| Bwriad y gystadleuaeth oedd hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Japan. Ar ôl codi'r ffurflen gais o'i siop leol fe aeth Eifion, sy'n hoffi arlunio, ati i gynllunio poster. Llunio'r gwaith mewn chwarter awr O fewn chwarter awr roedd wedi llunio celfwaith drawiadol a oedd yn cynnwys pêl-droed, cae chwarae, y bydysawd a thorf o gefnogwyr ar ffurf barer San Sior, a'r cyfan o fewn siâp potel Coca-Cola.
Er nad ei gynllun ef oedd y gorau o'r holl rai a ddaeth i law, ac er iddo golli o drwch blewyn, ei ddarlun ef oedd y gorau o holl geisiadau Cymru a Gorllewin Lloegr.
Roedd Eifion yn bresennol pan ddyfarnwyd y cynlluniau, ac fe gafodd y cyfle i gwrdd â David James, gôl-geidwad Lerpwl a Lloegr, a Tony Hart yr arlunydd enwog.
Fel gwobr mae Eifion yn cael y cyfle i lenwi un o drolïau Safeway gyda chymaint o nwyddau â phosib, a hynny mewn pedwar munud.
 |