| Dôi o gefndir difreintiedig, ac o ystyried anawsterau cyfnod cynnar ei fywyd, yr oedd ei lwyddiant diweddarach yn rhyfeddol. Yn 1841, ac yntau'n ddeg oed, aeth y bachgen o Ferthyr Tudful i weithio mewn pwll glo, a bu wedyn yn gweithio mewn gweithfeydd dur ym Mhensylfania, yn yr Unol Daleithau, gan astudio cerddoriaeth yn ei oriau hamdden ac ymarfer ei ddawn offerynnol trwy gyfeilio mewn capel. Dechreuwyd sylwi ar ei ddawn, a phan oedd yn ugain oed anfonwyd ef ar gwrs tri mis i Efrog Newydd. Yn y cyfnod hwn fe'i gwysiwyd ddwywaith i ymuno â byddin taleithau'r gogledd yn ystod Rhyfel Cartref America, ac ar y ddau achlysur bu'n rhaid iddo brynu ei ryddid. Daeth newid mawr ar ei fyd pan enillodd wobrau yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1863 a 1864 am gyfansoddiadau cerddorol. Codwyd cronfa gyhoeddus i ddarparu modd iddo fynd i astudio i'r Academi Gerdd Frenhinoi yn Llundain yn 1868. Yn 1874, fe' i penodwyd yn Athro Cerdd Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Derbyniodd ostyngiad sylweddol yn ei gyflog wrth gymryd y swydd - bu'n cadw ysgol gerdd yn yr Unol Daleithiau - ond aeth ati i wneud yn iawn am ei golled trwy drefnu i'w fyfyrwyr roi llu o gyngherddau cyhoeddus er elw iddo ef, ac er mawr syndod i'w gyflogwyr. Roedd ganddo lygad craff i ganfod cerddorion ifainc talentog, fel y glöwr William Davies y cododd Parry gronfa iddo i'w alluogi i fynd i Goleg Aberystwyth, ar ôl ei weld yn perfformio mewn eisteddfod yn Rhosllannerchrugog. Ef hefyd oedd y cyntaf i gofrestru merched yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, gan fod angen eu lleisiau yn ei gôr, ond nid oedd yn ddisgyblwr da, a bu cryn feirniadu ar ei ddulliau dysgu. Wedi gadael Aberystwyth yn 1880, bu am wyth mlynedd yn Abertawe, lle y sefydlodd Goleg Cerddorol Cymru. Treuliodd hefyd gyfnod yn dysgu yng Nghaerdydd, lle y bu'n Bennaeth Adran Gerdd Coleg y Brifysgol am bymtheng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn sefydlodd Ysgol Gerdd De Cymru gyda chymorth ei fab Mendelssohn. Roedd galw mawr am ei wasanaeth fel arweinydd a beirniad hefyd, a byddai'n ymddangos yn rheolaidd mewn eisteddfodau. Ymysg ei weithiau poblogaidd mae'r gân Mvfanwy, yr opera Blodwen ar emyn-dôn Aberystwyth. Cynhelir Darlith Flynyddol Y Cymrodorion ar Nos Fercher, Ebrill 2, 2003 am 7 o'r gloch yn Festri Bethania, Castell-nedd. A hithau'n ganmlwyddiant marw'r cerddor Dr Joseph Parry (1841-1903) gwahoddwyd y Dr Dulais Rhys o Gaerfyrddin i draddodi darlith a chyflwyniad cerddorol ar ei fywyd. Croeso cynnes i bawb. Manylion : 01639 760968.
 |