 |  |  | Murluniau lliwgar Gorffennaf 2002 Bu plant yr Ysgol Gymraeg yn brysur iawn yn creu wyth murlun i ddehongli rhai o Dribannau Morgannwg o waith Ifan Bevan a gofnodwyd gan Rhys Phillips yn ei lyfr enwog. |  |  |
 | Roedden nhw yn ffodus iawn i dderbyn cyfarwyddyd yn y prosiect gan gyn ddisgybl o'r ysgol, sef Ceri Walters, merch Margaret a Mervyn Walters, Abergwrelych, ynghyd â'i phartner busnes Chris Partridge o Mobile Arts, Caerdydd.
Cafwyd seremoni swyddogol i ddadorchuddio'r murluniau gan gynnwys un wrth fynedfa'r ysgol sy'n estyn 'Croeso' i'r ysgol.
Maen nhw'n werth eu gweld ac yn glod i lafur diflino yr athrawon, y plant a'r rhai fu yn eu cyfarwyddo.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Selar Glynnedd a Chyngor Celfyddydau Cymru.
 |  |  |  |
| 
|