BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Trafod effeithiau HIV / AIDS gyda thrigolion BotswanaDyddiadur Botswana - diwrnod ym mywyd gwirfoddolwraig
Mai 2003
Mae Rhian Curtis o Gastell-nedd yn treulio cyfnod yng ngwlad Botswana ar gyfandir yr Affrig ..
Mae'n ceisio addysgu trigolion y wlad dlawd o beryglon AIDS. Dyma rhai o'i hargraffiadau:
Dydd Gwener, Mawrth 14, 2003
Ar ôl gwario cyfnod o flaen 50 person yn ceisio eu haddysgu, mae'n braf cael seibiant ac ychydig o heddwch.Ymuno gyda Swyddogion Maes (Field Officers) i drafod yr ymgyrch addysgu HIV/ AIDS. Mae hyn yn digwydd pob pythefnos a' n targed yw ceisio cyfarfod â 2,000 o bersonau yr un, yn yr amser a benodwyd. Mae'r epidemig yn effeithio ar gymaint â 40% o'r boblogaeth (1.7 miliwn) y wlad. Mae'r dasg yn anodd, bron yn amhosibl. Dychmygwch y sefyllfa - cerdded am 8 awr y dydd, yn yr haul tanbaid, yn curo ar ddrysau i drafod y pwnc sy'n hollol tabw. Faint ohonoch chi tybed a fyddai'n barod i wneud y fath swydd?

Gwariaf hanner fy amser yn y swyddfa a'r hanner arall yn cyfarfod â thrigolion y wlad, mewn ysgolion, colegau, wrth eu gwaith yn y ffatrïoedd neu allan yn y caeau. Rwy'n esbonio peryglon y clefyd ac yn awgrymu y dylai pawb ddefnyddio condoms wrth gael rhyw â'i gilydd. Er bod condoms yn brin iawn, mae modd cael gafael arnynt, ond mae trigolion Botswana yn amharod i newid eu dulliau caru.

Mae HIV/AIDS wedi effeithio ar dros drydedd rhan o'r boblogaeth ac eto mae cymaint yn amharod i wrando ac yn gwneud fy ngwaith yn rhwystredig iawn. Mae'n rhaid i mi bwysleisio iddynt fod:
AIDS yma yn eu mysg
AIDS yn lladd
AIDS wedi lladd - eu ffrindiau, cymdogion a theulu
a bod yn rhaid gweithredu ar frys i ddiogeli eu hunan a'r sawl yr ydynt yn eu caru.

Cyfartaledd oes bywyd person ym Motswana ar hyn o bryd yw 38 mlwydd oed. Bymtheng mlynedd yn ôl y ffigwr oedd 58 mlwydd oed. Pa ddyfodol sydd i'r wlad yma a'i phoblogaeth os bydd y duedd yma'n parhau.

Rhaid dyfalbarhau! Rhaid i mi gyfarfod â chymaint â phosibl o bobl a'u haddysgu a'u darbwyllo - dyna yw fy nod bersonol. Mae'n druenus gweld cymaint yn marw o'r clefyd ofnadwy yma, ag eto gydag ychydig o amynedd a synnwyr cyffredin gallant osgoi'r cyfan.Os oes diddordeb gennych yn fy ngwaith a'r sefyllfa ym Motswana, yna mae croeso i chwi gysylltu a mi drwy e-bost ar - schlabang@hotmail.com

Pob hwyl!
Rhian Curtis


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy