| Gwahoddwyd nhw i anfon tîm o ddawnswyr i'r Ŵyl Gymreig gyntaf erioed yn Disneyland Paris. Nid ar hap y dewiswyd plant Castell-nedd i gymryd rhan yn yr Ŵyl hon. Enillodd yr ysgol y gystadleuaeth dawnsio gwerin dan 10 yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd eleni, ac yn sgil y llwyddiant yna daeth y gwahoddiad i fynd i Baris. Bydd yr Ŵyl, sydd i' w chynnal ar ddechrau Mawrth 2006, yn ddigwyddiad sylweddol, yn cynnwys twrnament rygbi, cystadleuaeth golff, marchnad grefftau a chyngherddau niferus. Bydd bwyd a diod o Gymru ar gael a holl awyrgylch Pentref Disney yn hollol Gymreig am gyfnod o 4 diwrnod. Gwahoddwyd corau a grwpiau roc a phop, bandiau jazz a phres, dawnswyr ac offerynwyr i ddiddori'r miloedd a ddisgwylir yno: ac yn
eu plith grŵp dawnsio gwerin Ysgol Gymraeg Castell-nedd. Hyfforddir y tîm, sydd yn cynnwys 12 o blant, gan Siân James, sydd wedi cael llwyddiant nifer o weithiau yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd. Bydd hi a Janet Jones, athrawes gerddoriaeth yr ysgol sydd hefyd wedi cael llwyddiant yn Eisteddfodau'r Urdd, yn brysur iawn dros y misoedd nesaf yn paratoi'r plant ar gyfer pum cyngerdd - tipyn o orchwyl i blant mor ifainc. Gyda nhw ar y daith bydd grŵp o offerynwyr sydd wedi bod yn ffyddlon iawn i'r ysgol dros y blynyddoedd. Bydd Janet Porter a Jane a Jonathan Morris yn cyfeilio i'r dawnswyr, ynghyd â Naomi a Steffan Morris sydd wedi cael eu rhyddhau o Ysgol Gyfun Ystalyfera ac Ysgol Yehudi Menuhin i fod yn rhan o'r band. Yn ychwanegol at y rhain oll, penderfynwyd gwahodd teuluoedd y plant hefyd, felly ar Fawrth yr 2i1 bydd 49 o bobl yn dechrau
ar eu ffordd o Gastell-nedd i Baris. Teimla Ysgol Gymraeg Castell-nedd yn falch iawn o gael ei dewis i fod yn rhan o'r Ŵyl yma, a fydd yn gyfle i arddangos holl ddoniau Cymru ym Mharis. Diolch i ymroddiad yr athrawon a gwaith caled y plant a ddaeth a'r cyfle gwych yma i ran yr ysgol, a phob llwyddiant iddyn nhw yn Disneyland Paris.Glynis Williams
 |