gorfod mynd falle yn uniongyrchol i
oriel, yndife, cael y ddau r'un pryd wedyn, ynde.
Mae'n anhygoel, prisia rhai o'r llunia 'ma. 'Da chi'n
gweld nhw os ewch chi i ryw oriel i rwla a chi'n
gweld y prisia am nad dw i'n dallt dim byd am
betha fel hyn, pam mae'r llun yna'n ddrutach na'r
llun yna, 'da chi'n gwbod be dw i'n meddwl. Be sy'n
gneud hwnna yn ddrutach, ynde? Ydach chi'n dallt
y petha yma?
Dw i'm yn dallt dim byd am arlunio. O'n i'n - wel, a
deud y gwir, o'n i'n ofnadw yn yr ysgol am dynnu
llunia. Dw i'n hoffi, chi'n mbod, diddordeb 'da fi i weld
llunie ond sa i'n deall lot o ddim byd, yndife.
Ia, wel, na dw inna ddim chwaith ond os dw i
dramor, fydda i'n licio mynd i weld lluniau, y'ch
Picassos a'r rhein i gyd 'lly, er nad dw i'n dallt dim
byd amdanyn nhw. Ydach chi 'di gweld print rhad
o amryw o'r llunia 'ma yn amal iawn, do?
Wyddoch chi be dw i'n feddwl, maen nhw gynno
ni mewn rhyw gegin neu rywbeth, yndydyn?
Odyn.
A fyddwch chi'n mynd rownd a meddwl, O, mi
oedd hwnna gin i yn Gaerdydd ers talwm. O, un
o'i lunia fo oedd hwn yn wreiddiol, felly, achos dw
i'm yn dallt y petha 'ma ond fydda i'n meddwl be
sy'n gneud rhai petha'n ddrutach na'i gilydd, a mae
hynny am bo fi'm yn ddallt o, wrth gwrs.
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen