BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Osian a Nia Ben AurChwedl Nia Ben Aur
Chwefror 2003
Cynhelir y Sioe Gerdd "Nia Ben Aur" i blant ysgolion cynradd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ddiwedd Mai. Nid yw'r chwedl yn adnabyddus i nifer ohonom gan mai stori Gwyddelig ydyw. Dyma grynodeb o'r hanes.

Llawer o flynyddoedd yn ôl roedd cenedl o gewri cyhyrog yn byw yn Erin (Iwerddon). Un o Iwythau'r genedl honno oedd y Ffianiaid, ac un o'r llwyth hwnnw oedd Osian. Roedd Osian yn ddyn ifanc dewr a chryf, ond tyner ei galon.

Un bore o wanwyn, pan oedd Osian gyda'i dad a'i ffrindiau yn hela yn y coedwigoedd sydd o amgylch llynnoedd Cill Airne, gwelsant ferch hardd ar geffyl gwyn yn marchogaeth tuag atynt. Roedd mantell o sidan brown amdani, ac ar ei phen roedd torch o aur. Roedd ei Ilygaid glas fel gwlith y bore, ac roedd ei gwallt melynaur yn donnau dros ei hysgwyddau ac yn cyrraedd bron i'r Ilawr.

Eisteddai'r ferch ar gyfrwy o aur coch, ac ym mhen y ceffyl roedd ffrwyn o aur, a phedair pedol aur o dan ei bedwar troed. Roedd y ferch yn fwy urddasol hyd yn oed na'r elyrch oedd yn nofio ar y Ilyn.

"Beth yw dy enw?" gofynnodd Osian iddi.
"Nia Ben Aur yw fy enw," atebodd
"O ba wlad rwyt ti'n dod?" gofynnodd Osian.
"Merch i frenin Tir na n-Og ydw i. Mae Tir na n-Og ymhell, bell dros y môr.Fuaset ti'n hoffi dod i Dir na n-Og gyda mi?" gofynnodd Nia.

Tir na n-Og - gwlad yr ifanc
"Sut wlad yw Tir na n-Og? gofynnodd Osian.
"Mae Tir na n-Og yn wlad hyfryd," meddai Nia. "Mae ffrwythau ar y coed trwy gydol y flwyddyn. Cei faint a fynni o aur ac arian a meini gwerthfawr. Cei ddiadelloedd di-rif, bydd cant o wyr arfog at dy alwad, a bydd yno delynorion i'th ddiddori. Does dim yn newid yno, na neb yn heneiddio. Gwlad yr Ifanc yw Tir na n-Og."

Roedd Ffionn, tad Osian, a'i ffrindiau yn anfodlon iawn iddo fynd i'r wlad bell. Ond roedd Osian wedi syrthio mewn cariad â'r ferch brydferth hon. Ffarweliodd â'i dad a'i ffrindiau. Neidiodd i'r cyfrwy y tu ôl i'r ferch a chychwynasant ar eu taith.Wedi cyrraedd glan y môr, gweryrodd y ceffyl deirgwaith a charlamodd ymlaen dros y tonnau fel gwennol o flaen glaw.

Aethant heibio i lawer o ddinasoedd gwych a thyrau heirdd, a gwelsant farchogion a'u harglwyddesau yn marchogaeth tonnau'r môr mor heini â hwy eu hunain.
"Beth yw ystyr y pethau hyn?" gofynnodd Osian.
"Dydy'r pethau hyn ddim yr hyn a weli di wedi inni gyrraedd Tir na n-0g," atebodd Nia.

Ymhen ysbaid daethant i olwg palas hardd. "Mae'r palas hwn yn harddach nag unrhyw un rydw i wedi ei weld o'r blaen. Pwy sy'n byw yma?" gofynnodd Osian.
"Castell y cawr Ffomor yw e," atebodd Nia. "Mae Ffomor wedi dwyn ei wraig o wlad bell yn erbyn ei hewyllys, ac mae'n ei chadw'n garcharor yn y castell."
"Felly," dywedodd Osian. "Fe ymladda i â'r cawr a rhyddhau'r frenhines."

Cafodd Osian a Nia groeso mawr gan y frenhines. Ar ôl swper y noson honno dywedodd hi ei stori drist wrth Osian a Nia. Pan oedden nhw'n ymddiddan, clywsant swn y cawr yn dychwelyd at y castell.

Brwydr Osian a'r cawr
Aeth yn ymladdfa rhwng Osian âr cawr yn syth, a pharhaodd y frwydr am dri diwrnod a thair noson. Ond o'r diwedd trawodd Osian y cawr i lawr a thorrodd ei ben. Cariodd Nia a'r frenhines Osian i'r castell a golchi ei glwyfau, ac yno ei roddi i orffwys. Gyda'r wawr drannoeth ailgychwynnodd Osian a Nia ar eu taith dros y tonnau. Cyn iddynt fynd ymhell cododd storm ofnadwy. Fflachiodd y mellt a rhuodd y taranau. Chwythodd y gwynt a Iluchiodd y tonnau ewyn gwyn drostynt, ond yn ei flaen yr aeth y ceffyl drwy'r cyfan.

Wedi i'r storm ostegu, gwelodd Osian o'i flaen wlad brydferth ac iddi gaeau yn llawn blodau, a pherllannau yn llawn coed a ffrwythau, a Ilynnoedd ac afonydd gloyw. Rhwng y traeth a'r bryniau roedd palas gwych, a'i furiau o aur a meini gwerthfawr.

Cyrraedd Tir na-nOg
"Dyma Dir na n-0g," dywedodd Nia.
Daeth y brenin a'r frenhines i Ian y dvvr i'w croesawu. Wedi iddynt gyrraedd y palas, roedd gwledd fawr yn eu haros. Parhaodd y wledd am ddeng niwrnod, ac ar ddiwedd y wledd priododd Osian a Nia Ben Aur.

Bu Osian yn byw yn Nhir na n-Og am 300 mlynedd, ond roedd yr amser yn ymddangos cyhyd â thair blynedd.Un diwrnod daeth hiraeth arno am weld ei dad a'i hen ffrindiau.

Aeth at y brenin a gofyn am ganiatad i ymweld â hwy. Roedd Nia yn drist iawn pan glywodd am fwriad Osian i ymweld ag Erin; eto doedd hi ddim am ei rwystro.
"Fydd Erin ddim yn debyg i'r hyn oedd hi pan adewaist ti'r wlad," dywedodd Nia wrth Osian. "Mae dy deulu wedi darfod o'r tir, ac yn eu Ile mae seintiau ac offeiriaid. Os bydd dy droed yn cyffwrdd â thir y Wlad, wnei di ddim dychwelyd ata i byth mwy."
"Rydw i'n addo gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud," dywedodd Osian, a chychwynnodd ar ei daith ar y ceffyl gwyn.

Wedi cyrraedd Erin, aeth Osian i bob man ar gefn y ceffyl, heb unwaith roi ei draed ar y Ilawr Holodd am ei deulu, y Ffianiaid, ond doedd neb yn gwybod dim amdanynt. Roedd pawb a phopeth wedi newid. Roedd y bobl yn debyg i gorachod o'u cymharu â'r cewri fu'n byw yno pan oedd e'n ddyn ifanc.

Un diwrnod, wrth farchogaeth drwy'r wlad, daeth ar draws nifer o ddynion yn ceisio codi carreg fawr, ond methu a wnaethant. Plygodd Osian o'i gyfrwy a chododd y garreg yn hollol ddidrafferth ag un llaw. Ond wrth iddo wneud hynny, torrodd cengl y cyfrwy a Ilithrodd Osian, a chyffyrddodd ei draed â'r ddaear.

Y foment y gwnaeth hynny, diflannodd y ceffyl gwyn, gan adael Osian yn sefyll yno. Newidiodd gwedd Osian yn sydyn; diflannodd ei nerth a chollodd ei olwg, a syrthiodd ar ei liniau yn hen wr diymadferth.

Daeth Padrig Sant heibio i'r lle, ac arweiniodd Osian i'w dy, a gofalodd amdano'n dyner tra fu byw.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy