 |  |  | Cyhoeddi dyfodiad yr Eisteddfod Mai 2002 Ymhen ychydig dros flwyddyn, sef Wythnos y Sulgwyn 2003, bydd ein hardal gyfan yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru - Tawe, Nedd ac Afan. |  |  |
 | Mae'n draddodiad cynnal Gwyl Cyhoeddi flwyddyn o flaen llaw, a digwyddodd hynny yng Nghastell-nedd ddydd Gwener a Sadwrn, Mai 3ydd a'r 4ydd.
Ar y Nos Wener, yn Neuadd Chwaraeon Cwrt Herbert, cynhaliwyd Cyngerdd y Cyhoeddi. Dau o fechgyn y teledu, sef Phyl Harries a Ieuan Rhys gyda'u doniolwch naturiol a gyflwynodd y talent lleol gyda Fflur Wyn yn canu rhai o'r ffefrynnau yn swynol.
Hudo gyda'u hofferynnau Bu tri o Bedwarawd Nedd, sef Rhian Porter, Rahel Jones a Huw Daniel yn ein hudo gyda'u hofferynnau ynghyd â Chôr Telynau Sali Wyn a'u telynau. Hefyd cafwyd eitemau gan Ysgolion Cyfun Glanafan ac Ystalyfera.
I ddiweddu'r noson fe'n hysbrydolwyd gan gyflwyniad llafar effeithiol ieuenctid Ysgol Ystalyfera, cyflwyniad a berfformiwyd hefyd ar lwyfan y Brifwyl yn Eisteddfod Caerdydd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae'n werth cyhoeddi'r gân a ganwyd ganddyn nhw, cerdd o waith Eurig Davies. Prifathro Ysgol Gyfun Ystalyfera:
Gorwel pell uwchben y bae, Eithin aur yn glogwyn dros y bryn; Awyr las a llyfn yw'r llyn. Llethrau'r grug yn borffor a gwyn. Y fro a'r blaenau, clywch y gân. O'r fferm a'r ffatri unwch; Gwyr y ffwrnes, gwyr y wlad. Y dur sydd yn eich gwâd.
Craith y gwaith ar Ian y bae. Staen y dur ar fro rhwng môr a mynydd; Aur y traeth a'i gwmni llon Hyd y dwr yn heulwen y dydd. Cysgod y castell a'i furiau llwyd. A hanes gormes gweithwyr; Saif y werin yn erbyn brad - Y dur sydd yn ein gwâd.
Mae'r gân ym Margam i Gymru gyfan, O bedwar ban, dewch atom, dewch i'r Wyl; Y gân ym Margam sy'n uno'r cyfan, Ar y maes yn un llais y codwn hwyl.
Hwyl a sbri wrth orymdeithio Ar y Sadwrn canlynol casglodd cannoedd o blant, eu rhieni a'u hathrawon y tu allan i Neuadd Gwyn, Castell-nedd i orymdeithio trwy'r dref a thua Caeau Cwrt Herbert ar gyfer hwyl a sbri.
Arweiniwyd yr orymdaith gan Fand y Waun a braf oedd gweld cymaint o ysgolion lleol yn cael eu cynrychioli gan gynnwys Ysgolion Cymraeg Castell-nedd, Glynnedd, Blaendulais, Tyle'r Ynn, Rhos Afan, Pontardawe ynghyd ag Ysgolion Saesneg eu cyfrwng, megis Ysgol Gynradd y Gnoll ac Eastern Primary, Margam.
Hyfryd oedd gweld y plantos bach o Fudiad Ysgolion Meithrin yn mwynhau eu hunain hefyd. Wedi cyrraedd Cwrt Herbert roedd stondinau, ffair bleser, wal ddringo Glanllyn a sêr S4C Planed Plant yno i'w diddanu.
Roedd y tywydd o'u plaid hefyd a chafwyd dathliad teilwng i'r achlysur. Edrychwn ymlaen at groesawu Cymru gyfan i'n hardal ymhen y flwyddyn.
 |  |  |  |
| 
|