BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Cerflun o lew, BabilonAtgofion Doctor o'r Dwyrain Pell
Hyfref 2003
Roedd un o drigolion Castell-nedd yn byw ym Maghdad ym 1958. Aeth un o ohebwyr Clecs y Cwm i sgwrsio â hi am ei hatgofion a'i phrofiadau yn y Dwyrain Pell. Meddyg oedd Dr Gwen Roberts-Harry yng Nghastell-nedd a Phontardawe cyn ymddeol.

Cefndir
Yng nghanol 50au y ganrif ddiwethaf roedd y byd mewn cyflwr enbyd. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd gwelwyd cyfres o wrthryfeloedd gwaedlyd yn Israel, Cyprus, Algiers, Hwngari, Czeckoslovakia, China, Aifft, Cuba, Gwlad Pwyl, Kenya ac yng ngwledydd Persia, sef Iran a Irac. Ym mis Gorffennaf 1958 gwaredwyd â theulu brenhinol Irac mewn gwrthryfel gwaedlyd. Llofruddiwyd y Brenin Feisal yn 23 mlwydd oed, ei ewythr y Tywysog Abdulillah, a'r Prif Weinidog y Cadfridog Nuri el-Said yn ninas Baghdad.

Roedd y Cadfridog Nasser a arweiniodd y gwrthryfel yn yr Aifft yn magu anniddigrwydd ymysg aelodau byddinoedd gwledydd cyfagos ac yn eu hannog i godi yn erbyn gormes y teuluoedd brenhinol breintiedig. Teimlodd gwledydd yr Iorddonen a'r Lebanon y bygythiad a chrio am gymorth oddi wrth gwledydd y Gorllewin cyn i'r trafferth ymledu. Cafwyd ymateb cyflym gyda miloedd o filwyr o'r Amerig a Phrydain yn glanio yn yr Iorddonen. Cododd hyn wrychyn yr Aifft a'r Undeb Sofietaidd.

Mynodd Khrushchev bod y Cenhedloedd Unedig yn rheoli'r sefyllfa gan orfodi'r milwyr i adael. Teimlwyd tyndra mawr gyda 44 llong ryfel yr Unol Daleithiau yn y môr ger Lebanon a lluoedd o filwyr Sofietaidd ar y ffin rhwng Twrci a Phersia. Gwnaed cytundeb a gostegodd y tensiwn rhwng y gwledydd.

Dyma gefndir cythryblus 1958 ac yn fuan y gwelodd Dr Gwen ei hun yn dilyn ei gwr. Edward Roberts-Harry, Uwchgapten gyda'r Fyddin Brydeinig a'u meibion John a David i ganol gwlad dieithr Irac.


Dr Gwen Roberts-Harry
Dr Gwen Roberts-Harry
Atgofion Dr Gwen Roberts-Harry
"Roedd hedfan i Baghdad gyda dau blentyn, tair a phedair mlwydd oed, yn y cyfnod yna yn dipyn o fenter", meddai, wrth gofio'r cyfnod 50 mlynedd yn ôl. "Er i'r daith yno fod yn ddidrafferth, rwy'n cofio tase fel ddoe, yr olygfa o'r maes awyr - y wawr dros yr anialwch, yn gwmws fel y lluniau oedd gyda ni yn ein hen Feiblau, slawer dydd; gwyr a gwragedd yn eu dillad hir, llaes yn droednoeth wrth arwain eu hasynnod.

"Buom yn aros mewn gwesty tan bod ein cartref newydd yn barod ac ar y cyfan fe gawsom groeso gan y bobl gyffredin. Cyfrifoldeb fy ngwr Edward oedd diogelu y cyflenwadau ffrwydron. Roedd gwres y dydd yn llethol, a'r cyfnodau gorau oedd y bore cynnar a'r hwyr. To gwastad oedd i'n cartref a grisiau yn arwain iddo yn syth o'r cyntedd. Roedd pwll nofio ar ein cyfer ni, y bobl gwyn a siop Sainsbury's hefyd! Byddem serch hynny yn cael digon o fwydydd ffres, megis eog o'r Tigris, caws gafr a melon o'r gwerddon (oasis.)

"Pobl dlawd, gyffredin a welwn gan fwyaf, yn crafu byw ar y tir, ond roedd gwneud carpedi a chreu gwaith copr cywrain yn grefft gyffredin a'u gwerthu yn y bazaars. Roedd Baghdad yn ddinas â mur uchel o'i chwmpas, a phedwar porth yn fynedfeydd iddi. Rwy' n cofio, ychydig ddyddiau ar ôl cyrraedd, gweld cyrff dynion, wedi eu dienyddio, yn hongian am wythnosau yn yr haul tanbaid ar grocbren wrth pob porth. Y bwriad, wrth gwrs, oedd rhybuddio'r werin o'u tynged os troseddent. Byddai'r cyrff wedi sychu'n grin erbyn pythefnos ond yn dal yn cael eu harddangos mewn modd farbaraidd.

"Roedd sawl crefydd yn amlwg yn y wlad, ond Mwslimiaid oedd y mwyafrif gyda'u hetiau smala. Byddent yn ymprydio adeg Gwyl Ramadan ac yn darllen y Coran yn reolaidd yn y Mosque. Crefydd lleiafrifol oedd yr Uniongredwyr Groegaidd a'r Coptiaid (Cristnogion cynnar a ddathlau'r Nadolig ym mis Ionawr). Rwy'n cofio synnu wrth glywed am draddodiad y Mwslim i briodi a chynifer â phedair gwraig, a bod hawl ganddo i waredu â rhai ohonynt trwy arllwys paraffin arnynt a'u llosgi. Digwyddodd hyn i un o wragedd y brenin newydd, pan oeddwn yno, a gorfodwyd pawb i wisgo bandiau du ar eu breichiau er cof amdani!

"Cofiaf deithio i Babilon trwy'r anialwch un diwrnod. Dyma, wrth gwrs, un o Saith Ryfeddod Y Byd. Er adfeilion oedd y ddinas, profiad gwych oedd gweld safle'r Gerddi Crog a Phorth Ishtar a adeiladwyd gan y Brenin Nebuchodonosor yn y 6ed ganrif cyn Crist a chael gweld gwlad Mesopotamia a'i rhyfeddodau. Mor flin oeddwn i glywed bod cymaint o drysorau'r wlad wedi cael eu dwyn a'u dinistrio adeg y rhyfel diweddaraf.

"Roedd y diwydiant olew yn datblygu'n gyflym a chofiaf ymweld â thref Mosul a gweld yr olew yn llosgi yn naturiol ar wyneb yr anialwch. Ai dyma ble y tarddodd y feddylfryd a'r dywediad "uffern dân".

"Er mai ychydig flynyddoedd y buom yno roedd profiadau a gawsom fel teulu yn fythgofiadwy. Mor drist yw gweld sefyllfa'r wlad a'r ymladd yn parhau. Bydd yn rhaid datrys yr anghydfod rhwng Israel a Phalestina cyn gwelwn unrhyw ddatblygiad heddychlon yn y Dwyrain Canol."

Diolch i Dr Gwen am rannu ei hatgofion â ni.

Atgofion Dr Gwen Roberts-Harry ym mhapur bro Clecs y Cwm


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy