BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Garry OwenSgwrs gyda Garry
Ionawr 2004
Daeth Garry Owen, Pontarddulais atom i'r Gymdeithas fis Rhagfyr i sôn am ei yrfa fel Newyddiadur ar y Radio a Theledu.

Doniol iawn oedd clywed sut y cafodd ei enw. Roedd ei dad yn "ffanatig rygbi" ac yn chwaraewr da ac fe enwodd ei fab ar ôl y tref honno "Garyowen" yn Iwerddon a ddyfeisioddy gic enwog "up and under" .

Bu ei fam yn ei arwain hyd Eisteddfodau'r wlad a bu'n adrodd yn Eisteddfod Pontiets am y tro cyntaf yn 5 mlwydd oed. Yn Ysgol Ystalyfera ymddiddorodd ym myd y Ddrama, ond dilyn cwrs yn y Gyfraith a wnaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Pan ddychwelodd i'r Bont ddechreuodd gyflwyno rhaglenni ar Sain Abertawe a dyma fu'n brentisiaeth da iddo ar gyfer y dyfodol.

Bu tri newyddiadurwr arall yn cyd-weithio gydag ef yn Sain Abertawe - Huw Edwards, Siân Thomas a Guto Harri.

Mae ganddo ddiddordeb mewn pobl a'u hamgylchiadau a dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'n cofio'n arbennig am Streic y Glowyr ac ymdrech y dynion a'r gwragedd i sicrhau dyfodol iddynt eu hunain a'u cymunedau.

Daeth sawl cymeriad cryf i'r golwg yn y cyfnod yma ac mae'n cofio gyda gwên ymdrech menywod Blaendulais! Roedd bwrlwm yn y Newyddion yn y cyfnod yma ac roedd hefyd yn ddiwedd cyfnod pwysig yn ein hanes.

Mae Garry Owen yn un o'n lleisiau a wyneb mwyaf cyfarwydd. Clywir ef ar Post Cyntaf rhwng 7 - 8.30 y bore ac ar y Newyddion ar S4C am 7.30. Braf yw gwrando arno a gweld y wên lydan a'r winc ddireidus.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy