BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Muriel Davies, Stan Zeal, Tom Marston, Stuart Douglas a Norman BurnsCasgliad Archif Cwm Dulais yn ddiogel
Ionawr 2005
Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio oddi ar i Gymdeithas Hanes Cwm Dulais ddechrau casglu deunydd o bob math am hanes y cwm.

Erbyn hyn, mae'r archif yn cynnwys mwy na 1,300 o greiriau, gan gynnwys lluniau, mapiau adogfennau amrywiol a gasglwyd gan archifydd y Gymdeithas, Norman Burns.

Mae'r cynnwys wedi ei restru ar gyfrifiadur, sydd yn gwneud y gwaith o chwilio am wybodaeth yn hawdd. Er enghraifft, petai rhywun am gael manylion am, dyweder, addysg, gellid dod o hyd iddo ar amrantiad. Yn yr un modd, pe byddai rhywun sydd wedi rhoi deunydd am wybod beth yn union y mae wedi ei drosglwyddo i'r archif, gellir cael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol yn yr un ffordd.

Teimlwyd ers tro y byddai'n beth da petai modd lleoli'r casgliadau hyn mewnadeilad cyhoeddus lle y byddent ar gael i'r cyhoedd. Bu staff y DOVE yn hynodgaredig, gan iddynt neilltuo ystafell ar gyfer yr archif.

Derbyniwyd nawdd ariannol er mwyn prynu celfi gan Bartneriaeth Cwm Dulias, Celtic Energy, y Cynghorau Cymuned lleol. Felly, bu'n rhai trefnu noson agoriadol.

Mr Tom Marston fu'n gyfrifol am wneud y rhan fwyaf o'r trefniadau, ac mae'n rhaid talu teyrnged arbennig i Ysgrifennydd y Gymdeithas, Mrs Muriel Davies, sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed er mwyn ceisio sicrhau fod yr adnoddau ariannol ar gael i ariannu'r fenter.

Llywyddwyd y noson gan Gadeirydd y Gymdeithas, y Parchedig Stan Zeal. Wedi'r cyflwyniad, trosglwyddwyd rhodd o lyfrau i Norman Burns, sydd hefyd yn Llywydd Anrhydeddus, fel arwydd o werthfawrogiad yr aelodau am ei wasanaeth. Cafwyd cyfle i weld yr archif 'ar waith', ac yr oedd ar gael arddangosfa, a oedd yn cynnwys rhai o gyhoeddiadau'r aelodau. Wedi hyn, yr oedd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi.

Bydd modd i unrhyw un gael chwilio cynnwys yr archif o dan oruchwyliaeth rai o'r aelodau, trwy drefnu hyn ymlaen llaw. Y gobaith yw y bydd lleoli'r casgliad yn ei gartref newydd yn denu mwy o bobl i'w ddefnyddio.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy