| Brodor o Flaendulais yw Marvin Morgan a phan yn grwt byddai wrth ei fodd yn cynorthwyo ar ffermydd y cylch. Er mai i'r pyllau glo yr â rhan fwyaf o gryts y pentref i weithio bryd hynny, awyr iach y fferm oedd dyhead Marvin. Pan yn 16 mlwydd oed aeth yn was ffarm i Bedfedw, Pontlase ger Treforys. Fferm hollol draddodiadol oedd hon gyda'r ceffyl yn frenin y maes a'r fuwch fyrgorn y frenhines y beudy. Meddai Marvin "Godro a llaw a wnawn, gan nad oedd trydan ar gael bryd hynny. Cefais amser hapus a diddorol yn dysgu crefft hynaf ddynol ryw ac am hen grefftau cefn gwlad sydd erbyn hyn, yn anffodus, wedi llwyr diflannu. "Gwerthwyd fferm Penfedw a chafwyd arwerthiant yno ym 1952. Symudais i fferm gyfagos yn Felindre a chael dyrchafiad yn was mawr! Dysgais odro gan berchennog y fferm David Clement ac roedd bwyd maethlon ei briod Jane yn flasus tu hwnt. "Pentref bywiog Cymreig oedd Felindre bryd hynny ac yno y cefais hyd i wraig, Margaret Tucker a chodi tri o blant Bethan, John ac Eurig". Treuliodd gyfnodau yn ffermio yn Surrey, Trefynwy, Trawscoed a Merthyr Mawr ac yna fe'i penodwyd i staff Sain Ffagan ac yno y bu'n arddangos hen grefft y melinydd ym Melin Bompren. Cafodd gyfle i ailgydio yn y grefft a ddysgodd blynyddoedd yng nghynt, sef naddu ffyn cerdded a ffyn bugail. Anrhydedd mawr a ddaeth i ran Marvin oedd cerfio ffon fugail i Archesgob Desmond Tutu. Cerfiodd nifer o ffyn i Gymry Patagonia ac maen hyfryd meddwl bod ffyn o Gymry yn cael eu defnyddio ar baith cras y Wladfa. Un tro gwahoddwyd ef i ranch fawr yn Texas gan Americanwr. Tra'n gweithio yn Sain Ffagan y daeth i adnabod David John Davies (cefnder Nora Hendra, Tonna) gwas ffarm o Gaeo, Sir Gaerfyrddin. Bu ef ar staff yr Amgueddfa Werin am 31 mlynedd fel un a fu'n trin gwrychoedd, toi, cneifio, gwneud ffyn a basgedi gwiail. Roedd yn arbenigwr ar blethu Ceintell, sef basged o bren helygen, yr un siâp â chwrwgl. Fe'i defnyddiwyd ar ffermydd Sir Gaerfyrddin i gario pob math o gynnych amaethyddol a chan wraig y ffarm i gario dillad ar ddiwrnod golchi. D. J. oedd y basgedwr olaf yng Nghymru i wneud y math yma o fasged ac oni bai fod Marvin ddim ar gael byddai wedi hen ddiflannu. Ysywaeth dysgodd ef y grefft ac mae'n teithio'r wlad i arddangos ei grefft a'i gynnyrch. Gwelir ef ar Sadyrnau Crefft Sain Ffagan a ffeiriau tebyg.
 |