Mae pwyllgor wedi cwrdd ers amser bellach ac mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu. Yn ogystal comisiynwyd arlunydd i gynhyrchu ffenestr liw i'w chodi yng nghyntedd yr ysgol bresennol. Bydd cofroddion hefyd yn cael eu cynhyrchu i gofio'r digwyddiad hanesyddol.Ddydd Gwener, Medi 24eg 2004 cynhelir Diwrnod o Ddathlu. Ymgynnull yng Nghapel Bethania, Heol Llundain ar gyfer gwasanaeth a dadorchuddio cofeb i nodi sefydlu'r Ysgol Gymraeg yn Festri Bethania ym Medi 1954. Parhau â'r dathlu yn yr Ysgol bresennol gydag arddangosfa o hen luniau ac adloniant yng nghwmni Martyn Geraint ac eraill. Bydd gweithgareddau eraill yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn ac fe nodir y dyddiadau yma yng Nghlecs y Cwm. Cynhelir Cinio'r Dathlu yng Ngwesty'r Glyn Clydach ar nos Sadwrn, Chwefror 26, 2005.
Am fwy o fanylion cysylltwch â'r Ysgol, ffôn 01639 637701, neu 01792 815152.
Hanes yr ysgol
Mae hanes y dyddiau cynnar yn hynod o ddiddorol, felly dyma argraffu benodau allan o lyfryn a gyhoeddwyd ym 1994, adeg dathlu'r 40 mlwyddiant, o dan olygyddiaeth Mair Waldo Thomas a'r diweddar Anna Wyn Jones a Wendy Richards.
Y dechrau...
Roedd sefydlu Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn ganlyniad i fisoedd lawer o gyfarfod, trafod a llythyru rhwng rhieni ifainc oedd yn benderfynol o sicrhau addysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i'w plant a'r Pwyllgor Addysg. Pwy oedd y rhieni hynny oedd yn rhannu'r un weledigaeth?
Roeddynt i gyd yn Gymry Cymraeg. Roedd rhai ohonynt wedi symud i'r dref oherwydd eu swyddi a chlywid acenion Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Gâr, Cwm Tawe, y Preselau ynghyd ag ambell un leol. Ychydig iawn o Gymraeg a glywid ar strydoedd Castell-nedd y dyddiau yma.
Gwnaed ffrindiau oes yn ystod yr ymgyrch dros ysgol Gymraeg. Erbyn heddiw mae llawer o'r rhieni wedi marw, rhai yn ifanc ac eraill ar ôl cael mwy o gyfle i gyfrannu at Gymreictod ein tref. Cofiwn amdanynt gyda balchder a diolch.
Cyn yr ymgyrch i sefydlu ysgol ym 1954 fe fu ysgol o ryw fath yn bodoli yn y 40au, sef yrYsgol Fore Sadwrn a gynhaliwyd yng nghapel Bethlehem Green rhwng 1948-1950.Criw bychan a welsant yr angen a buont yn casglu plant yr ardal er mwyn iddynt ddod ynghyd am ychydig oriau. Pwy oeddynt? Pobl dda megis Elwyn ac Elen Jones, Mair Richards, W.S. ac Euryl Morgan, Islwyn ac Ena Jones. Bet Williams, Tom Thomas, Beth Owen a'r Parch J. M. Davies. Dewiswyd y tri olaf i fynd â'u cais am addysg Gymraeg o flaen y Pwyllgor Addysg ond fe'u gwrthodwyd yn bendant.
Roedd hi'n 1953 cyn i'r ysfa am sefydlu ysgol Gymraeg ailgydio yn y dref. I Wendy Richards a Trefor Evans mae'r diolch am wthio'r cwch i'r dŵr am yr ail waith.
Dyma rai o atgofion Wendy Richards:
"Erbyn hyn roedd sawl teulu newydd wedi ymgartrefu yma. Roeddwn i a fy ngŵr wedi symud o Gwmtawe i Benywern a ganed Dafydd, ein plentyn cyntaf yma ddechrau 1952. Daethom i adnabod ein cymdogion Trefor a Gwladus Evans a thrwyddyn nhw daethom i wybod am ymdrechion dros addysg Gymraeg ym Mlaendulais a rhannau eraill o Dde Cymru. Aethom i gyfarfod yn festri Maesyrhaf un bore Sadwrn a chlywed sut y brwydrodd grwpiau o rieni Lonlas a Maesteg yn llwyddiannus dros eu hysgolion.
A dyma gychwyn ar y cenhadu, siarad ar radio, ysgrifennu i'r wasg, casglu enwau teuluoedd oedd yn mynychu'r capeli Cymraeg, a mynd o gwmpas yn cnocio ar y drysau gan gyfarch pwy bynnag a agorai'r drws gyda'r geiriau:
"Rydym yn deall eich bod yn siarad Cymraeg â'r plant". Daethom o hyd i ryw ugain teulu oedd â diddordeb mewn sefydlu Ysgol Gymraeg.
Dyma gyfnod maith o bwyllgora, cyfarfodydd cyhoeddus a gohebiaeth. Fe ddantodd nifer wrth i'r ymgyrch ymestyn dros y misoedd. Nid oedd y Pwyllgor Addysg yn credu ein bod o ddifri a gobeithient y byddem yn rhoi'r ffidil yn y to.
Mr Owen Thomas, yn wreiddiol o Lansawel (Briton Ferry) athro Daearyddiaeth yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, oedd Cadeirydd cyntaf Pwyllgor y Rhieni a minnau (Wendy Richards) oedd yr Ysgrifennydd. Rhaid talu teyrnged i Trefor Evans a Jack Jenkins, Sgiwen ein Trysorydd. Byddai addysg Gymraeg yn dod yn rhy hwyr i'w plant hwy ond buont yn flaenllaw yn yr ymgyrch, serch hynny.
Bethania
Naid i'r tywyllwch, ond naid mewn ffydd a gobaith oedd y penderfyniad i ddechrau'r ysgol ein hunain. Yr oeddem wedi diflasu ar arafwch yr ymateb i'n cais. Rhaid oedd dangos ein bod am fynnu addysg Gymraeg i'n plant beth bynnag y gost.
Bu swyddogion ac aelodau Capel Bethania. Heol Llundain, y tu hwnt o garedig wrthym o'r dechrau yn caniatau i ni gynnal cyfarfodydd yn eu festri. Nawr yr oeddynt hyd yn oed yn fodlon i ni gynnal ein hysgol yno am ddim, ond talu am y goleuo a'r gwresogi. Anghofia'r rhieni byth am eu cefnogaeth.
Hysbysebwyd am athrawes drwyddedig, a chynnig cyflog yn ôl y raddfa gydnabyddedig. Ymgeisiodd pedair am y swydd ac apwyntiwyd Gwenifer Burger o Ystalyfera, athrawes brofiadol ac awdures llyfrau i blant.
Yr oedd oedran y plant yn amrywio o bedair i naw. Yn fuan iawn sylweddolodd y rhieni fod trysor o athrawes ganddynt ac argraffwyd dros 500 o daflenni dwyieithog yn gwahodd rhieni anfon eu plant i'r ysgol newydd. Bu ymgyrch hefyd i godi arian, cynhaliwyd cyngherddau,ffeiriau sborion a dramâu, nosweithiau llawen a gêm rygbi. Daeth cyfraniadau oddi wrth amryw o unigolion a benthyciadau di-log sylweddol iawn.
Daliai'r rhieni i bwyso ar y Pwyllgor Addysg i gydnabod yr ysgol ond negyddol oedd eu hymateb. Cynyddu wnaeth y diddordeb yn yr ysgol gyda rhieni Cymraeg a di-Gymraeg yn barod i fentro ac anfon eu plant i'r ysgol.
Cyn i'r ysgol symud o Fethania, penderfynodd tadau'r plant baentio waliau festri Bethania, fel arwydd o ddiolch am eu caredigrwydd a'u cefnogaeth."
Dyma sut y cychwynnodd yr Ysgol Gymraeg. Mae'n stori hyfryd am ddewrder, ffydd, dyfalbarhad a dycnwch a diolch am eu haberth yn sicrhau bod trysor o ysgol wedi ei sefydlu ym medi 1954. Tyfodd y dosbarth cyntaf o 12 plentyn i fod yn ysgol lwyddiannus gyda 380 o blant erbyn heddiw.
Dathlwn felly y dechreuadau a hyfrydwn yn llwyddiant yr ysgol. Croeso 1'r dathlu ar Fedi 24ain. 2004.