GEIRFA
unlle pumdegau stori(straeon) disgybl rhyfedd gwyrth canlyniadau eilradd bwlïan disgyblaeth lem Treffynnon
GWRANDO A DEALL
i) Ym mha gyfnod o'i fywyd oedd Arfon yn byw yn Aberystwyth?
ii) Pa mor hapus oedd e yn yr ysgol gynradd yno?
iii) Beth oedd Mary Vaughan-Jones yn gallu ei wneud yn dda?
iv) Pam nad oedd Arfon yn hapus yn Ysgol Ardwyn?
v) Pwy oedd yn cael mynd i Ysgol Ardwyn?
vi) Ble roedd y lleill yn mynd?
vii) Sut roedd y prifathro'n darllen canlyniadau'r 11-plus?
viii) I ble symudodd y teulu o Aberystwyth?
ix) Sut roedd e'n hoffi Ysgol Glan Clwyd?
x) Pam roedd e'n sôn am wersylloedd Colditz a Butlins?
IAITH
a) Cwblhewch y rhestr hon o enwau lleoedd:
Holywell Treffynnon
St. Davids
Brecon
Holyhead
Fishguard
Denbigh
Welshpool
Newport
Chepstow
b) Mae'r siaradwr yn sôn am "un o flynyddoedd hapus' fy mywyd".
Gradd eithaf 'hapus' yw 'hapusaf'. Beth yw gradd eithaf y canlynol?
hapus hapusaf
da
drwg
bach
hawdd
agos
llydan
tlawd
caredig
c) Ysgrifennwch frawddegau i ddangos y gwahaniaeth rhwng y parau hyn o eiriau:
bae/bai; caledi/caledu; côr/cor; crud/cryd; chwaith/chwaeth.
TAFODIAITH
Er iddo gael ei fagu yn Aberystwyth, pa dystiolaeth sydd bod dylanwad y gogledd yn drwm ar iaith lafar y siaradwr?
TRAFOD
i) Soniwch wrth aelodau eraill y grŵp am a) y peth gwaethaf b) y peth mwyaf doniol ddigwyddodd ichi yn yr ysgol.
ii) Disgrifiwch athro a ddylanwadodd arnoch.
iii) Ar wahân i waith ysgol, beth fwynheuoch chi ei wneud?
iv) Cael sgwrs â rhywun sy'n siarad Cymraeg yn eich ardal am ddyddiau ysgol a dod ag adroddiad yn ôl i'r dosbarth.
YMADRODDION
trwy ryw ryfedd wyrth y pumdegau
YSGRIFENNU
Taswn i'n cael dechrau fy mywyd unwaith eto.....
Fy atgof cyntaf o'r ysgol.
Ysgol profiad yw'r ysgol orau?
TRAWSGRIFIAD
.... Yn Aberystwyth o'ch chi wrth gwrs pan .. beth,
rhwng pump a dwy ar bymtheg?
Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a dw i 'di deud a dw
i yn ei feddwl o, alla i'm meddwl am unlle gwell yn
y 50au i fagu plentyn nag Aberystwyth, ac Ysgol
Gymraeg Aberystwyth, a chael athrawon fel
Hywel D. Roberts a Mary Vaughan Jones. Darllen
straeon, ryw chwech, saith oed a dw i'n ... alla i
gau'n llygad a gweld Mary Vaughan Jones o mlaen
i yn darllen, adrodd storïau Mabinogion a
Chwedlau Esop. O, oedd hi'n dalent. O'dd hi â
dawn anhygoel, deud stori yn ogystal â sgwennu
stori ... Ia, Ysgol Gymraeg Aberystwyth a wedyn
Ysgol Ardwyn, ond wnes i ddim mwynhau Ysgol
Ramadeg Ardwyn.
Naddo fe?
Na, O na..
Ond mae'n cael enw - ysgol dda.
O, oedd hi'n ysgol arbennig o dda ond do'n i'm yn
ddisgybl, unwaith eto, arbennig o dda, yn anffodus.
Na, o'n i'n chael hi'n anodd iawn yna. Wnes i
basio'r Eleven Plus drwy ryw ryfedd wyrth ond
o'n i, dw i'm yn gwbod, o'n i ofn yr athrawon ac
oedd gen i'm diddordeb. Falle dyliwn i fod 'di
mynd i'r Ysgol Uwchradd, i Ysgol Dinas, er dw i yn
erbyn . . . . hynna. Wna i byth anghofio'r dwrnod
githo ni'r canlyniade Eleven Plus a roedd - Hywel
Jones oedd y Prifathro dw i'n meddwl. Oeddan ni
gyd yna, y rhai oedd wedi cymeryd yr Eleven Plus.
Oedd o'n darllan y canlyniada fel 'sa ti'n darllen
canlyniada pêl-droed, ti'n gwbod, achos Dinas
oedd yr ysgol eilradd, os leci di, ac Ardwyn oedd
yr Ysgol Ramadeg, a wna i ddim enwi'n iawn ond
oedd o'n mynd "Wel, Richard Williams - Ardwyn,
Siân Rees - Dinas, Peter Hughes - Dinas, Arfon
Haines Davies - Ardwyn. Oh! Some mistake
surely".
Oedda chi'm yn cael y'ch bwlian na dim byd fel'na yn
yr ysgol?
Na, dim o gwbwl. Na, na, na. O'n i fel dw i'n
dweud, o'n i ... oedd gen i ofn yr athrawon hefyd.
Roedd disgyblaeth lem yna. Ella bod hynna'n beth
da ond pan symudon ni wedyn o Aberystwyth i
Dreffynnon, mi es i Ysgol Glan Clwyd am
flwyddyn, yn y Rhyl pryd hynny, ac un o'r
blynyddoedd hapusaf fy mywyd i. O'n i wrth fy
modd yna.
Felly, beth oedd y gwahaniaeth?
Wel, dw i'n cofio - ella dylwn i ddim dweud hyn.
Dw i'n cofio y prifathro oedd Desmond Healey a
dw i'n cofio'n iawn, ar ôl bod yna ryw bythefnos,
na'th o ofyn sut o'n i'n setlo mewn a dw i'n cofio
.... O, dw i 'di bod yn stiwpid! "Sut 'da chi'n setlo
mewn Arfon?" A ddwedes i, "O, dw i wrth fy
modd yma, fel 'swn i 'di symud o Colditz i Butlins".
"O, reit, 'na ni. Ella bo chi angen dipyn o
ddisgyblaeth."
NODER
Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.
Argraffu'r dudalen