BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Terry AdamsSgiwen, Azerbaijan a James Bond
Ebrill 2002
Portread o Terry Adams
....bachan o Sgiwen

Mae stori'r ffilm James Bond, The World is Not Enough, wedi ei seilio ar brofiadau Cymro o Sgiwen tra'r oedd e'n gweithio i gwmni olew yn Azerbaijan.

Bu Terry Adams yn un o'r rhai fu'n trefnu adeiladu peipen cludo olew o ddinas Baku yng ngwlad Azerbaijan i wlad Twrci, a'i brofiadau wrth fod yn y wlad anghysbell a garw honno oedd yr ysbrydoliaeth oedd ei angen ar gynhyrchwyr ffilmiau James Bond i greu stori addas ar gyfer y ffilm The World is Not Enough.

Gweld pobol amheus
Tra yn Azerbaijan fe ddaeth ar draws nifer o bobol amheus oedd eisiau siâr yn y fenter o gysylltu olew eu gwlad hwy gydag Ewrop a dyna yw sail y ffilm.

Mae'r wlad ar ei gliniau o ran arian, ac roedd y dynion lleol yn dwyn offer y cwmni olew er mwyn eu gwerthu i gael bwyd i'w gwragedd a'u plant.

Oherwydd yr anhawster yma gwahoddodd Adams y bobol leol i'r cantîn bwyd a'u digoni a chynnig swyddi i'r lladron oedd yn dwyn yr offer. Mae'n cyfaddef mai dyna'r gweithwyr gorau iddo eu cyflogi erioed!

Am 35 mlynedd fe fu Terry Adams yn rheoli prosiectau tyllu am olew gwerth biliynau o ddoleri i gwmnïau fel Shell a BP yng ngwledydd Syria, Iran, Yemen a Sawdi Arabia.

Gallu uniaethu ei hun â'r bobol
Roedd Adams yn gallu uniaethu ei hun â phobol Azerbaijan oedd yn byw yng nghysgod gwlad imperialaidd Rwsia, gan ei fod wedi ei godi yn Gymro yng nghysgod grym Lloegr.

Dywedodd "mae dod o Gymru yn rhoi mantais i chi wrth ddelio gyda'r lleiafrifoedd mewn gwledydd Arabaidd hefyd".

Mae Adams yn cyfaddef bod y ffaith ei fod yn Gymro wedi ei helpu wrth iddo sefydlu cysylltiadau busnes gyda Moslemiaid, sydd wrth reddf yn ddrwgdybus o'r Saeson.

Fe gafodd Terry Adams ei fagu ym mhentref Sgiwen yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Mynychodd Ysgol Ramadeg Castell-nedd yr un cyfnod â Tony Lewis y cyn-chwaraewr criced.

Wrth dyfu, roedd Terry Adams yn hoff iawn o farddoniaeth a gwleidyddiaeth. Mae'n sôn am David Adams, brawd ei dad, yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1891, ond nid yw ef ei hun ddim yn medru'r Gymraeg.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy