BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clecs y Cwm
Llun gan Christine Eynon i ddathlu 50 yr ysgol (ar werth i gyd fynd â'r dathlu)Dathlu hanner canmlwyddiant ysgol
Mai 2004
Blwyddyn brysur iawn sydd o flaen Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmnedd. Mae'r ysgol yn dathlu ei hanner canmlwyddiant ac o ganlyniad, mae pob dosbarth yn astudio'r ail ryfel byd a'r effaith y cafodd ar fywyd yn y 1950au.

Gwahoddir pobl o'r gymuned i'r ysgol i sôn am eu profiadau, a dod ag arteffactau i ddangos i'r plant. Soniodd y Parchg Eifion Powell. tad-cu Jac Lane ym Mlwyddyn 5, am ei hatgofion e ac fe gafodd y plant y profiad o weld pa mor anodd oedd hi i wneud gwaith ysgol gan wisgo mwgwd nwy.

Ym Mlwyddyn 3, siaradodd Mr Graham Harrett, tad-cu Ffion-Hâf a Iestyn am ei brofiadau yn Burma. Daeth Mrs Nina Richards i ddangos ei llyfr dognau a sôn am y prinder yn ystod y rhyfel. Mae'r plant i gyd wedi bod wrth eu bodd yn dysgu am y cyfnod hwn. ac yn cymharu bywyd bob dydd yn ystod y rhyfel a'u profiadau nhw heddiw pan mae digonedd o bopeth ar gael iddynt.

Fel cychwyn i'r dathliadau, bydd parti i'r plant yn yr ysgol ac fe fydd rhaid iddynt ddod yng ngwisg y 50au. Mae gweithgareddau ychwanegol wedi'u trefnu ar gyfer tymor yr Hydref, gan gynnwys cyngerdd, cinio, noson cwis, arddangosfa o waith y plant, a chyhoeddiad llyfryn gydag atgofion am hanes yr ysgol. Felly gwyliwch y golofn hon am ragor o wybodaeth nes ymlaen!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy