| Mae Steffan yn fab i Jonathan a Jayne Morris ac yn chwaer i Naomi ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Castell-nedd. Mae'n 12 mlwydd oed ac yn ei ail flwyddyn yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Mae'n dod o deulu cerddorol, a'i fodryb yw Janet Jones, athrawes yn yr Ysgol Gymraeg. Ers yn grotyn bu'n amlwg yng ngweithgareddau'r ysgol gan ennill sawl cystadleuaeth Eisteddfodol. Bu hefyd yn perfformio'r brif ddarnau 'Joseff ' yn sioe'r Ysgol Gymraeg ac 'Osian' yn Nia Ben Aur yn Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan, 2004. Bydd Ysgol Yehudi Menuhin yn rhoi cyfle iddo ddatblygu ei sgiliau cerddorol ymhellach. Er yn edrych ymlaen at sialens a bywyd addysgol hollol wahanol, mae'n cyfaddef ei fod ychydig yn betrusgar. Treuliodd ychydig ddyddiau yno i gael blas o'r lle, a bellach mae'nbarod. Dywedodd, "Chwedeg un disgybl sydd yn yr ysgol gyfan ac ond pedwar yn fy nosbarth. Bydd gwersi yn cychwyn am 7.30 y bore ac yn gorffen am 6 y nos! Bydd dwy wers academaidd y dydd - Hanes, Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth, pedair awr o ymarfer cerddorol a dwy awr o berfformio a chyfansoddi. Ar ben hyn i gyd mae dwy awr o astudio personol - hynny yw gwaith cartref." Ychwanegodd: "byddaf yn rhannu ystafell gyda dau fachgen arall, Sais ac un o Japan, ac er bydd awyrgylch yr ysgol yn hollol wahanol rwy'n credu y byddaf yn mwynhau. Serch hynny byddaf yn hiraethu am nifer o bethau, yn eu plith, Cyngherddau Cerddorfa Siambr Castell-nedd, fy ffrindiau yn Ystalyfera a'm teulu, bwyd mam a phics mam-gu!". Llongyfarchiadau a phob dymuniad da Steffan.
 |